Sut i ystyried cynaliadwyedd amgylcheddol yn eich prosiect treftadaeth

Sut i ystyried cynaliadwyedd amgylcheddol yn eich prosiect treftadaeth

Three young men carrying willow

Mae newid yn yr hinsawdd eisoes yn effeithio ar ein treftadaeth, ein cymdeithas a'n hamgylchedd naturiol.

Rydym am i'r holl brosiectau rydym yn eu hariannu leihau – neu helpu lleoedd a phobl i addasu i – effeithiau newid yn yr hinsawdd. Rydym yn disgwyl i bob un ohonynt gael effaith gadarnhaol ar ein hamgylchedd ac rydym yn ystyried effeithiau amgylcheddol prosiect yn ein penderfyniadau.  

Mae hyn yn berthnasol i bob prosiect – p'un a yw ein cyllid yn cefnogi tirwedd gyfan, adfywio parc lleol, adnewyddu amgueddfa neu ddod â chymuned at ei gilydd.

Yr hyn a ddisgwyliwn gan brosiectau

Er mwyn cyrraedd ein gofyniad cynaliadwyedd amgylcheddol, rydym yn disgwyl i bob prosiect rydym yn ei ariannu:

  • cyfyngu ar unrhyw ddifrod posibl i'r amgylchedd  
  • cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd ac yn enwedig ar gyfer natur  

Bydd cynnwys cynaliadwyedd amgylcheddol o fewn eich prosiect o'r dechrau yn golygu bod eich prosiect yn debygol o fod yn fwy gwydn, yn gynaliadwy yn ariannol ac yn dod â manteision lluosog i bobl a'r gymuned.  

Rydym yn disgwyl gweld cynaliadwyedd amgylcheddol yn rhan annatod o benderfyniadau ymgeiswyr. Dylech hefyd ystyried sut i fesur eich cynaliadwyedd amgylcheddol a sicrhau bod hyn yn rhan o'ch strategaeth werthuso.

Cysylltiadau hanfodol

Ein gofyniad cynaliadwyedd amgylcheddol.

Darllenwch ein canllawiau arferion da manwl

Cael gafael ar gymorth ymarferol gan rwydwaith Addas i'r Dyfodol

Gerddi a mynwentydd

Basic Page

Gerddi a mynwentydd

Gall ein cyllid:

  • helpu i warchod strwythurau hanesyddol neu ail-greu nodweddion coll
  • helpu gerddi hanesyddol i wella eu bioamrywiaeth
  • adfer mynwentydd hanesyddol gan gynnwys atgyweirio henebion rhestredig a helpu pobl i werthfawrogi eu hanes
  • helpu i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o ddylunwyr gerddi
  • darpar
gydag awyr las uwchben
Partneriaeth Tirwedd Cors Romney

Basic Page

Tirweddau

Gan ddefnyddio arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym yn dosbarthu grantiau hyd at £10miliwn i gefnogi prosiectau treftadaeth.

Rydym yn disgwyl i brosiectau llwyddiannus ddangos sut y byddant yn mynd i'r afael â'r heriau allweddol sy'n wynebu tirweddau a natur y DU.

Yr hyn a

Mae bachgen yn dal gwyfyn tra bod menyw yn gwenu arno
Big City Butterflies.

Basic Page

Cynefinoedd a rhywogaethau

Rydym am i brosiectau wella ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o fyd natur, a helpu pobl i gael mynediad at ein treftadaeth naturiol unigryw, gofalu amdani a'i gwerthfawrogi.

Gan ddefnyddio arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym yn dosbarthu grantiau rhwng £10,000 a £10miliwn.

Gall