Tryloywder
Fel corff sy'n wynebu'r cyhoedd, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn rhwydd ac yn hawdd ei deall.
Rydym yn cyhoeddi ein holl adroddiadau a chyfrifon blynyddol o'r pum mlynedd diwethaf ar ein gwefan. Mewn rhannau eraill o'r adran hon, gallwch gael gwybod mwy am yr hyn a wnawn, sut yr ydym yn gweithredu, faint yr ydym yn ei wario a'n gweithlu.
Polisi a strategaeth
- Mae llywodraethau ar draws y DU yn rhoi cyfarwyddiadau polisi i ni sy'n llywio ein gwaith.
- Mae ein Cynllun Cyflwyno Treftadaeth 2033: 2023–2026 yn amlinellu faint y byddwn yn ei fuddsoddi a sut y byddwn yn cyflwyno nodau ein strategaeth 10 mlynedd, Treftadaeth 2033, dros y tair blynedd gyntaf.
Ein dyfarniadau
- Mae deddfwriaeth y Loteri Genedlaethol yn rhoi'r pŵer i ni wahodd ceisiadau ar gyfer dosbarthu arian y Loteri Genedlaethol. Pan wneir penderfyniad i wahodd cais, rydym yn cyhoeddi’r manylion ar ein gwefan.
- Ystyrir bod rhai o'n dyfarniadau'n gymorthdaliadau. Rydym yn cyhoeddi manylion y rhain ar ein tudalen rheoli cymhorthdal.
Caffael, tendrau a thrafodion
- Yn unol ag arweiniad Swyddfa'r Cabinet, rydym yn cyhoeddi gwybodaeth am gaffael. Gellir dod o hyd i bob gwahoddiad i dendro ar wasanaeth Darganfod contractau neu wasanaeth Dod o hyd i wasanaeth tendro GOV.UK, gan ddibynnu ar faint y tendr.
- Yn unol ag arweiniad Swyddfa'r Cabinet, rydym hefyd yn cyhoeddi manylion trafodion dros £500.
Cofrestrau Buddiant
- Mae holl aelodau ein Bwrdd, ein pwyllgorau, a’n tîm Gweithredol yn gwneud eu buddiannau’n gyhoeddus drwy ein Cofrestr Buddiannau – Bwrdd a phwyllgorau a'n Cofrestr Buddiannau – Tîm Gweithredol.
Cydraddoldeb
- Mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiad yn seiliedig ar Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban a Chynllun Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon.
Ein pobl
- Rydym yn postio ein holl fanylion diweddar am strwythur, cyflogau a threuliau staff yn ein hadroddiadau blynyddol.
- Rydym hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth ein gweithlu, y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ac amser cyfleuster undeb llafur.
Rhyddid Gwybodaeth
- Rydym yn cyhoeddi cofnod o'r ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth yr ydym wedi'u derbyn ac yn diweddaru'r rhestr hon bob chwe mis.
- Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i ni gyhoeddi Cynllun Cyhoeddiadau sy'n disgrifio'r wybodaeth rydym yn ei chyhoeddi fel mater o drefn, ble y gallwch ddod o hyd iddi a p'un a ydym yn codi tâl amdani ai beidio. Nid yw'n rhestr o'n cyhoeddiadau: mae'n disgrifio'r mathau o wybodaeth a gyhoeddwn.
Os oes gwybodaeth benodol heb ei chynnwys yma yr hoffech ei gweld neu ei chyrchu, anfonwch e-bost foi@heritagefund.org.uk.