Cynefinoedd a rhywogaethau

Big City Butterflies.
Credyd: Chris O'Donovan.
Rydym yn cefnogi prosiectau sy'n gwarchod ac yn gwella cynefinoedd rhywogaethau.
Rydym am i brosiectau wella ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o fyd natur, a helpu pobl i gael mynediad at ein treftadaeth naturiol unigryw, gofalu amdani a'i gwerthfawrogi.
Gan ddefnyddio arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym yn dosbarthu grantiau rhwng £10,000 a £10miliwn.
Gall ein cyllid eich helpu i:
- gwella cynefinoedd sydd dan fygythiad
- helpu pobl i archwilio ein moroedd a'u bywyd gwyllt
- gwella llif afon araf ac ansawdd dŵr
- defnyddio natur a bod allan yn yr awyr agored i wella bywydau, iechyd a llesiant pobl
- addysgu pobl am ddaeareg leol a sut mae'n effeithio arnom ni
Yr hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gan brosiectau
Mae’n bwysig ein bod yn arwain ac yn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i ofalu’n well am ein byd naturiol.
Rydym felly am weld prosiectau a fydd yn gwneud gwahaniaeth strategol i fyd natur. Gallai hyn olygu:
- gweithio ar raddfa tirwedd
- creu partneriaethau newydd uchelgeisiol
- archwilio, profi a rhannu ffyrdd newydd o weithio
- ymchwilio i ffynonellau incwm newydd ar gyfer cadwraeth byd natur
- ysbrydoli a chefnogi ffyrdd newydd o helpu pobl i ymgysylltu â byd natur