Sut i wneud cais
Dim ond i’n rhaglen Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol y mae'r canllaw hwn yn berthnasol.
O bryd i'w gilydd rydym yn dosbarthu rhaglenni ariannu eraill, gan gynnwys ar gyfer llywodraethau ar draws y DU. Cyfeiriwch at dudalen arweiniad pob rhaglen i gael gwybod ar gyfer pwy y mae'r rhain, beth yw eu nodau a sut i wneud cais.
1. Deall yr hyn a ariannwn
Rydym yn ariannu prosiectau o bob maint sy'n gofalu am dreftadaeth y DU. Cyn i chi ddechrau, darganfod mwy am yr hyn a ariannwn.
2. Datblygu syniad prosiect
Mae ein rhaglen Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cynnig ariannu ar ddwy lefel:
Darllenwch y dudalen arweiniad ar gyfer pob amrediad yn ofalus er mwyn deall:
- beth mae'r rhaglen yn ei gynnig
- at bwy y mae wedi'i anelu
- y gwahaniaeth y mae angen i'ch prosiect ei wneud
Darganfyddwch sut i ddeall ac egluro eich treftadaeth i gefnogi eich cais am gyllid. Gallwch hefyd weld prosiectau rydym wedi'u hariannu'n flaenorol am ysbrydoliaeth.
3. Derbyn adborth ar eich syniad ar gyfer prosiect
- £10,000 i £250,000: gallwch ddefnyddio ein Ymholiad Prosiect dewisol i dderbyn adborth o fewn 10 diwrnod gwaith.
- £250,000 i £10m: rhaid i chi gyflwyno Mynegiad o Ddiddordeb cyn dechrau cais am ariannu llawn. Dylech dderbyn adborth o fewn 20 diwrnod gwaith.
4. Cyflwyno cais am ariannu
Defnyddiwch ein gwasanaeth Cael ariannu ar gyfer prosiect treftadaeth pan fyddwch yn barod i gyflwyno'ch cais. Bydd y gwasanaeth yn eich arwain trwy'r gwahanol gamau.
Gwneud cais am fwy na £250,000?
- Os ydych am wneud cais am fwy na £250,000, mae'n rhaid i chi gyflwyno Mynegiad o Ddiddordeb yn y lle cyntaf.
- Os yw eich Mynegiad o Ddiddordeb yn llwyddiannus, byddwch wedyn yn cyflwyno cais cam datblygu.
- Os bydd eich cais cam datblygu'n llwyddiannus, byddwch yn cael eich ariannu a bydd gennych hyd at ddwy flynedd i ddatblygu cynnig prosiect manwl ar gyfer eich cais cam cyflwyno.
- Pan fyddwch yn barod, byddwch wedyn yn cyflwyno eich cais cam cyflwyno.
Ein terfynau amser ymgeisio
- £10,000 i £250,000: ar agor drwy gydol y flwyddyn
- £250,000 i £10m (camau datblygu a chyflwyno): terfynau amser ymgeisio chwarterol
5. Derbyn penderfyniad ar eich cais
- Ar ôl ei dderbyn, caiff eich cais ei wirio i sicrhau bod eich sefydliad yn gymwys a bod yr holl ddogfennaeth ofynnol wedi'i hatodi.
- £10,000 i £250,000: Ar ôl cwblhau'r gwiriadau ymgeisio, dylech dderbyn penderfyniad o fewn wyth wythnos. Gwneir penderfyniadau mewn cyfarfodydd lleol bob mis.
- £250,000 i £5m (camau datblygu a chyflwyno): Byddwn yn cymryd hyd at 12 wythnos i asesu eich cais. Wedyn fe gaiff ei gyflwyno i un o'n cyfarfodydd Pwyllgor chwarterol. Byddwch yn derbyn penderfyniad cyn gynted â phosibl ar ôl cyfarfod.
- Dros £5m (camau datblygu a chyflwyno): Byddwn yn cymryd hyd at 12 wythnos i asesu eich cais. Wedyn fe gaiff ei gyflwyno i un o'n cyfarfodydd Pwyllgor chwarterol ac wedi hynny i un o'n cyfarfodydd Bwrdd. Byddwch yn derbyn penderfyniad cyn gynted â phosibl ar ôl cyfarfod Bwrdd.
Os ydych yn llwyddiannus
Byddwch yn defnyddio ein gwasanaeth ar-lein i dderbyn a rheoli eich grant. Cael gwybod mwy am beth fydd yn digwydd os dyfernir grant i chi:
Os nad ydych yn llwyddiannus
Byddwn yn rhoi adborth ar eich cais cyn gynted â phosibl ar ôl y cyfarfod penderfynu. Gallwch ddewis ailymgeisio wedyn gyda chais diwygiedig ond mae'n rhaid i chi siarad â ni am hyn yn gyntaf.