Sut rydym yn taclo'r argyfwng hinsawdd
Byddwn yn gwneud hyn drwy:
- weithio ar y cyd a rhannu arfer gorau ar draws adferiad byd natur, cyfiawnder hinsawdd ac addasu i'r hinsawdd
- lleihau ein heffaith amgylcheddol a gweithio tuag at ddau uchelgais carbon sero net:
- nod tymor canolig o garbon sero net cyn 2030 ar gyfer ein gweithrediadau, datgarboneiddio ein swyddfeydd, teithio, gwastraff a phwrcasiadau
- nod hirdymor o gyrraedd sero net ar gyfer ein buddsoddiadau a'n grantiau (targedau'n seiliedig ar wyddoniaeth yn unol â Chytundeb Paris 2015)
Rydym yn adrodd ar ein heffaith amgylcheddol fel rhan o'n Hadroddiad a Chyfrifon Blynyddol.
Gallwch ddysgu mwy am ein blaenoriaethau sefydliadol yn ein cynllun cyflwyno (2023–2026).
Newid sefydliadol
Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid yn y sector i weithredu. Darllenwch ein datganiad ar y cyd ar newid yn yr hinsawdd.
Er mwyn cyrraedd allyriadau carbon sero net o fewn ein gweithrediadau erbyn 2030, rhaid i ni fynd i’r afael â thri sector allyriadau allweddol:
- Mae swyddfeydd yn cyfrannu 11% o ôl troed y Gronfa Treftadaeth drwy'r defnydd o drydan a nwy. Ni ddisgwylir datgarboneiddio’r grid cenedlaethol yn llwyr tan ganol y 2030au, felly bydd angen cymryd camau i leihau’r allyriadau hyn cyn 2030.
- Trafnidiaeth, sy'n cynnwys teithio busnes a chymudo gweithwyr, yw 21% o'r allyriadau nwyon tŷ gwydr gwaelodlin. Mae'r mwyafrif o'r rhain yn gysylltiedig â chymudo gweithwyr, y mae gan y Gronfa Treftadaeth lai o ddylanwad drosto. Mae datgarboneiddio'r gweithgaredd hwn yn debygol o fod yn ddibynnol iawn ar gyhoedd y DU yn pontio i gerbydau trydan.
- Caffael nwyddau a gwasanaethau yw'r cyfraniad mwyaf arwyddocaol, sef 68% o gyfanswm allyriadau gwaelodlin y Gronfa Treftadaeth. Mae sefydliadau yn aml yn ddibynnol iawn ar newidiadau allanol o fewn eu cadwyn gyflenwi i ddatgarboneiddio’r allyriadau hyn.
Hyd yma rydym wedi:
- archwilio pob gofod swyddfa
- sefydlu adolygiad treigl o swyddfeydd yn unol ag adnewyddiadau prydles, i adolygu lleoliad, maint, ansawdd ac effaith pob swyddfa ar gynaladwyedd
- symud i swyddfeydd newydd yn rhagweithiol mewn ymateb i'r archwiliad er mwyn arwain ar ddatgarboneiddio ein hystâd swyddfeydd
- gwella effeithlonrwydd ynni ein swyddfeydd a lleihau costau rhedeg drwy leihau'r defnydd o ddeunyddiau papur, offer, ynni a dŵr, gan ostwng allyriadau CO2 a lleihau gwastraff
- cyfran uwch o ddyfeisiadau wedi'u hadnewyddu, gyda phwyslais ar ffonau symudol, gorsafoedd docio a monitorau
- gweithredu strategaeth cadw a dadlwytho data i atal ymlediad cwmwl yn unol â chanllawiau'r llywodraeth
- monitro allyriadau o storio yn y cwmwl yn weithredol i nodi meysydd i'w gwella
- gweithio gyda chyflenwyr presennol i ddatgarboneiddio’r gwasanaethau rydym yn eu caffael
- diweddaru arweiniad recriwtio i gynnwys ystyriaeth o'r effaith amgylcheddol wrth benderfynu ar leoliad rôl swydd
- ymgorffori sgiliau cynaladwyedd amgylcheddol perthnasol yn y fframwaith sgiliau
- ymgorffori cynaladwyedd yn y croeso i staff
- sicrhau bod ein gwefan yn cael ei phweru gan ynni gwyrdd, gydag adolygiadau rheolaidd i leihau defnydd ein tudalennau gwe o ynni
Rhoi grantiau a'r argyfwng hinsawdd
Rydym yn cefnogi prosiectau treftadaeth sy'n helpu'r DU i gyrraedd ei thargedau adferiad byd natur ac i liniaru effaith newid yn yr hinsawdd ar dreftadaeth drwy ein hegwyddor fuddsoddi Diogelu'r Amgylchedd.
Erbyn 2033 byddwn wedi:
- Cychwyn adferiad tirweddau a chynefinoedd mewn mannau trefol a gwledig, fel eu bod yn cefnogi treftadaeth naturiol doreithiog a systemau naturiol iach
- Cynyddu dealltwriaeth a chysylltiad pobl â natur ar draws trefi, dinasoedd a chefn gwlad
- Isafu effaith amgylcheddol negyddol ac ôl-troed carbon ein portffolio ariannu
- Gwella galluoedd treftadaeth naturiol a diwylliannol wrth gynllunio ar gyfer hinsawdd sy'n newid ac addasu iddo, a helpu prosiectau i weithredu dros yr amgylchedd
Yr hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gan y prosiectau a ariannwn
Darllen ein canllaw arfer da ar gynaladwyedd amgylcheddol.