Swyddi gyda Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
Credwn mewn nerth treftadaeth i danio'r dychymyg, cynnig llawenydd ac ysbrydoliaeth. Rydym yn ystyried bod treftadaeth yn eang ac yn gynhwysol, gan addasu i ddefnyddiau a heriau cyfoes ac yn y dyfodol. Mae treftadaeth yn helpu meithrin balchder mewn lle a chysylltiad â’r gorffennol, mae'n dod â phobl ynghyd ac mae o fudd i’n hamgylchedd naturiol.
Negeseuon gan ein pobl
Diolch am ddangos diddordeb mewn gweithio gyda Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Rydyn ni'n cefnogi pob math o dreftadaeth ym mhob rhan o'r DU. Gallai hynny gynnwys parc lleol, tirwedd syfrdanol, adeilad hanesyddol neu gasgliad o atgofion. Rydym yn angerddol dros y gwahaniaeth y mae'r dreftadaeth hon yn ei wneud i fywydau pobl. Os ydych chi'n gyffrous am helpu i sicrhau bod treftadaeth yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb, rydym am glywed oddi wrthych.
Rydym hefyd eisiau adlewyrchu’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu ac yn buddsoddi ynddynt. Felly, beth bynnag fo'ch cefndir a beth bynnag fo'ch profiad, rydym yn croesawu'ch cais.
Ein gwerthoedd
Mae pedwar gwerth yn ganolog i bopeth a wnawn – rydyn ni'n gynhwysol, yn uchelgeisiol, yn gydweithredol ac mae pob yn ymddiried ynom ni.
Mae'r rhain yn ein helpu adeiladu llwyddiant ar gyfer ein pobl yn ogystal ag ar gyfer treftadaeth, cymunedau a'r amgylchedd. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n darllen am y gwerthoedd hyn cyn gwneud cais i ni, gan eu bod yn ffurfio rhan ganolog o’r broses ymgeisio.
Mae ein gwerthoedd a’n hymddygiadau'n gwneud Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn lle gwych i weithio. Gobeithiwn yn fawr iawn y gallwch ymuno â ni.
Cofion gorau a phob lwc gyda'ch cais.
Mae ein rhwydweithiau staff yn darparu man diogel i weithwyr gael sgyrsiau gonest a gwir ar y profiad bywyd-gwaith, gan amlygu meysydd i'w gwella a meysydd o lwyddiant. Maen nhw'n hanfodol o ran gwella diwylliant o gynhwysiad a sicrhau bod pobl yn teimlo y gallant ddod â'u hunain cyfan i'r gwaith.
Maent yn fannau ar gyfer dysgu a mentora, lle gall aelodau rannu profiadau ei gilydd o lygad y ffynnon. Mae rhwydweithiau hefyd yn rhoi llais cyfunol i weithwyr grwpiau sydd wedi'u hymylu, un a all helpu creu profiad gwaith gwell ar draws y sefydliad.
Ein rhwydweithiau presennol yw:
- anableddau
- mwyafrif byd-eang
- croestoriadedd
- LHDT+
- niwroamrywiaeth
- menywod ac anneuaidd
Yr hyn y mae aelodau ein rhwydweithiau staff yn ei ddweud:
Aelod o'r rhwydwaith niwroamrywiaeth: "Mae’n oleuedig bod o gwmpas pobl sydd â phrofiad o niwroamrywiaeth o lygad y ffynnon, sy’n gallu myfyrio a chynnig cyngor a chymorth gwych. Mae cynnwys cynghreiriaid a phobl ag aelodau teulu sy'n niwroamrywiol hefyd yn bwysig i ddeinameg y rhwydwaith hwn."
Aelod o'r rhwydwaith mwyafrif byd-eang: "Ymunais ychydig wythnosau ar ôl dechrau yn y Gronfa Treftadaeth. Mae wedi bod yn lle hynod gefnogol a chroesawgar i gwrdd â chydweithwyr o’r un anian, ac yn fan hynod bwysig i ni sgwrsio, yn rhydd rhag cael ein barnu, mewn amgylchedd diogel yn llawn anogaeth. Fel aelod o’r rhwydwaith mwyafrif byd-eang, gwn fod gennyf grŵp o gydweithwyr a fydd yno i’m cefnogi os byddaf byth yn wynebu unrhyw heriau neu broblemau yn y gwaith, ac rwy’n falch iawn o gael y grŵp hwn o gymheiriaid y gellir ymddiried ynddynt i fod yn gefn i mi."
Aelod o'r rhwydwaith LHDT+: "Mae’n ymwneud â rhannu ein profiadau o lygad y ffynnon fel cydweithwyr a chynghreiriaid LHDT+. Rydyn ni'n cefnogi ac yn herio’r Gronfa Treftadaeth i barhau i fod yn gynhwysol fel cyflogwr. Mae’r rhwydwaith hefyd yn fan diogel i godi heriau neu anghenion cefnogi, fel ein bod ni i gyd yn datblygu. Yn olaf, rydyn ni'n datblygu ein hunain drwy’r dreftadaeth a ariannwn ac yn parhau i ddysgu a gwella.”
Ydych chi'n angerddol dros sicrhau bod diwylliant wedi'i ymwreiddio ym mhob rhan o'ch sefydliad? Felly yr ydym ni.
Mae ein Hyrwyddwyr Diwylliant yn ffurfio rhwydwaith cymheiriaid ar draws y sefydliad sy'n cynrychioli ein pobl. Rydyn ni'n gydweithwyr mewn cymysgedd o rolau, timau a lleoliadau ar draws y Gronfa Treftadaeth. Mae gennym ddiddordeb cyffredin mewn diwylliant a chyfrannu ein profiadau ein hunain - a llais cyfunol y staff - at gynlluniau a gweithgareddau ein sefydliad. Rydym hefyd yn llysgenhadon ar gyfer gwerthoedd ac ymddygiad y Gronfa Treftadaeth ar draws y sefydliad.
Rydym yn grŵp sy’n cael ei werthfawrogi a’i barchu, sy’n cydweithio ag arweinwyr i ddylanwadu ar benderfyniadau cynllunio busnes mewn meysydd fel cyflog a buddion, ein strategaeth a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiad. Teimlwn ein bod ni wedi'n grymuso i fod yn agored ac yn onest, i herio'r sefyllfa bresennol ac i rannu ein gwybodaeth a'n harbenigedd.
Rydym hefyd yn cael cyfleoedd i adeiladu ein sgiliau gyda hyfforddiant ar ddulliau cyfathrebu, rheoli i fyny, hyfforddi a hwyluso.
Rydym bob amser am groesawu aelodau newydd i ddod â mewnwelediadau, syniadau a phrofiad amrywiol i'r grŵp. Os ydych chi'n llwyddiannus gyda'ch cais, hoffem glywed oddi wrthych yn fawr.
Dymunwn bob lwc i chi.
Ein huchelgais yw cyrraedd carbon sero-net ar gyfer ein gweithrediadau erbyn 2030. Mae’n nod pwysig ac yn un yr ydym wedi gwneud cynnydd gwych tuag ato’n barod.
Rydym wedi gwella ein swyddfeydd ac wedi blaenoriaethu teithio ar drenau. Rydym hefyd yn gwella ein diwylliant drwy gynlluniau ymgysylltu â staff, gan gwmpasu pob agwedd ar ddatblygu cynaliadwy. Yn 2023, enillodd naw tîm o staff wobrau drwy'r cynllun hwn.
A thrwy ein hegwyddor buddsoddi amgylcheddol, rydym yn cefnogi'r sector treftadaeth wrth newid i ddyfodol cynaliadwy.
Ehangder ac amrywiaeth
Fel y prosiectau rydyn ni'n eu hariannu, mae ein staff wedi'u lleoli ar draws y DU. Mae gennym ni rolau ym meysydd buddsoddi ac ymgysylltu, polisi, strategaeth, ymchwil, marchnata a chyfathrebu, cyfreithiol a llywodraethu, AD, TG, cyllid a mwy.
Gallwch ddysgu am fanteision gweithio gyda ni a bwrw golwg ar ein swyddi gwag presennol isod. Rydym hefyd yn postio cyfleoedd i ymuno â'n bwrdd a'n pwyllgorau.