Dathlwch ein bywyd morol rhyfeddol ar Ddiwrnod Moroedd y Bydlife this World Oceans Day

Mae Moroedd Byw Cymru wedi rhannu ffeithiau hwyliog â ni am 12 o greaduriaid môr rhyfeddol, sydd i gyd i'w gweld o amgylch ein harfordir.
Fe wnaethon nhw roi cynghorion defnyddiol i ni ar bethau y gallwn ni eu gwneud i helpu i warchod ein byd morol. Mae Rheolwraig Prosiect Moroedd Byw Cymru, Nia Jones yn argymell y canlynol:
• lleihau (neu ddiweddu) defnydd plastig untro
• casglu sbwriel pan fydd ar y traeth
• cyrchu bwyd môr yn gynaliadwy
• lleihau'r defnydd o’r ynni yr ydym yn ei ddefnyddio gartref
Dywedodd:
"Mae dweud wrth bobl pa mor anhygoel yw ein bywyd gwyllt morol a pham ei bod yn bwysig gofalu amdano yn gallu gwneud gwahaniaeth."
Dolffiniaid Risso
Nid oes gan Ddolffiniaid Risso ddannedd yn eu gên uchaf ac maen nhw’n gallu llyncu ysglyfaeth gyfan.

Gwlithen Fôr Noethdagellog
Daw’r enw Gwlithen Fôr Noethdagellog (nudibranch) o'r Lladin am "noeth " a "tagell", gan nad yw eu tegyll yn cael eu gorchuddio gan gragen fel rhai malwod morol eraill.

Sglefren Fôr Ddanhadlen
Mae’r Sglefren Fôr Ddanhadlen yn gallu newid rhyw o wryw i fenyw wrth iddynt aeddfedu. Mae’r Sglefren Fôr yn 95% o ddŵr ac nid oes ganddyn nhw ymennydd, gwaed na chalon.

Cimychiaid
Gall cimychiaid fyw am byth - nid yw heneiddio'n cynyddu eu siawns o farw, diolch i’r ensym o'r enw telomerase.

Morloi Llwyd yr Iwerydd
Mae Morloi Llwyd yr Iwerydd yn ddeifwyr arbennig a gallant gyrraedd dyfnder o tua 70 metr wrth chwilio am fwyd, gan ddal eu gwynt am hyd at 16 munud.

Pysgodyn yr Haul
Pysgodyn yr Haul yw pysgodyn bonedd mwyaf y byd, gan gyrraedd hyd at dri metr o hyd. Gellir eu gweld yn ystod misoedd yr haf yn 'torheulo' ar wyneb y môr.

Molysgiaid
Mae brennig a molysgiaid eraill yn darparu cyswllt hanfodol yn y gadwyn fwyd ar gyfer llawer o'n rhywogaethau prinnaf.

Morfeirch
Mae dau rywogaeth o forfarch yn y DU: pigog/dreigiog [yn y llun] a thrwynog. Morfeirch yw'r unig rywogaeth sydd â gwryw beichiog: mae'r fenyw yn trosglwyddo'r wyau i'r gwryw sy'n hunan-ffrwythloni.

Cranc heglog
Mae crancod heglog yn gallu byw hyd at 100 oed ac mae eu coesau'n 13 troedfedd.

Morgath bigog
Mae'r Forgath bigog yn claddu ei hun yn y gwaddod yn ystod y dydd ac yn dod allan o’r llwch i hela yn y nos.

Anemoni’r Môr
Mae anemonïau môr yn byw wrth greigiau, gan ddal plancton ac anifeiliaid bach o'r dŵr gyda'u crafangau.

Heulforgi
Mae ail bysgodyn mwyaf y byd, yr heulforgi, i'w weld yn nyfroedd Cymru yn ystod misoedd yr haf. Fodd bynnag, mae eu niferoedd wedi gostwng dros 95% o amgylch y DU.

Beth yw Moroedd Byw Cymru?
Mae prosiect Moroedd Byw Cymru yr Ymddiriedolaeth Natur yn defnyddio arian y Loteri Genedlaethol i ddod o hyd i ffyrdd y gallwn helpu i ofalu am ein cefnforoedd.
Mae'r prosiect yn ailgysylltu pobl i fyd cefnfor cyfoethog na ellir ei weld yn hawdd, ac yn helpu i'w troi'n gefnogwyr cadwraeth. Mae'r gweithgareddau a ariannwyd ganddynt yn cynnwys:
• ymchwil hanesyddol
• ramiadau pwll creigiau
• pencampwriaethau pentyrru cregyn meheryn
• gwylio bywyd gwyllt
• glanhau y traeth
• arolygon o Wyddoniaeth Dinasyddion
• hyfforddiant cadwraeth
• gweithdai crefft sydd wedi'u hailgylchu
Darganfyddwch fwy am weithgareddau Moroedd Byw Cymru ar Ddiwrnod Moroedd y Byd ar eu tudalen Facebook.