Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio ar y cyd â’r Loteri Genedlaethol ar fenter Parciau’r Dyfodol
Dyma'r prosiect cyntaf o'i fath yn y DU a phartneriaeth arloesol rhwng yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, gyda chymorth gan y llywodraeth.
Drwy becyn o grantiau a chanllawiau arbenigol, nod Parciau’r Dyfodol yw mynd i'r afael, yn uniongyrchol, â'r heriau ariannol cynyddol sy'n wynebu parciau cyhoeddus, sy'n eu rhoi mewn perygl difrifol ar gyfer y dyfodol.
Bydd awdurdodau lleol a chymunedau yn cael eu grymuso i ddod o hyd i ffyrdd arloesol a chynaliadwy o reoli ac ariannu parciau a mannau agored ar draws trefi a dinasoedd cyfan.
Rheoli parciau’n wahanol
Mae'r awydd a'r angen i reoli parciau'n wahanol yn glir. Gwnaeth wyth deg un o grwpiau eraill ymgeisio i fod yn rhan o Barciau'r Dyfodol, gyda'i gilydd yn gofyn am fwy na £60miliwn ar gyfer cynlluniau newydd.
Dewiswyd yr wyth lle, a oedd yn rhychwantu poblogaeth o bum miliwn o bobl, ar gyfer eu strategaethau uchelgeisiol a chreadigol i roi lle canolog i fannau gwyrdd mewn cymunedau lleol.
Bydd y prosiectau yn:
- gwneud mannau gwyrdd yn ganolog i fywyd cymunedol bob dydd;
- rhoi fwy o rôl i'r cyhoedd yn y ffordd y cânt eu rheoli;
- sicrhau bod parciau'n cyfrannu mwy at iechyd meddwl a chorfforol y cyhoedd;
- a thrawsnewid y ffordd y cânt eu hariannu i sicrhau eu dyfodol.
Er enghraifft, yn Islington a Camden bydd y cynghorau yn canolbwyntio ar ddefnyddio parciau a mannau gwyrdd i wella iechyd a lleiant drwy ddatblygu cysylltiadau agosach â'r GIG, darparwyr iechyd, meddygon ac elusennau iechyd.
Y lleoedd llwyddiannus eraill yw:
- Birmingham
- Bournemouth, Christchurch a Poole;
- Bryste
- Swydd Gaergrawnt (ledled y sir, sy'n cwmpasu saith ardal cyngor);
- Caeredin;
- Nottingham;
- Plymouth
Dywedodd Hilary McGrady, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
"Mae heddiw yn foment nodedig i barciau trefol y genedl.”
"Nid yn unig y mae hyn yn ymwneud â ffyrdd newydd o ariannu a chefnogi'r mannau cymunedol hyn sy'n fawr eu croeso, ond mae'n ail-feddwl yn llwyr am y rhan y mae mannau gwyrdd yn ei chwarae yn ein bywydau a sut y gallwn sicrhau eu bod yn ffynnu am genedlaethau i ddod."
Y ddwy flynedd nesaf
Yn ystod y ddwy flynedd nesaf, bydd yr wyth lle yn gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu offer, dulliau gweithredu, sgiliau a chyllid i greu eu ffordd newydd o reoli mannau gwyrdd yn ogystal â rhannu eu profiadau gyda chynghorau eraill.
Cewch ragor o wybodaeth ar dudlaen Parciau’r Dyfodol.