Parciau cyhoeddus a mannau gwyrdd trefol
Yn ogystal â darparu gwerddonau gwyrdd mewn cymdogaethau trefol a chartref i fywyd gwyllt, mae parciau a mannau gwyrdd yn adnodd cyhoeddus hanfodol, sydd o fudd i fywydau, llesiant ac iechyd pobl.
Rydym am ariannu prosiectau sy’n cysylltu mwy o bobl â byd natur, a helpu i roi hwb i fioamrywiaeth ac adferiad byd natur.
Mae ein Rhaglen Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ar agor, yn darparu grantiau rhwng £10,000 a £10miliwn i gefnogi prosiectau treftadaeth ar draws y DU.
Gallai ein hariannu eich helpu i:
- adfer ac adfywio parc cyhoeddus, mynwent neu ardd hanesyddol sydd ar agor i'r cyhoedd
- gwella mynediad a dealltwriaeth o barc neu fan gwyrdd hanesyddol
- gwella cysylltiadau pobl â byd natur
- helpu gwireddu manteision mannau gwyrdd cyhoeddus sy’n cael eu rheoli a’u cynnal a chadw'n dda ar gyfer cymunedau, yr economi ac iechyd y cyhoedd
- gwella cynefinoedd a helpu byd natur i ymadfer
- adeiladu ymdeimlad o falchder mewn lle trwy adfywio mannau gwyrdd cymunedol
Pethau allweddol i'w darllen
- ein canllaw i brosiectau tirweddau a byd natur
- astudiaethau achos a gwersi a ddysgwyd o Future Parks Accelerator
Archwiliwch ein buddsoddiad
Dysgwch fwy am ein hymrwymiad i barciau trefol a mannau gwyrdd cyhoeddus yn y DU.
Nid oes gan filiynau o bobl sy'n byw mewn ardaloedd trefol fynediad hanfodol at fyd natur a mannau gwyrdd. Bydd ein rhaglen bartneriaeth newydd, Trefi a Dinasoedd Natur yn mynd i’r afael â hyn drwy helpu awdurdodau lleol i gydweithio â chymunedau i ddod â byd natur i bob cymdogaeth er mwyn i bawb ei fwynhau. Ochr yn ochr ag adeiladu rhwydweithiau cryfion, rhannu arbenigedd ac achrediad, rydym wedi cyhoeddi £15m o ariannu ar gyfer parciau a mannau gwyrdd trefol.
Cefnogodd Future Parks Accelerator (FPA) wyth awdurdod lleol i ddatblygu atebion uchelgeisiol a chynaliadwy i ddiogelu, gwella a gwneud mwy o ddefnydd o barciau cyhoeddus a mannau gwyrdd trefol.
Darganfod mwy am y rhaglen a hefyd awgrymiadau a chyngor ar reoli mannau gwyrdd mewn lleoedd trefol.
Ewch i wefan FPA am fwy fyth o adnoddau.
Rhaglen £1miliwn ar y cyd gwerth rhwng Nesta, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a’r Gronfa Gymunedol, a lansiwyd yn 2013. Ei nod oedd ariannu a chefnogi arloeswyr parciau i ddatblygu, gweithredu a lledaenu dulliau newydd o gynnal a manteisio i'r eithaf ar barciau cyhoeddus yn y DU.
Mae dros 20 o brosiectau arloesi bellach wedi’u cyflwyno gan gefnogi rheolwyr parciau, grwpiau cymunedol ac elusennau eraill i ailfeddwl sut y gallai parciau trefol a mannau gwyrdd gael eu rheoli a’u hariannu yn y dyfodol.
Darllen casgliad o ysgrifau am Rethinking Parks, a gynhyrchwyd gan Nesta ar ôl diwedd y rhaglen ym mis Hydref 2020. Gallwch hefyd ddarganfod cyfres o ddiweddariadau prosiect craff a phecyn cymorth a grëwyd gan Nesta, sy'n cofnodi profiadau dysgu'r prosiectau a fu'n ymwneud â'r rhaglen.
Mae'r adroddiad Lle i Ffynnu, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2020, yn adolygiad cyflym o dystiolaeth o’r buddion y mae parciau a mannau gwyrdd yn eu cynnig i bobl a chymunedau.
Dyma ei argymhellion allweddol:
- Dylid ystyried parciau fel seilwaith cymdeithasol yn ogystal â ffisegol.
- Dylid rheoli parciau a mannau gwyrdd i gefnogi iechyd a lles.
- Dylid rheoli parciau a mannau gwyrdd i annog cysylltiadau â byd natur.
Dyma Paul Farmer, Prif Weithredwr yr elusen iechyd meddwl Mind, yn myfyrio ar sut y gall mannau gwyrdd wella lles ar ôl i’r adroddiad hwn gael ei gyhoeddi.