Gerddi a mynwentydd
Mae’r DU yn fyd-enwog am ei gerddi a’i mynwentydd dyluniedig hanesyddol.
Rydym am ariannu prosiectau sy'n helpu adfer y lleoedd arbennig hyn, helpu pobl i ymgysylltu â threftadaeth naturiol a gwella cynefinoedd ar gyfer byd natur.
Gan ddefnyddio arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym yn dosbarthu grantiau rhwng £10,000 a £10miliwn i gefnogi prosiectau treftadaeth ar draws y DU.
Gallai ein hariannu eich helpu chi i:
- warchod adeileddau hanesyddol neu ail-greu nodweddion coll
- helpu gerddi hanesyddol i wella eu bioamrywiaeth
- adfer mynwentydd hanesyddol gan gynnwys atgyweirio henebion rhestredig a helpu pobl i werthfawrogi eu hanes
- helpu dathlu a chodi ymwybyddiaeth o ddylunwyr gerddi
- darparu hyfforddiant a phrentisiaethau mewn sgiliau garddwriaethol treftadaeth
- helpu pobl i adnabod, cofnodi a dysgu am erddi hanesyddol
Rydym wedi ariannu amrywiaeth o brosiectau i achub gerddi a mynwentydd hanesyddol y DU gan gynnwys:
- Florence Court, Gogledd Iwerddon – adfer gardd lysiau o'r 1930au ar yr ystâd wledig hon
- Sheffield General Cemetery, De Swydd Efrog – un o'r enghreifftiau mwyaf cyflawn o fynwent ardd yn y DU
- Gerddi'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol – gwaith ar y cyd gyda Sense i helpu pobl ag anableddau i gysylltu â byd natur
- South Cliff Gardens, Gogledd Swydd Efrog – adfer y gerddi arfordirol 200 oed i'w hen ogoniant
- Gerddi Botaneg Belfast a Chaeredin
- Gerddi Botaneg Cenedlaethol Cymru a Kew yn Llundain
Pethau allweddol i'w darllen
- Ein canllaw i gynaliadwyedd amgylcheddol
- Mynnwch gip ar fwy o brosiectau gerddi yr ydym wedi eu hariannu yn ddiweddar