Tirweddau
Gan ddefnyddio arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym yn dosbarthu grantiau hyd at £10miliwn i gefnogi prosiectau treftadaeth.
Rydym yn disgwyl i brosiectau llwyddiannus ddangos sut y byddant yn mynd i'r afael â'r heriau allweddol sy'n wynebu tirweddau a natur y DU.
Yr hyn a ddisgwyliwn gan brosiectau
Mae'n rhaid i brosiectau tirwedd gyflawni un neu fwy o'r gofynion canlynol:
- cadwraeth ar raddfa tirwedd
- cynyddu dealltwriaeth pobl o werth diwylliannol tirweddau a morluniau
- cynefinoedd mwy, gwell, wedi'u cysylltu'n dda ac yn fwy gwydn ar gyfer natur
- ailgysylltu pobl â natur
Pethau allweddol i'w darllen
Ein cyllid strategol ar gyfer tirweddau
Dysgwch fwy am ein mentrau cyllido presennol a blaenorol ar gyfer prosiectau ar raddfa dirwedd.
Ym mis Gorffennaf 2024 gwnaethom gyhoeddi £150 miliwn o ariannu hirdymor ar gyfer cefn gwlad godidog y DU mewn menter newydd, Cysylltiadau Tirwedd, a fydd yn para am ddeng mlynedd. Bydd y fenter flaengar hon yn ariannu prosiectau sy’n rhoi hwb i adferiad byd natur, yn cefnogi ein heconomïau gwledig, ac yn cysylltu mwy o bobl â'r tirweddau a drysorir fwyaf yn y DU.
Rhwng 2004 a 2017, cefnogodd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol dros 120 o Bartneriaethau Tirwedd.
Roedd y prosiectau hyn ar raddfa tirwedd yn canolbwyntio ar dreftadaeth ddiwylliannol a naturiol ardaloedd daearyddol yn gyffredinol rhwng 20 a 200 cilomedr sgwâr.
Roedd y rhain yn cynnwys:
- Parterniaeth tirwedd Belfast Hills
- Parterniaeth Lefelau Byw Gwent
- Y dirwedd carbon ym Manceinion
- Partneriaeth tirwedd Inner Forth
- Partneriaeth tirwedd Cors Romney
Dysgwch fwy am yr hyn a ddysgwyd gennym yn ein gwerthusiad Partneriaethau Tirwedd.