Diwylliannau ac atgofion

Diwylliannau ac atgofion

Plant yn gwisgo ffedogau mewn cegin, brwsio ŵy ar ryw does wedi'i blagio
Gwneud Challah yn Amgueddfa Iddewig Manceinion. Llun gan: Chris Payne
Dyma'r arferion a'r traddodiadau, sgiliau a gwybodaeth, a drosglwyddir i ni drwy genedlaethau.

Maen nhw hefyd yn hanesion personol i ni, y profiadau sydd wedi ein siapio ni a'n cymdeithas.

Ers 1994 rydym wedi dyfarnu mwy na £460m i 24,100 o brosiectau treftadaeth gymunedol a diwylliannol ledled y DU.

Beth rydym yn ei gefnogi?

Rydym yn ariannu prosiectau sy'n helpu i archwilio, cadw a dathlu traddodiadau, arferion, sgiliau a gwybodaeth gwahanol gymunedau.

Weithiau cyfeirir at y dreftadaeth ddiwylliannol hon fel treftadaeth anniriaethol neu fyw. Mae hyn oherwydd ei bod yn newid yn gyson ac yn cael ei chadw'n fyw pan gaiff ei hymarfer neu ei pherfformio.

Rydym hefyd yn ariannu prosiectau sy'n dogfennu ac yn rhannu atgofion pobl. Mae'r prosiectau hyn yn aml yn cynnwys cyfweliadau hanesion llafar, cyfleu straeon a safbwyntiau pobl yn ddigidol, a sicrhau eu bod yn cael eu hadneuo ac yn hygyrch yn awr ac yn y dyfodol.

Syniadau am brosiect

Gall ein harian helpu pobl i:

  • ymchwilio a rhannu traddodiadau llafar, fel adrodd straeon neu dafodieithoedd lleol
  • hyfforddi eraill mewn sgiliau a chrefftau traddodiadol, o adeiladu waliau sychion a llafnio i gwehyddu basgedi a gwneud tecstilau
  • ymchwilio i darddiad diwylliant, megis cerddoriaeth, theatr neu ddawns, a chreu perfformiadau wedi'u dylanwadu gan arddulliau'r gorffennol
  • rhannu hanes a hwyl dathliadau, gwyliau neu ddefodau gyda chynulleidfaoedd newydd, o gemau a choginio i carnifalau a ffeiriau
  • casglu gwybodaeth draddodiadol neu eu pasio ymlaen, fel rheolaeth coetir neu feddyginiaeth cartref
  • cofnodi straeon pobl gyffredin drwy hanesion llafar, er enghraifft am dyfu i fyny, ymfudo neu waith
  • ailadrodd atgofion pobl am le neu ddigwyddiad, fel ysbyty arhosiad hir, streic y glowyr neu'r mudiad pync

Sut i gael arian

 

Two people of Chinese heritage play a drum in a procession, while people in the background hold placards with photos of Chinese relatives
Ancestral Futures by Eelyn Lee and collaborators, commissioned by Dig Where You Stand. Photo: Anh Do.

Straeon

How artists can uncover hidden histories and fill gaps in the archives

South Yorkshire project Dig Where You Stand invited creatives to explore the often overlooked and poorly documented evidence of people from diverse ethnic communities across the area's history.
Dau berson yn sefyll y tu allan i adeilad
Mae gwaith yn dechrau adfer tafarn Y Plu a'i thrawsnewid yn ganolbwynt diwylliannol lleol

Projects

Achub tafarn gymunedol 200-mlwydd-oed ar Ben Llŷn

Mae ein cyllid yn helpu Cymdeithas Budd Cymunedol Menter y Plu i gynllunio sut i arbed ac ailddatblygu Y Plu - tafarn restredig Gradd II.

Criw o bobl yn sefyll o flaen peiriant pwll glo.
Aelodau o'r gymuned Roma yn ymweld a safle treftadaeth ddiwydiannol yng nghymoedd De Cymru.

Projects

Dod â straeon Roma yn fyw yng Nghasnewydd, De Cymru

Bwriad prosiect ‘Roma Casnewydd, De Cymru’ yw cofnodi a rhannu straeon personol, diwylliant a threftadaeth cymuned Roma’r ardal.