Mentrau strategol

Mentrau strategol

Mae yna nifer o ffyrdd yr ydym yn cefnogi ac yn buddsoddi mewn treftadaeth. Cael gwybod mwy am rai o'n hymyriadau arfaethedig a sut y byddwn yn eu cyflawni.

Rydym am greu'r effaith a'r budd mwyaf i dreftadaeth y DU o'n hariannu.

Mae ein mentrau strategol yn ffordd i ni fynd i'r afael â materion treftadaeth hirsefydlog ar raddfa fawr, cefnogi dulliau cydgysylltiedig traws-tiriogaethol a rhoi syniadau ac arloesiadau newydd ar waith yn gyflym.

Dros oes ein strategaeth 10 mlynedd, Treftadaeth 2033, rydym yn disgwyl cyflwyno amrywiaeth o fentrau. Mae'r rhai yr ydym yn gweithio arnynt ar hyn o bryd yn cynnwys:

Rydym am roi hwb i falchder mewn lle a chysylltiad â threftadaeth ar draws lleoedd cyfan yn hytrach na phrosiectau unigol. Ein nod yw gwneud treftadaeth yn rhan annatod o gynlluniau a dulliau sy’n gwneud ardaloedd lleol yn lleoedd gwell i fyw, gweithio ac ymweld â nhw.

Ym mis Hydref 2023 fe wnaethom gyhoeddi’r naw cyntaf o hyd at 20 o leoedd ledled y DU lle byddwn yn buddsoddi £200miliwn:

  • Dinas Armagh, Banbridge a Craigavon
  • Swydd Durham
  • Glasgow
  • Caerlŷr
  • Medway
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Gogledd-ddwyrain Swydd Lincoln
  • Stoke-on-Trent
  • Torbay

Ystyriaethau ar gyfer cais Lleoedd Treftadaeth:

  • rhaid i weithgareddau prosiect craidd cael ei leoli yn mewn un o'n lleoedd treftadaeth
  • dylai prosiectau fod yn rhan o uchelgais ehangach i wella neu drawsnewid yr ardal, gyda chefnogaeth partneriaid a sefydliadau lleol
  • dylai prosiectau fod yn gydweithredol a bydd angen iddynt ddangos tystiolaeth o gefnogaeth gan bartner(iaid) lleol

Os ydych yn gwneud cais i un o’n Lleoedd Treftadaeth a nodwyd:

Cael gwybod mwy am ein menter strategol Lleoedd Treftadaeth a bwrw golwg ar ein hyb Lleoedd Ffyniannus ar gyfer astudiaethau achos, straeon a blogiau seiliedig ar le.

Rydym eisiau helpu Tirweddau Gwarchodedig dynodedig a thirweddau eraill o safon fyd-eang ar draws y DU i fod yn well ar gyfer byd natur a chroesawu pobl o bob cefndir yn well, gan gynnwys y rhai nad ydynt yn ymweld â nhw'n aml ar hyn o bryd.

Byddwn yn buddsoddi £150miliwn drwy tua 20 o brosiectau hirdymor mewn:

  • Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr
  • Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Ngogledd Iwerddon
  • Parciau Cenedlaethol a thirweddau eraill sydd yr un mor bwysig o safon fyd-eang yn Yr Alban

Ein nod yw cefnogi’r rhai sy’n gofalu am y lleoedd hyn i’w cryfhau fel tirweddau gweithiol, sy’n fwrlwm o natur ac yn darparu gofod i bobl ymlacio a chysylltu â’r amgylchedd. Byddwn yn cefnogi tirweddau cyfan i greu gwelliant arwyddocaol a pharhaus.

Darllen mwy am uchelgeisiau’r fenter strategol hon yn ein stori newyddion

Ystyriaethau ar gyfer cais Cysylltiadau Tirwedd

Gall cam cyflwyno eich prosiect bara hyd at wyth mlynedd (sef cynnydd o’n pum mlynedd arferol), ac felly byddwn yn cefnogi hyblygrwydd wrth gadarnhau arian partneriaeth yn ystod y cam cyflwyno.

Yn ychwanegol at ofynion safonol ein Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, gan gynnwys ymateb i bob un o’r pedwar egwyddor fuddsoddi, dylai eich cais am brosiect:

  • gynnwys ardal o Dirwedd Warchodedig ddynodedig wrth ei wraidd er y bydd rhywfaint o hyblygrwydd yn Yr Alban 
  • esbonio pam fod ffin benodol wedi'i dewis, gan sicrhau bod maint yr ardal yn gydnaws â'r cais am grant er mwyn i gyflwyno, ymgysylltu ac effaith fod yn gyson ar draws ardal gyfan y prosiect
  • dilyn ein canllawiau ar gyfer cynhyrchu Cynllun Gweithredu Ardal yn ystod y cam datblygu, gan roi'r prif ffocws o gynhyrchu gweledigaeth prosiect a glasbrint ar gyfer cyflwyno'r prosiect, yng nghyd-destun unrhyw gynllun rheoli statudol ehangach a strategaeth adferiad byd natur.
  • neilltuo adnoddau i ymuno â sesiynau gwaith carfan chwarterol, cyfrannu at waith carfan a mynychu ymweliadau wyneb yn wyneb i ddysgu o brosiectau eraill
  • Neilltuo adnoddau i fesur effaith eich prosiect o ran adferiad byd natur ac ennyn diddordeb pobl fel bod modd asesu cyfraniad y buddsoddiad hwn at gyrraedd targedau adferiad byd natur y DU. Lle maent yn bodoli, dylid defnyddio fframweithiau canlyniadau llywodraeth. Efallai y byddwn hefyd yn gofyn i grantïon adrodd data ychwanegol trwy offer casglu data ar-lein.

Rydym yn diweddaru ein harweiniad ar ddefnyddio arian ar gyfer cynlluniau amaeth-amgylcheddol fel arian partneriaeth ar gyfer prosiectau, a bydd ar gael yn fuan.

Mae'n annhebygol y bydd caffaeliadau tir mawr yn cael eu cefnogi gan Cysylltiadau Tirwedd.

Ein huchelgais erbyn 2033 yw ein bod wedi cefnogi tua 20 o brosiectau sy’n:

  • galluogi pawb yn y DU i gael mynediad at dirweddau sy’n gyfoethog o ran natur, dŵr glân ac awyr iach, lleoedd sy’n ysbrydoli gyda'u harddwch a’u treftadaeth ddiwylliannol
  • helpu'r tirweddau hyn i fod yn well ar gyfer byd natur ac o ran croesawu pobl o bob cefndir yn well, gan gynnwys y rhai nad ydynt yn ymweld â nhw'n aml ar hyn o bryd 
  • beiddgar o ran eu huchelgais ac yn creu canlyniadau mesuradwy ar gyfer Tirweddau Gwarchodedig a thirweddau eithriadol cyfatebol yn Yr Alban
  • cefnogi’r rhai sy’n byw yn y lleoedd hyn ac yn gofalu amdanynt i’w cryfhau fel tirweddau gweithredol yn seiliedig ar ddiagnosis clir o pam mae’r dirwedd yn methu â chyflawni ar gyfer byd natur a phobl ar hyn o bryd a sut y bwriedir mynd i’r afael â hynny
  • cyflymu adferiad byd natur systemig a pharhaol ar draws tirweddau cyfan, gan greu a rhannu enghreifftiau o sut y gellir cyflwyno cadwraeth tirweddau ac adferiad byd natur gyda, gan a thros y bobl sy’n byw ac yn gweithio ynddynt  
  • creu fframweithiau arloesol o ran y ffyrdd y gall cymunedau, tirfeddianwyr, sefydliadau a’r rhai sy’n rheoli’r tir gydweithio’n deg i gytuno ar sut i ddylanwadu ar newid a’i ysgogi er mwyn sicrhau etifeddiaeth barhaus  

Argymhellwn i chi ddarllen ein canllaw arfer da ar Dir, Môr a Natur wrth baratoi eich cais.    

Brand a chydnabyddiaeth

Dylai prosiectau ddefnyddio ein canllaw cydnabyddiaeth ar gyfer Cysylltiadau Tirwedd.

Pwy all ymgeisio

Mae ceisiadau’n agored i sefydliadau nid-er-elw, a phartneriaethau a arweinir gan sefydliadau nid-er-elw, ym mhob cwr o’r DU. 

Rhaid i gyrff rheoli Tirwedd Warchodedig fod yn bartner allweddol mewn unrhyw gais sy’n gysylltiedig â’r dirwedd y maent yn gweithredu ynddi a lle y bydd y gwaith yn digwydd, er nad oes angen iddynt fod yn ymgeisydd neu’n bartner arweiniol mewn cais.

Os yw perchnogion preifat neu sefydliadau er-elw yn gysylltiedig â’r prosiect, rydym yn disgwyl i chi ddangos bod y budd cyhoeddus yn amlwg yn fwy na'r elw preifat. 

Rydym yn annhebygol o ariannu mwy nag un prosiect o Dirwedd Warchodedig unigol.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am grant hyd at £10m drwy ein Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol £250,000 i £10m. Gofynnir i chi roi ‘#LC’ ar ddechrau teitl eich prosiect a chynnwys ‘Cysylltiadau Tirwedd’ yn y teitl, er enghraifft Cysylltiadau Tirwedd [enw'r ardal].

Os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu prosiect Cysylltiadau Tirwedd ond nad ydych yn barod i wneud cais am grant ar raddfa fawr eto, dylech ystyried ymgymryd â gwaith paratoadol gan ddefnyddio ein Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol £10,000 i £250,000.

Gellid defnyddio'r ariannu hwn i’ch helpu paratoi ar gyfer cais mwy sylweddol trwy, er enghraifft:

  • recriwtio arbenigedd ac adnoddau ychwanegol
  • cefnogi creu partneriaeth newydd 
  • ymgymryd â gwaith dichonoldeb cychwynnol 
  • cefnogi gwaith ymgysylltu â chymunedau a sefydliadau lleol 
  • helpu i gyfleu gweledigaeth gychwynnol y prosiect  

Ar gyfer grantiau hyd at £250,000, gallwch gyflwyno Ymchwiliad Prosiect dewisol i dderbyn adborth ar eich syniad prosiect.

Ar gyfer grantiau dros £250,000 rhaid i chi gyflwyno Mynegiad o Ddiddordeb yn gyntaf.

Sut rydym yn gwneud penderfyniadau

Yn ogystal â’n prosesau o dan y rhaglen Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, byddwn yn asesu sut mae eich prosiect yn ymdrin ag uchelgeisiau’r fenter strategol.

Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn ystyried materion fel sicrhau lledaeniad daearyddol o’n hariannu. 

Ar gyfer y fenter strategol hon, bydd penderfyniadau ar grantiau o dan £250,000 yn cael eu gwneud bob mis gan uwch staff buddsoddi neu ymgysylltu eich gwlad neu ardal. Gyda grantiau o fwy na £250,000, bydd argymhellion yn cael eu gwneud gan bwyllgorau gwlad/ardal, a bydd penderfyniadau terfynol yn cael eu gwneud bob tri mis gan ein Bwrdd Ymddiriedolwyr.

Rydym am helpu addoldai ar draws y DU i fynd i’r afael â heriau treftadaeth yn systematig, dod yn fwy cynaliadwy, rhannu eu treftadaeth a chroesawu pobl o bob cefndir, gan gynnwys y rhai sy’n ymweld yn anaml.

Byddwn yn buddsoddi o leiaf £15 miliwn mewn prosiectau sy'n cael effaith strategol ar lefel ranbarthol neu genedlaethol ar gyfer addoldai dros y tair blynedd nesaf. 

A hwythau'n gyfoeth o ddiwylliant a chasgliadau, mae addoldai'n adrodd hanes newidiadau crefyddol, cymdeithasol ac economaidd pobl y DU. Rydym yn cydnabod graddfa'r heriau sy’n wynebu addoldai a’r rhai sy’n gofalu amdanynt, ac wedi ymrwymo i’w cefnogi drwy newid.

Yr anghenion a’r bylchau ariannu rydym wedi’u nodi ac rydym am ymdrin â hwy drwy’r fenter hon yw:

  • anghenion atgyweirio adeiladau rhestredig, yn enwedig y rhai mewn ardaloedd mwy gwledig
  • gallu'r gweithlu a gwirfoddolwyr i reoli treftadaeth
  • cefnogi treftadaeth addoldai nad yw'n hygyrch ar hyn o bryd, sydd mewn perygl neu heb gael ei defnyddio'n ddigonol, i gyflawni ei photensial

Cael gwybod mwy ym mha ffyrdd eraill yr ydym yn cefnogi addoldai.

Ystyriaethau ar gyfer cais Treftadaeth mewn Angen: Addoldai

Anelwn at gefnogi prosiectau strategol yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon sydd â’r potensial i gael effaith ar lefel ranbarthol neu genedlaethol a fydd yn: 

  • mynd i'r afael yn rhagweithiol â materion treftadaeth hirsefydlog ar raddfa fawr
  • galluogi ymagwedd draws-diriogaethol gydlynus a fydd yn cryfhau cyflwyniad
  • ymdrin â bylchau lle nad yw cynigion yn dod drwodd i’n rhaglen Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
  • cyflymu syniadau ac ymyriadau newydd lle mae angen ymagwedd bwrpasol

Ein huchelgeisiau ar gyfer y fenter strategol hon yw ymdrin â rhai o’r nodau a’r anghenion a nodwyd gan waith ategol megis:

  • prosiectau strategol ar raddfa fawr sy'n datblygu'r prosesau, y systemau, yr arweiniad a'r seilwaith sydd eu hangen drwy newid mewn defnydd, rheolaeth neu berchnogaeth
  • prosiectau strategol ar raddfa fawr yn seiliedig ar ddealltwriaeth o anghenion treftadaeth a pherchnogion cynlluniau treftadaeth sy'n adeiladu gallu ymhlith enwadau a grwpiau ffydd llai i ddatblygu prosiectau mawrion
  • prosiectau strategol sy’n sefydlu arwyddocâd diwylliannol a threftadaeth addoldai lle bod hynny o bosibl mewn perygl o gael ei golli
  • prosiectau adeiladu gallu a all ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniad ehangach i berchnogion a rheolwyr adeiladau a safleoedd crefyddol hanesyddol ar draws daearyddiaethau a mathau megis ariannu swyddogion cymorth
  • mentrau sy’n dod â llawer o sefydliadau, grwpiau ffydd ac arianwyr ynghyd i gydweithio a dod o hyd i atebion i broblemau y mae mannau addoli a threftadaeth yn eu hwynebu
  • cynlluniau sy'n darparu ariannu i archwilio dichonoldeb opsiynau mwy cynaliadwy ar gyfer defnyddiau presennol neu newydd o addoldai
  • datblygu cynlluniau sy'n rhannu dysgu a chefnogaeth i wirfoddolwyr sy'n rheoli ac yn gofalu am dreftadaeth a gwneud hynny'n fwy hygyrch i gynulleidfaoedd ehangach
  • prosiectau strategol sy'n treialu ymagweddau gwahanol at reoli addoldai ar raddfa ardal
  • prosiectau sy'n archwilio treftadaeth addoldai i gefnogi a chyfrannu at yr economi leol ac ymwelwyr ar lefel genedlaethol neu ranbarthol
  • prosiectau thematig a allai ddefnyddio technolegau arloesol i agor mynediad at dreftadaeth a chasgliadau

Pwy all ymgeisio

Gall sefydliadau nid-er-elw, a phartneriaethau a arweinir gan sefydliadau nid-er-elw ym mhob cwr o’r DU wneud cais.

Nid yw addoldai unigol yn gymwys i gael eu hariannu drwy'r fenter strategol hon, nac ychwaith ceisiadau safle unigol ar gyfer prosiectau gwaith cyfalaf yn unig. Byddwn yn parhau i fuddsoddi yn y rhain drwy ein rhaglen Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Sut i wneud cais

Os oes syniad gennych ar gyfer prosiect: Treftadaeth mewn Angen: Addoldai, dechreuwch arni drwy gysylltu â'ch swyddfa Cronfa Treftadaeth leol.

Ar gyfer grantiau hyd at £250,000, gallwch gyflwyno Ymholiad Prosiect dewisol i dderbyn adborth ar eich syniad prosiect.

Ar gyfer grantiau dros £250,000 rhaid i chi gyflwyno Mynegiad o Ddiddordeb cyn gwneud cais.   Dechreuwch deitl eich prosiect gyda #MoDd.

Dilynwch ein harweiniad Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i baratoi a chyflwyno eich cais am grant hyd at £10m.

Sut rydym yn gwneud penderfyniadau

Yn ogystal â’n prosesau o dan y rhaglen Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, byddwn yn asesu sut mae eich prosiect yn ymdrin â'r anghenion a bylchau ariannu a nodwyd, ac â nodau ac uchelgeisiau’r fenter strategol. Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn ystyried materion eraill, fel sicrhau lledaeniad daearyddol o’n hariannu.

Pwysig

Nid ydym bellach yn derbyn Datganiadau o Ddiddordeb (EOI) ar gyfer Trefi a Dinasoedd Natur. Ein nod yw cysylltu â'r holl ymgeiswyr erbyn canol mis Rhagfyr i roi gwybod i chi beth yw canlyniad eich EOI.

Dylai fod gan bawb fynediad at barciau cyhoeddus a mannau gwyrdd trefol sy'n llawn treftadaeth naturiol a diwylliannol yn agos at ble maent yn byw. Mae tystiolaeth yn dangos ein bod ni i gyd yn teimlo’r budd pan fo natur yn rhan o’n bywydau bob dydd. 

Bydd Trefi a Dinasoedd Natur yn dod â sefydliadau ar draws y DU ynghyd i ganolbwyntio ar wella ansawdd parciau hanesyddol a mannau gwyrdd trefol mewn trefi a dinasoedd cyfan, a mynediad iddynt, ac ar yr un pryd yn cefnogi dulliau newydd o ennyn diddordeb cymunedau lleol a chynhyrchu mwy o fuddsoddiad.   

Trwy becyn cymorth sy’n cynnwys £15miliwn o ariannu i adeiladu capasiti a phartneriaethau, rhwydweithiau cymheiriaid i rannu dysgu ac atebion ymarferol, a chynlluniau i ddenu buddsoddiad, byddwn yn ysbrydoli, yn darparu adnoddau ac yn rhoi cymhellion i sefydliadau wireddu buddion byd natur wrth greu cymunedau mwy gwyrdd, iach a ffyniannus. 

Mae Trefi a Dinasoedd Natur yn fenter bartneriaeth rhwng Natural England, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r Gronfa Treftadaeth. Rydym hefyd yn cydweithio’n agos â Chyfoeth Naturiol Cymru, NatureScot ac Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon. 

Ein huchelgais

Nod Trefi a Dinasoedd Natur yw cefnogi awdurdodau lleol, eu partneriaid a’u cymunedau gyda’r capasiti a’r adnoddau i roi mannau gwyrdd a glas cyhoeddus wrth wraidd eu ffordd o feddwl. Ewch i’r wefan Trefi a Dinasoedd Natur i gael gwybod mwy am ein cynlluniau a’n huchelgeisiau ehangach.  

Erbyn 2028 rydym am fod wedi cefnogi lleoedd ar draws y DU gydag arian grant, ynghyd ag arbenigedd ac adnoddau gan ein partneriaid, er mwyn:

  • rhoi mynediad at natur ac adferiad byd natur wrth wraidd creu lleoedd lleol fel y gellir gwireddu ei fanteision ar gyfer iechyd, ffyniant, byd natur, treftadaeth a balchder lleol
  • cyd-greu strategaethau a chynlluniau gwella mannau gwyrdd uchelgeisiol gyda chymunedau a phartneriaid 
  • creu partneriaethau cryf ac amrywiol rhwng y cymunedau lleol, busnesau ac awdurdodau lleol sy’n canolbwyntio ar rôl mannau gwyrdd a glas trefol er mwyn cyflwyno canlyniadau gwell ar gyfer iechyd, lles, treftadaeth, trafnidiaeth, cynllunio a byd natur 
  • datblygu cynlluniau gweithredu a fydd yn trawsnewid y ffordd y mae mannau gwyrdd cyhoeddus yn cael eu defnyddio, eu rheoli a’u hariannu er budd pobl a natur. Dylai hyn gynnwys datblygu cynlluniau prosiect wedi'u costio ac ymchwilio i sut i ddatgloi buddsoddiad newydd gan ystod eang o fuddsoddwyr ac arianwyr y tu hwnt i'r Loteri Genedlaethol yn unig.

Ystyriaethau ar gyfer cais Trefi a Dinasoedd Natur

Bydd un rownd o ariannu a bydd grantiau ar gael rhwng £250,000 ac £1m.  Gall eich prosiect bara hyd at dair blynedd a bydd angen cyflwyno un cais ar ôl cwblhau Mynegiad o Ddiddordeb (MoDd) llwyddiannus.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno EOI oedd 12 canol dydd ar 12 Tachwedd 2024.

Os bydd eich MoDd yn llwyddiannus, fe gaiff eich gwahodd i gyflwyno cais llawn rhwng 16 Rhagfyr 2024 a 7 Mawrth 2025. Bydd penderfyniadau ariannu'n cael eu gwneud ym mis Mehefin 2025.

Yn ychwanegol at ofynion safonol ein rhaglen Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, gan gynnwys ymateb i bob un o’r pedair egwyddor fuddsoddi, dylai eich cais am brosiect:

  • Ganolbwyntio ar yr holl fannau gwyrdd a glas trefol cyhoeddus ar draws lle cyfan. Chi sy'n pennu ffiniau'r lle - gallai fod yn ardal weinyddol awdurdod lleol neu gyfunol, yn dref, yn ddinas, yn ddinas-ranbarth neu’n nifer o drefi neu fwrdeistrefi'n gweithio ar y cyd.  
  • Nodi sut y byddwch yn arwain newid uchelgeisiol a fydd yn cyflwyno yn erbyn ein canlyniadau dymunol a sicrhau bod mannau gwyrdd yn darparu mwy ar gyfer pobl a lleoedd.
  • Dangos sut y bydd tîm trawsddisgyblaethol a gwaith partneriaeth yn sicrhau ehangder o ran eich meddwl ac yn gweithio'n weithredol ar draws y sectorau treftadaeth, cynllunio, trafnidiaeth, iechyd, cymuned a byd natur.
  • Nodi pa adnoddau neu gefnogaeth y bydd eu hangen arnoch. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, buddsoddi mewn arbenigedd a chapasiti ychwanegol i: ennyn diddordeb cymunedau lleol, datblygu partneriaethau strategol newydd, sefydlu cyrff newydd megis sefydliad neu ymddiriedolaeth, dylunio modelau ariannol newydd, datgloi a rhoi cymhellion buddsoddi newydd, datblygu ffrwd o brosiectau ac efelychu dysgu o'r menter Future Parks Accelerator.
  • Neilltuo adnoddau a chapasiti i ymuno â digwyddiadau rhwydwaith a sesiynau gwaith carfan rheolaidd ar-lein, cyfrannu at weithio mewn carfannau a mynychu ymweliadau wyneb yn wyneb i ddysgu o brosiectau eraill. Rydym yn rhagweld y bydd digwyddiadau rhwydwaith a charfan yn cynnwys rhwng chwech a 10 digwyddiad bob blwyddyn ac y byddant yn gymysgedd o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb a rhithwir.

Bydd pob prosiect a ariennir yn derbyn cymorth arbenigol am ddim gan bartneriaid ar bynciau megis cynllunio seilwaith gwyrdd, ymgysylltu cymunedol a chyllid gwyrdd. 

Ni fydd y fenter hon yn ariannu gwaith cyfalaf. Os dymunwch wneud cais am arian i adfywio parc hanesyddol neu wella safle byd natur sydd eisoes yn bodoli, gwnewch gais drwy ein rhaglen Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Brand a chydnabyddiaeth

Bydd disgwyl i brosiectau ddefnyddio'r canllawiau brandio a chydnabyddiaeth ar gyfer Trefi a Dinasoedd Natur. Bydd y rhain yn cael eu rhannu ag ymgeiswyr llwyddiannus yn 2025.

Pwy all ymgeisio

Mae ceisiadau’n agored i sefydliadau nid-er-elw, a phartneriaethau a arweinir gan sefydliadau nid-er-elw, ym mhob cwr o’r DU. 
Rydym yn eich annog i weithio gyda phobl eraill i ddatblygu a chyflawni eich prosiect.  

Os ydych yn bwriadu gweithio gydag unrhyw sefydliadau eraill i gyflawni cyfran sylweddol o'ch prosiect, mae'n rhaid i chi ffurfioli eich perthynas trwy gytundeb partneriaeth.  

Os ydych yn gwneud cais ar y cyd, bydd angen i chi benderfynu pa sefydliad fydd yr ymgeisydd arweiniol. Bydd yr ymgeisydd arweiniol yn cwblhau'r cais, ac os yw'n llwyddiannus, bydd yn derbyn y grant ac yn darparu diweddariadau prosiect. 

Fel arfer rydym yn disgwyl mai perchennog y dreftadaeth (y man gwyrdd cyhoeddus) fydd yr ymgeisydd arweiniol. Os nad perchennog y dreftadaeth yw'r ymgeisydd arweiniol, byddwn fel arfer yn gofyn iddynt ymrwymo i delerau'r grant. 

Os yw perchnogion preifat neu sefydliadau er-elw yn gysylltiedig â’r prosiect, rydym yn disgwyl i chi ddangos bod y budd cyhoeddus yn amlwg yn fwy na'r elw preifat. Rydym yn annhebygol o ariannu mwy nag un prosiect o'r un lle.

Sut i wneud cais

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno EOI oedd 12 canol dydd ar 12 Tachwedd 2024.

Bydd panel adolygu'n defnyddio'r wybodaeth a ddarparwch yn y MoDd i benderfynu a fyddwn yn eich gwahodd i gyflwyno cais am grant llawn. Bydd yr adolygiad yn cynnwys staff y Gronfa Treftadaeth, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a'r pedair asiantaeth amgylcheddol statudol: Natural England, NatureScot, Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon a Chyfoeth Naturiol Cymru. Rydym yn defnyddio'r cam hwn i nodi prosiectau blaenoriaeth yn gynnar, gan i ni gydnabod faint o waith sy'n cael ei wneud i baratoi cais am grant llawn. Nid yw gwahoddiad i wneud cais yn gwarantu grant gennym, ond mae'n nodi ein bod yn gweld potensial yn eich cynnig cychwynnol.

Byddwn yn ceisio ymateb i bob MoDd erbyn 13 Rhagfyr 2024. Os ydych yn llwyddiannus, fe gewch eich gwahodd i gyflwyno cais llawn o 16 Rhagfyr 2024. Bydd rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais yn cael ei darparu bryd hynny a rhaid i hwn gael ei gyflwyno erbyn 12 hanner dydd ar 7 Mawrth 2025. Bydd penderfyniadau ariannu'n cael eu gwneud ym mis Mehefin 2025.

Sut rydym yn gwneud penderfyniadau

Yn ychwanegol at ein prosesau o dan ein hymagwedd Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol safonol, byddwn yn asesu sut mae eich prosiect yn mynd i'r afael ag uchelgeisiau’r fenter hon.

Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn ystyried materion fel sicrhau lledaeniad daearyddol o’n hariannu. 

Ar gyfer y fenter hon, bydd penderfyniadau ariannu'n cael eu gwneud gan Fwrdd Partneriaeth ar y Cyd gan gynnwys Ymddiriedolwr o'r Gronfa Treftadaeth a chynrychiolwyr o'r sefydliadau partner.

Cysylltu â Ni

Os oes gennych gwestiwn am ein hariannu, mae croeso i chi gysylltu â'ch tîm ymgysylltu lleol.

 

Treftadaeth mewn angen a chyfleoedd ac argyfyngau eraill

Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i hyblygrwydd ac ymateb yn gyflym pan fydd angen. Gallai hyn olygu cefnogi caffael treftadaeth eithriadol, nodi digwyddiadau arwyddocaol neu gefnogi meysydd o dreftadaeth a sefydliadau sy'n delio ag argyfwng nas rhagwelwyd.

Rydym hefyd yn ymchwilio i gyfleoedd ar gyfer ariannu wedi'i dargedu ar gyfer treftadaeth sydd mewn perygl ac sydd angen cadwraeth. Ochr yn ochr ag ariannu prosiectau unigol, rydym am gefnogi sefydliadau i adeiladu gallu, datblygu dulliau cynllunio prosiectau ac amrywiaethu ffrydiau incwm.

Gwneud penderfyniadau

Mae ein dull o wneud penderfyniadau ar fentrau strategol yr un fath â’n prosesau o dan raglen Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Ar gyfer grantiau o dan £250,000 mae penderfyniadau'n cael eu gwneud bob mis gan uwch staff buddsoddi neu ymgysylltu eich gwlad neu ardal. Ar gyfer grantiau dros £250,000, gwneir grantiau ar sail chwarterol gan Bwyllgor eich gwlad neu ardal neu gan ein Bwrdd Ymddiriedolwyr.

Efallai y byddwn yn amrywio ein proses gwneud penderfyniadau ar gyfer mentrau penodol, ond byddwn yn diweddaru ein gwefan pan fydd hyn yn digwydd.

Mwy i ddod

Mae ein timau'n gweithio'n galed i ddatblygu'r mentrau a'r cyfleoedd hyn a byddwn yn rhannu rhagor o fanylion pan fyddant ar gael.

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i gael ein newyddion a chyhoeddiadau diweddaraf wedi'u danfon yn uniongyrchol i'ch mewnflwch.