Cymru
O'n harfordiroedd a'n cestyll i'n tirweddau, ein llenyddiaeth ac un o'r ieithoedd llafar hynaf yn Ewrop, mae gan Gymru dreftadaeth hynafol a chwedlonol.
Rydym yn falch o chwarae rhan yn y gwaith o warchod a dathlu dinasoedd bywiog, tirweddau hardd, safleoedd hanesyddol a diwylliannau amrywiol y wlad. Mae'n rhan o'n gweledigaeth i werthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a'i chynnal ar gyfer pawb, nawr ac yn y dyfodol.
Mynnwch ysbrydoliaeth ar gyfer eich prosiect
Edrychwch isod ar astudiaethau achos prosiect a'r newyddion diweddaraf o'ch ardal.
Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
Mae ein rhaglen Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ar agor – os oes gennych syniad am brosiect yng Nghymru, byddai’n bleser gennym glywed oddi wrthych. Mae grantiau ar gael o £10,000 hyd at £10m.
Cael gwybod mwy a gweld pa ariannu sydd ar gael.
Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd 4)
Nod y gronfa hon, sy'n dyfarnu grantiau rhwng £50,000 ac £1miliwn, yw cryfhau cydnerthedd rhwydwaith Cymru o safleoedd tir a morol gwarchodedig.
Mae ein gweithdai ariannu a'n sesiynau cynghori rheolaidd yn gyfle gwych i gael gwybod am ein cyllid, cael awgrymiadau ar sut i wneud cais da a rhwydweithio gyda sefydliadau eraill o'ch ardal.
E-bost: cymru@heritagefund.org.uk
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr.
Rhif Ffôn: 029 2034 3413 (Dydd Llun i Gwener, 9.00am–5.00pm)
Rydym yn gwbl weithredol ac yn agored i fusnes, ond rydym yn cynnal llawer o'n gwaith o ddydd i ddydd o’n cartrefi.
Anfonwch unrhyw eitemau drwy e-bost at eich cyswllt neu drwy'r prif gyfeiriad: cymru@heritagefund.org.uk
Mae gennym dîm cwbl ddwyieithog yng Nghymru er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal gwasanaethau dwyieithog o’r radd flaenaf. Rydym yn croesawu galwadau ffôn (Opsiwn 1 i siarad ag aelod o staff yn Gymraeg), e-byst a llythyrau yn Gymraeg ac yn Saesneg a ni fydd defnyddio'r Gymraeg yn arwain at unrhyw oedi ychwanegol wrth ymateb. I gael rhagor o wybodaeth am y Gymraeg ac i glywed mwy am ein cynnydd presennol wrth i ni ddiweddaru ein Cynllun Iaith Gymraeg presennol, ewch i'r dudalen yma.
Ymweld â ni a chael mynediad
Cyfeiriad: Clockwise Offices, Tŷ Brunel, 2 Ffordd Fitzalan, Caerdydd, CF24 0EB
Os ydych yn dymuno ymweld â ni wyneb yn wyneb, gyrrwch e-bost neu ffoniwch ni ymlaen llaw i drefnu apwyntiad.
Mae mynediad i'r adeilad ar bafin gwastad ac mae drysau cylchdroi a phweredig. Mae grisiau gyda chledrau llaw i fynedfa'r dderbynfa, ac mae lifft blatfform sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn hefyd. Lleolir y swyddfa, sy'n hygyrch, ar lawr y dderbynfa. Mae toiledau hygyrch yn yr adeilad a lifftiau i bob llawr.
Publications
Penderfyniadau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, Chwefror 2024
Publications
Penderfyniadau Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd tri), Chwefror 2024
Publications
Cymru: penderfyniadau pwyllgor Mawrth 2024
Newyddion
Cannoedd o gynigion treftadaeth arbennig ledled y DU y gwanwyn hwn
Publications
Cymru: cyfarfod dirprwyedig Chwefror 2024
Publications
Cymru: cyfarfod dirprwyedig Ionawr 2024
Newyddion
Mae Treftadaeth 2033, ein rhaglen Loteri Genedlaethol Newydd, ar agor ar gyfer grantiau o £10,000 hyd at £10 miliwn
Publications
Cymru: penderfyniadau pwyllgor Tachwedd 2023
Publications
Penderfyniadau Coetiroedd Bach yng Nghymru, Tachwedd 2023
Publications
Cymru: cyfarfod dirprwyedig Rhagfyr 2023
Publications