Cymru: cyfarfod dirprwyedig Awst 2024
Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
Longest Yarn Llandudno – Gathering Threads of D-Day
Ymgeisydd: Friends of Mostyn Street
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect chwe mis i goffau Dydd-D yr Ail Ryfel Byd yn Llandudno trwy gyfres o ddigwyddiadau a fydd yn para am fis gan ddefnyddio arddangosion sydd ar fenthyg ac wedi’u creu gan wirfoddolwyr lleol, llwybr pabïau, arddangosfeydd, ail-greadau a chofnodi atgofion o'r rhyfel yn ddigidol.
Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £19,759 (75%)
Gender First – "See how gender roles have changed and how we can still make changes"
Ymgeisydd: Vale People First Limited
Disgrifiad o'r Prosiect: Prosiect dwy flynedd yw hwn (sy’n rhedeg rhwng 01/07/24 a 01/07/26) sydd â’r nod o ddarparu cyfleoedd i bobl ag anableddau dysgu gysylltu â deunydd archifau ar rolau rhywedd drwy gydol hanes. Byddai hyn yn galluogi cyfranogwyr i ddeall cyd-destun hanesyddol rolau rhywedd yn y presennol.
Penderfyniad: Dyfarnwyd: Dyfarnu Grant o £40,860 (100%)
St Mary's Church, Chirk, bell restoration and augmentation project
Ymgeisydd: Cyngor Ardal Weinidogaeth y Santes Fair, Y Waun yn Esgobaeth Llanelwy.
Disgrifiad o'r Prosiect: Mae'r cais yn cyfeirio at adfer cylch o chwe chloch, a gafodd eu castio ym 1814 gan John Rudhall o Gaerloyw a'u hongian yn Eglwys y Santes Fair, Y Waun. Cafodd y chwe chloch eu gwaith cynnal a chadw ac ail-hongian diwethaf yn 1912 gan John Taylor and Co.
Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £37,890 (53%)
Interpretation Gold: Celebrating 50 years of inspiring, engaging and connecting people to drive a more sustainable future in heritage interpretation
Ymgeisydd: Assocation for Heritage Interpretation
Disgrifiad o'r Prosiect: Nod y prosiect 16 mis hwn yw nodi 50 mlynedd ers sefydlu Association for Heritage Interpretation, y corff aelodaeth ar gyfer y rhai sy'n ymwneud â dehongli.
Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £150,000 (81%)