National Lottery Grants for Heritage – £250,000 to £5million
Dyfarnwyd arian datblygu i'r prosiect i'w alluogi i fwrw ymlaen â'i gynlluniau a chyflwyno cais am grant llawn o dros £9miliwn gan y Gronfa Treftadaeth yn y dyfodol.
Wedi’i lleoli o fewn gweithdai Fictoraidd rhestredig Gradd I Chwarel hanesyddol Dinorwig, mae'r amgueddfa'n cynnwys bythynnod chwarelwyr, locomotifau gweithiol ac inclein Vivian ochr yn ochr ag olwyn ddŵr weithredol fwyaf y DU.
Mae’r amgueddfa’n adrodd storïau'r dynion a’r menywod a siapiodd dirwedd Cymru ac a gyfrannodd at bensaernïaeth a seilwaith ledled y byd.
Bydd modd i ni ddod â’r casgliad cenedlaethol ac arddangosfeydd newydd i ogledd Cymru am y tro cyntaf.
Jane Richardson, Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru
Bydd y prosiect, a arweinir gan Amgueddfa Cymru, yn gwarchod ac yn gwella cyflwr treftadaeth adeiledig y safle, gan ei drawsnewid i fod yn hyb dehongli ar gyfer Tirwedd Llechi Cymru. Daeth yr ardal yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn 2021 i gydnabod ei rôl o roi toeon ar fyd y 19eg ganrif.
Dywedodd Jane Richardson, Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru: “Yn ogystal â thrawsnewid ein hamgueddfa, bydd hyn hefyd yn newid y ffordd y gallwn adrodd hanes tirwedd llechi treftadaeth y byd gogledd-orllewin Cymru.
“Trwy ddatblygu mannau creadigol newydd, bydd modd i ni ddod â’r casgliad cenedlaethol ac arddangosfeydd newydd i ogledd Cymru am y tro cyntaf. Byddwn hefyd yn creu cyfleoedd i bobl o bob cefndir fwynhau, dysgu a datblygu sgiliau crefft traddodiadol, gan gynyddu cyflogaeth a lles, a chreu cysylltiadau gwell rhwng pobl a chymunedau gyda’n casgliadau gwych.”