Penderfyniadau Coetiroedd Bach yng Nghymru, Mehefin 2024

Penderfyniadau Coetiroedd Bach yng Nghymru, Mehefin 2024

See all updates
Atodlen o Benderfyniadau a wnaed gan yr is-fwrdd Cymorth Grant nad yw'n dod o'r Loteri (is-set o Ymddiriedolwyr), 24 Mehefin 2024.

Y Cynllun Grant Coetiroedd Bach

Cynllun grant sydd â'r nod o greu Coetiroedd Bach, fel rhan o Goedwig Genedlaethol Llywodraeth Cymru.

Atodlen o benderfyniadau

Pontnewydd Primary Tiny Forest Project

Ymgeisydd: Pontnewydd Primary School

Disgrifiad Prosiect: Creu man gwyrdd bioamrywiol ar diroedd ysgol i wella lles disgyblion a'r gymuned, gwella cynefinoedd bywyd gwyllt, a chyfrannu at liniaru newid yn yr hinsawdd trwy addysg amgylcheddol.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £29,030 (100%)

Growth for Good Tiny Forests

Ymgeisydd: Valleys to Coast Housing Limited

Disgrifiad Prosiect: Creu dau Goetir Bach a arweinir gan y gymuned ar dir ystâd dai ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Nod y prosiect yw gwella bioamrywiaeth, gwella lles y gymuned, a lliniaru newid yn yr hinsawdd trwy ddal carbon a chreu mannau gwyrdd.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £72,900 (100%)

Gaer and Maesglas Primary School Partnership - enhancing the environment for our school communities

Ymgeisydd: Gaer Primary School

Disgrifiad Prosiect: Creu gofod coetir a rennir ar gyfer y ddwy ysgol a’u cymunedau, gan feithrin addysg amgylcheddol, ennyn diddordeb y gymuned, a llesiant trwy weithgareddau sy’n seiliedig ar natur.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £80,000 (100%)

Ogmore Valley Community Council Tiny Forest

Ymgeisydd: Ogmore Valley Community Council

Disgrifiad Prosiect: Nod y prosiect hwn yw creu Coetir Bach yn Evanstown, Cymru, i gyfoethogi'r amgylchedd lleol, gwella lles cymunedol, a meithrin ymdeimlad o falchder a pherchnogaeth ymhlith trigolion. Nod yr ariannu yw gwella bioamrywiaeth ond bydd hefyd yn darparu gofod ar gyfer adloniant, addysg, a myfyrio drwy ymgysylltu â gwirfoddolwyr a chydweithio â phartneriaid i geisio grymuso’r gymuned i gymryd rôl weithredol mewn cadwraeth amgylcheddol a datblygu cymunedol.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £36,306 (100%)

Glan Y Mor

Ymgeisydd: Greenlinks Community Interest Company

Disgrifiad Prosiect: Nod y prosiect hwn yw monitro, cadw, gwarchod a thyfu rhywogaethau lleol ac endemig; gan gynnwys y gymuned leol mewn prosiectau dan arweiniad ar gyfer rheoli coetiroedd, amaeth-goedwigaeth a chynaladwyedd. Bydd yr ariannu'n cefnogi cost y coed, plannu, cynaeafu hadau yn y dyfodol a banc hadau/planhigfa gymunedol a thrwy gysylltiadau ag elusennau a sefydliadau lleol, bydd pobl yn defnyddio ein safle ac yn dod yn rhan o'r prosiect adfywio hwn.

Penderfyniad: Gwrthod

Grange Project

Ymgeisydd: Grange Farm

Disgrifiad Prosiect: Sefydlu Coetir Bach fel ystafell ddosbarth awyr agored ar gyfer addysg amgylcheddol i bobl ifanc. Nod y prosiect yw cynnwys pobl ifanc mewn gweithgareddau adfer natur, hyrwyddo bioamrywiaeth, a chyfrannu at liniaru newid yn yr hinsawdd. Bydd yr ariannu'n cefnogi plannu, cynnal a chadw, a rhaglenni addysgol, gan gynnwys allgymorth cymunedol ac ymgysylltu dwyieithog.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £26,750 (100%)

Llangybi Green Park Project

Ymgeisydd: Llangybi Fawr Community Council

Disgrifiad Prosiect: Nod y prosiect hwn yw gwella cydlyniant cymunedol ac ar yr un pryd cynyddu bioamrywiaeth trwy gyfleusterau/amgylchedd newydd. Bydd yn cefnogi gwirfoddolwyr lleol i greu amgylchedd dysgu lle gall y plant fod yn rhan o blannu coed, adeiladu gwestai trychfilod, cynefinoedd draenogod a blychau adar/ystlumod ac astudio’r tywydd, a chreu cyfleoedd i bawb ddysgu sut i ofalu am ein hamgylchedd naturiol.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £34,093 (100%)

A Tiny Forest at Little West

Ymgeisydd: Little West (Nature and Therapy) CIC

Disgrifiad Prosiect: Creu Coetir Bach therapiwtig ar gyfer bywyd gwyllt a lles y gymuned. Nod y prosiect yw gwella bioamrywiaeth, cefnogi iechyd meddwl trwy gysylltu â byd natur, a darparu cyfleoedd addysgol. Bydd ffocws ar y Gymraeg ac ennyn diddordeb y gymuned yn ganolog i’r fenter.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £36,186 (100%) 

AbergeleGC CoetirBach

Ymgeisydd: Abergele Golf Club

Disgrifiad Prosiect: Bydd y prosiect Coetir Bach yn galluogi gwella bywyd gwyllt a fflora'r lleoliad. Bydd yr ariannu'n cefnogi plannu coed newydd a fydd yn sefydlu coedwig hyfyw i alluogi adar/anifeiliaid i groesi'r cwrs, bwydo, creu cyfleoedd nythu a thyrchu mewn cynefin cynaliadwy a fydd yn ffurfio etifeddiaeth ar gyfer y dyfodol.

Penderfyniad: Gwrthod

Maesllwyn and Coed Brimmon Tiny Forests

Ymgeisydd: North and Mid Wales Trunk Road Agent

Disgrifiad Prosiect: Nod y prosiect hwn yw plannu a thyfu dau goetir bach a fydd yn cael eu hintegreiddio o fewn ystod o fathau o gynefin gyda'r nod o ddatblygu dros amser ar dir amaethyddol. Bydd yr ardal yn dod yn adnodd cymunedol, gan ehangu'r man gwyrdd cymunedol o amgylch Y Drenewydd a'r Goedwig Genedlaethol.

Penderfyniad: Gwrthod

Trehafren Coetiroedd Bach

Ymgeisydd: Going Green for a Living Community Land Trust Ltd

Disgrifiad Prosiect: Sefydlu Coetir Bach yng Nghaeau Trehafren i wella bioamrywiaeth, ennyn diddordeb y gymuned a chyfleoedd addysgol. Nod y prosiect yw cynyddu defnydd o'r parc, creu atyniad newydd, a chyfrannu at y rhwydwaith Coedwig Genedlaethol. Bydd agosrwydd y coetir at ysgolion, cyfleusterau cymunedol, ac opsiynau cludiant yn hwyluso cyfranogiad eang gan wirfoddolwyr.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £40,000 (100%)

Graig-y-Rhacca

Ymgeisydd: Graig Y Rhacca Nursery and Primary Community School

Disgrifiad Prosiect: Creu Coetir Bach yn yr ysgol i wella dysgu awyr agored, bioamrywiaeth ac ennyn diddordeb y gymuned. Nod y prosiect yw cysylltu mannau gwyrdd presennol, darparu addysg amgylcheddol, a meithrin ymdeimlad o berchnogaeth trwy ennyn diddordeb y gymuned a stiwardiaeth coed. Bydd yr ariannu'n cefnogi sefydlu'r coetir, hygyrchedd, ac adnoddau addysgol, gan gynnwys dehongli iaith Gymraeg.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £30,440 (100%)

Coetiroedd Bach yn Ysgolion Gorllewin Caerdydd / Tiny Forests in Cardiff West Schools

Ymgeisydd: Trees for Cities

Disgrifiad Prosiect: Ehangu'r fenter Coetir Bach i ddwy ysgol arall yng Ngorllewin Caerdydd, gan ganolbwyntio ar ardaloedd Trelái a Chaerau. Nod y prosiect yw creu mannau gwyrdd bioamrywiol, addysgol a hygyrch ar feysydd chwarae ysgolion. Gan ddefnyddio dull Miyawaki, bydd y prosiect yn cynnwys ennyn diddordeb y gymuned, plannu coed, monitro, ac addysg amgylcheddol.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £80,000 (100%)

Whitmore High School Barry

Ymgeisydd: Whitmore High School

Disgrifiad Prosiect: Sefydlu Coetir Bach fel ystafell ddosbarth awyr agored i feithrin stiwardiaeth amgylcheddol a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Nod y prosiect yw cysylltu cymuned yr ysgol â choetiroedd lleol, ennyn diddordeb ysgolion cynradd bwydo, a chreu etifeddiaeth o warchod bioamrywiaeth trwy ddysgu ymarferol a chynnwys y gymuned.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £39,750 (100%)

Dewi Sant

Ymgeisydd: Ysgol Gymraeg Dewi Sant

Disgrifiad Prosiect: Creu man dysgu awyr agored dwyieithog ar gyfer disgyblion a’r gymuned ehangach. Bydd y Coetir Bach yn gwella llesiant, yn cefnogi cyflwyno’r cwricwlwm, ac yn meithrin cysylltiad â natur. Nod y prosiect yw cynnwys Cylch Meithrin yr ysgol a hyrwyddo addysg amgylcheddol trwy brofiadau ymarferol.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £22,620 (100%)

Glanrafon

Ymgeisydd: Ysgol Glanrafon

Disgrifiad Prosiect: Sefydlu Coetir Bach dwyieithog cyntaf Sir y Fflint, gan hyrwyddo addysg amgylcheddol, ennyn diddordeb y gymuned a gweithredu ar yr hinsawdd. Nod y prosiect yw creu man gwyrdd hygyrch i gadeiriau olwyn ar gyfer dysgu, chwarae a gwella bioamrywiaeth, tra'n cefnogi busnesau lleol a datblygu sgiliau gwyddoniaeth dinasyddion.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £40,000 (100%)