Cymru: cyfarfod dirprwyedig Mehefin 2024

Cymru: cyfarfod dirprwyedig Mehefin 2024

Atodlen o benderfyniadau o dan bwerau dirprwyedig Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer Cymru ar 4 Mehefin 2024.

Cynnydd grant

Ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis

Ymgeisydd: Amgueddfa Genedlaethol Cymru 

Penderfyniad: Cytuno ar newid yng nghanran y grant o 44% i 78.96%

 

Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Denbigh and World War 2.  Commemoration of D Day 80 years 2024

Ymgeisydd: British Legion Denbigh & District

Disgrifiad o'r Prosiect: Nod y prosiect pum mis hwn yw coffáu Glaniadau D-Day a chysylltu trigolion Dinbych â threftadaeth Ail Ryfel Byd y dref.

Penderfyniad: Gwrthod


Shared History: Safeguarding Heritage and Community Engagement

Ymgeisydd: Ymddiredolaeth Cwrt Insole

Disgrifiad o'r Prosiect: Nod y prosiect 23 mis hwn (Mehefin 2024 – Mai 2026) yw catalogio, digideiddio, storio a rhannu'n briodol archif 30 mlynedd Cwrt Insole a goladwyd gan Wirfoddolwyr yr Archifau. Mae'r prosiect yn ceisio cynyddu cyfleoedd masnachol trwy adeiladu ar y rhaglen ddigwyddiadau, arallgyfeirio eu cynulleidfa a gwirfoddolwyr, hyfforddi eu gwirfoddolwyr a buddsoddi ynddynt.

Penderfyniad: Gwrthod


#HP Pathways to the past: Cynnwys gwirfoddolwyr a chysylltu cymunedau yng Nghastell-nedd Port Talbot â'u treftadaeth.

Ymgeisydd: Tempo Time Credits Ltd

Disgrifiad o'r Prosiect: Nod y prosiect dwy flynedd hwn yw taclo'r heriau y mae'r sector treftadaeth yng Nghastell-nedd Port Talbot yn eu hwynebu wrth recriwtio a chadw gwirfoddolwyr. Bydd yr ymgeisydd yn defnyddio dull seiliedig ar le i gysylltu pobl leol â threftadaeth yr ardal gyda golwg ar gynnal a gwarchod treftadaeth, ennyn diddordeb gwirfoddolwyr, safleoedd, grwpiau a sefydliadau newydd.

Penderfyniad: Dyfarnu


Empowering Voices, Exploring Worldviews

Ymgeisydd: Lincoln Diocesan Board of Education

Disgrifiad o'r Prosiect: Mae’r prosiect hwn yn ceisio ymchwilio, datblygu a chyd-greu pennod podlediad tri deg munud o hyd ynghyd â drama radio newydd wedi’i chreu ar y cyd â phobl ifanc o Gymru a Bwdhyddion, cyfweliad ag addysgwyr o Gymru, Bwdhyddion ac arbenigwyr treftadaeth i archwilio eiddo diwylliannol, diwylliant anniriaethol, treftadaeth naturiol a threftadaeth ddigidol.

Penderfyniad: Gwrthod


Llangollen Museum Survival and Heritage Sustainability Programme

Ymgeisydd: Amgueddfa Llangollen

Disgrifiad o'r Prosiect: Mae'r prosiect un mis ar bymtheg hwn yn ceisio sicrhau parhad a chynaladwyedd Amgueddfa Llangollen a lleihau'r risg i'w chasgliad a achosir gan seilwaith sy'n methu.

Penderfyniad: Dyfarnu


KFOR and Kosovo +25 - 1st The Queen's Dragoon Guards

Ymgeisydd: HEARTSTONE CONFEDERATION OF INTERNATIONAL STORY CIRCLES CIC

Disgrifiad o'r Prosiect: Mae'r prosiect hwn yn ceisio ariannu'r gwaith o greu a chyflwyno arddangosfa o waith TQDG, a leolir yn Amgueddfa Firing Line Castell Caerdydd, sy'n ymdrin â'u rôl fel ceidwaid heddwch yn y gwrthdaro yn Kosovo yn ystod 2000-01, ac i gynnal cyfres o weithgareddau sydd wedi'i gysylltu'n uniongyrchol â'r delweddau ac yn ffocysu arnynt. Mae'r prosiect yn nodi 25 mlynedd ers eu cyfranogiad.

Penderfyniad: Dyfarnu