Landscape Partnerships
Gan dderbyn dyfarniad o £1.1miliwn yn 2016, mae Ynys Cybi i'w Thrysori – Our Island Gem yn canolbwyntio ar Ynys Cybi, ynys greigiog fechan oddi ar arfordir gorllewinol Ynys Môn.
Mae’r dirwedd arw hon wedi bod yn gartref i gymunedau di-ri ar draws y canrifoedd ac wedi chwarae rôl arwyddocaol o ran amddiffyn, mudo a masnach yn yr ardal.
Ar un adeg yn gadarnle Rhufeinig, heddiw mae Ynys Cybi'n hyb trafnidiaeth allweddol ac yn borth gorllewinol sy'n croesawu ymwelwyr i Gymru.
Er mwyn gwarchod y lle arbennig hwn, mae gan y bartneriaeth dirwedd hon 21 o brosiectau i ymdrin â nifer o gamau gweithredu sydd wedi'u cydnabod yn flaenoriaethau gan y gymuned leol. Mae'r bartneriaeth yn cynnwys cynrychiolwyr o'r ardal leol gan gynnwys dros 40 o randdeiliaid.
Un ffocws o'r prosiect yw gwella dealltwriaeth o gymeriad y dirwedd a’i manteision i’r gymuned, gan gynnwys gwella lles ac ansawdd bywyd pobl a’r economi leol.
Bydd rhai o'r prosiectau yn rheoli ac yn gwella'r cynefin rhostir nodweddiadol trwy glirio prysgwydd a datrysiadau rheoli tymor hwy. Mae eraill yn canolbwyntio ar gysylltu cymunedau â'r arfordir a pharciau gwledig trwy ddatblygu llwybrau troed mynediad hawdd a llwybrau cerdded a fforio newydd.
Bydd 'cod ymddygiad' a chanllaw safle newydd yn annog ac yn galluogi ymddygiad cynaliadwy ymhlith darparwyr gweithgareddau awyr agored.
Mae cydweithio’n agos â thirfeddianwyr yn ganolog i’r prosiect er mwyn rheoli’r tir yn well, gan gynnwys rhostir arfordirol, a rheoli rhywogaethau ymledol. Bydd y cynllun yn datblygu rhaglen wirfoddoli i recriwtio a hyfforddi mwy o bobl i sicrhau bod y tir yn cael ei reoli'n gynaliadwy yn y tymor hir.
Etifeddiaeth sy'n parhau
Bydd y cynllun Partneriaeth Tirwedd yn rhedeg tan 2025, er bod y prosiect yn cynllunio y tu hwnt i'r pwynt hwn i sicrhau bod etifeddiaeth y cynllun yn parhau.
Mae mwy o wybodaeth ar wefan Cyngor Sir Ynys Môn.