£10 miliwn o ariannu newydd ar gael ar gyfer cynefinoedd naturiol Cymru sydd mewn perygl
Bellach yn ei phedwaredd rownd, nod y rhaglen yw adeiladu rhwydwaith mwy cryf a chydnerth o safleoedd gwarchodedig, o ucheldiroedd mynyddig i ddolydd morwellt tanddwr.
Mae ceisiadau ar agor am grantiau rhwng £50,000 ac £1m ar gyfer prosiectau a all fynd i'r afael â heriau ecolegol a helpu pobl a rhywogaethau i ffynnu.
Os ydych yn unigolion, sefydliad neu gymuned sy'n gweithio gyda threftadaeth naturiol yng Nghymru ac mae gennych syniad ar gyfer hybu cydnerthedd byd natur a helpu cymunedau, rydym am glywed oddi wrthych.
Ond bydd angen i chi weithredu'n gyflym. Ar gyfer ceisiadau rhwng £50,000 a £250,000 mae angen i chi gyflwyno Ymholiad Prosiect erbyn 22 Gorffennaf 2024. Ar gyfer ceisiadau rhwng £250,000 ac £1m mae angen i chi gyflwyno Mynegiad o Ddiddordeb erbyn 16 Awst 2024.
I gael gwybod mwy, mynnwch gip ar yr arweiniad ymgeisio a chofrestrwch ar gyfer ein gweminar am ddim ar y Gronfa Rhwydweithiau Natur ddydd Iau 11 Gorffennaf am 10am.
Cynyddu cydnerthedd byd natur
Rydym yn cyflwyno'r Gronfa Rhwydweithiau Natur ar ran Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru
Dywedodd Ruth Jenkins, Pennaeth Polisi Rheoli Adnoddau Naturiol Cyfoeth Naturiol Cymru: “Rydym mewn argyfwng natur gyda bioamrywiaeth yn dirywio. Ond rydym hefyd yn cydnabod mai natur yw'r garreg sylfaen i lesiant yng Nghymru – gan gefnogi cydlyniant a chydnerthedd cymunedol, economïau lleol cryf, cyflogaeth, dysgu, ac iechyd meddyliol a chorfforol. A dyma pam mae'n mor hanfodol i adfer a chynyddu cydnerthedd byd natur."
Storïau o lwyddiant
Ers 2021, rydym wedi dosbarthu dros £26m drwy’r Gronfa Rhwydweithiau Natur i brosiectau sy’n cryfhau treftadaeth naturiol ac yn adfer cynefinoedd sydd mewn perygl, gan gynnwys:
- Project Seagrass sy'n gweithio i warchod, diogelu ac adfer dolydd morwellt - elfen hanfodol o dirweddau arfordirol iach ac ecosystemau morol.
- Prosiect Cysylltu Natur 25x25 Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro sy'n ceisio rhoi hwb sylweddol i adferiad byd natur ar draws 25% o ran ogleddol y parc erbyn 2025.
- Prosiect Luronium Futures yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd, sydd wedi gwella cyflwr rhan o gamlas Maldwyn yng Nghymru sy'n gartref i blanhigion prin.
- Mae ZSL (Cymdeithas Sŵolegol Llundain) a Phrifysgol Bangor yn adfer cynefinoedd wystrys brodorol ym Mae Conwy er mwyn gwella bioamrywiaeth forol ac ailgysylltu pobl â’u treftadaeth arfordirol.
Meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: “Mae gweld yr effaith a’r trawsnewid o lygad y ffynnon o ganlyniad i weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i’m hysbrydoli.
“Mae gennym ni amrywiaeth anhygoel o dirweddau, o’n mynyddoedd mawreddog a’n coetiroedd hynafol, i raeadrau ysblennydd ac arfordir syfrdanol. Mae’n dod â llawenydd mawr i mi felly i allu parhau i chwarae ein rhan wrth warchod ac adfer treftadaeth naturiol Cymru gyda’r rownd ddiweddaraf hon o arian Rhwydweithiau Natur.”
Ein cefnogaeth i dreftadaeth Cymru
Ers 1994, rydym wedi buddsoddi dros £500bn mewn mwy na 3,400 o brosiectau ar draws Cymru. Archwiliwch brosiectau yn eich ardal chi neu dewch o hyd i ysbrydoliaeth ar gyfer eich cais eich hun.