Cymru: penderfyniadau pwyllgor Mehefin 2024
Ceisiadau Rownd gyflwyno'r FfAS
LleCHI LleNI: Ein Safle Treftadaeth y Byd, Ein Balchder, Ein Dyfodol / LleCHI LleNI: Our World Heritage Site, Our Pride, Our Future
Ymgeisydd: Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o'r Prosiect: Byddai’r prosiect pum mlynedd sy’n seiliedig ar le yn trawsnewid Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn Nhirwedd Llechi Gwynedd, gan gysylltu trigolion ac ymwelwyr. Byddai’r prosiect yn meithrin ymdeimlad o gydlyniant cymunedol, yn darparu digon o gyfleoedd i ymgysylltu â gweithgareddau, ac yn cefnogi’r diwydiant twristiaeth ffyniannus, trwy sefydlu partneriaethau amrywiol.
Penderfyniad: Dyfarnu grant o £1,756,555 (86% o'r cyfanswm cost)
Ceisiadau rownd ddatblygu Treftadaeth 2033
Haverfordwest Castle: Pembrokeshire's Heritage Gateway
Ymgeisydd: Cyngor Sir Penfro
Disgrifiad o'r Prosiect: Byddai’r prosiect yn adeiladu ar fenter bresennol y Gronfa Ffyniant Bro, ac yn blaenoriaethu gwelliannau seilwaith ac atgyweiriadau i Gastell Hwlffordd, gan ganolbwyntio ar wella ei gyfanrwydd adeileddol a hygyrchedd.
Penderfyniad: Dyfarnu grant Datblygu o £368,525.00 (76.72% o'r cyfanswm cost) gyda grant cyflwyno posib o £2,314,272