Croesawu Bradford yn Ddinas Diwylliant 2025
Mae Bradford yn ddinas fywiog yng Ngorllewin Swydd Efrog gyda phoblogaeth ifanc ac ysbryd cymunedol cryf. Mae gan y ddinas dreftadaeth ddiwydiannol gyfoethog (hi oedd pencadlys gwlân y byd ar un cyfnod) ac mae ganddi bensaernïaeth Fictoraidd ysblennydd - yn wir derbyniodd £2filiwn o arian Loteri Genedlaethol ym 2018. Rhoddodd y buddsoddiad hwn hwb i'r adeiladau hanesyddol a chreu canol dinas lewyrchus yn llawn siopau, swyddfeydd a fflatiau.
Rydym wedi cefnogi prosiectau mawr a bach yn y ddinas, gan gynnwys hanes y gynghrair Quaid-e Azam - y gynghrair griced Asiaidd cyntaf y'i sefydlwyd yn Swydd Efrog.
Ac yn awr, bydd gan Bradford gyfle i arddangos ei diwylliant a’i threftadaeth i’r DU a gweddill y byd.
Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Bradford i wneud eu rhaglen yn llwyddiant anhygoel ac i helpu i rannu ei threftadaeth hynod ddiddorol ar lwyfan byd-eang.
Eilish McGuiness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
Beth yw Dinas Diwylliant?
Bradford yw'r bedwaredd ddinas i gael y teitl, ar ôl Derry/Londonderry yn 2013, Hull yn 2017 a Coventry yn 2021.
Mae Dinas Diwylliant y DU yn rhaglen a ddatblygwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, a chaiff y teitl ei ddal gan ddinas wahanol yn y DU bob pedair blynedd. Mae’n cefnogi dinasoedd i osod gweledigaeth ar gyfer adfywio a arweinir gan ddiwylliant – gan ddangos y rôl bwysig y gall diwylliant ei chwarae mewn trefi, dinasoedd a chymunedau gwledig. Mae'r teitl yn dod â buddion cymdeithasol ac economaidd megis buddsoddiad, dathliadau trwy gydol y flwyddyn, a chyfleoedd i bobl o bob oed a chefndir.
Gofynnwyd i bob cynnig esbonio sut y byddent yn defnyddio diwylliant i dyfu a chryfhau eu hardal leol, yn ogystal â sut y byddent yn defnyddio diwylliant i wella ar ôl effaith y pandemig coronafeirws (COVID-19).
Drwy gydol ymgyrch gynnig Bradford, maent wedi cyflwyno cyfres o brosiectau a allai roi cipolwg i ni o’r hyn sydd i ddod, gan gynnwys:
• rhaglen gwaith celf cyhoeddus newydd
• lansio ‘The Unit’, cyfleuster a gefnogir gan Channel 4 ar gyfer gwneuthurwyr ffilm
• The Mills Are Alive yn Manningham – sioe daflunio ar raddfa fawr a oleuodd simnai eiconig Lister Mills
Effaith gadarnhaol ein cyllid yn y gorffennol
Fe wnaethom fuddsoddi £3m ar gyfer Dinas Diwylliant Coventry, ac mewn ymateb fe ddatblygon nhw linyn treftadaeth naturiol i’w rhaglen o’r enw Green Futures. Yn 2021, gwelsom Green Futures yn addasu yn wyneb y pandemig gyda grwpiau darllen rhithwir, sgyrsiau artistiaid digidol a theithiau cerdded o bellter cymdeithasol.
Eleni, llwyddodd y rhaglen i ryddhau amserlen gyffrous o ddigwyddiadau personol - gan gynnwys sioe dronau a dorrodd record - i barhau i ddefnyddio diwylliant i annog pobol Coventry i gymryd rhan fwy gweithgar, hirdymor mewn cynaliadwyedd a'u cysylltu â'u diwylliant treftadaeth naturiol leol.
Ar gyfer Hull 2017, helpodd ein buddsoddiad o £3m i ariannu rhaglen odidog o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn – o dafluniadau ar raddfa fawr a goleuo ar adeiladau, i amrywiaeth o weithiau celf a digwyddiadau yn darlunio treftadaeth diwydiant pysgota’r ddinas.
Yn dilyn llwyddiant 2017, mae Hull wedi bod yn defnyddio’r momentwm i drawsnewid ei dreftadaeth forwrol gyfoethog a dod yn gyrchfan ymwelwyr o safon fyd-eang. Mae prosiect Hull: Dinas Forwrol Swydd Efrog (HYMC) – a gafodd hwb o £13.6m gan y Loteri Genedlaethol – yn gwarchod dwy long hanesyddol, yn trawsnewid yr Amgueddfa Forwrol ac yn datblygu canolfan ymgyfarwyddo ymwelwyr. Bydd y prosiect etifeddiaeth yn adrodd stori hanes morwrol cyfoethog Hull ac yn creu ymdeimlad o le, perthyn a hunaniaeth.
Fe wnaeth buddsoddi mewn prosiectau treftadaeth ar draws dinas Derry/Londonderry dros nifer o flynyddoedd ei helpu i gael ei henwi fel Dinas Diwylliant gyntaf y DU yn 2013 a gwneud y flwyddyn honno yn gymaint o lwyddiant.
Effeithiau trawsnewidiol
Dywedodd Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: “Rwyf wrth fy modd bod Bradford wedi cael y teitl mawreddog, Dinas Diwylliant 2025. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag Bradford i wneud eu rhaglen yn llwyddiant anhygoel ac i helpu rhannu ei threftadaeth hynod ddiddorol ar lwyfan byd-eang.
“Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym wedi gallu ariannu prosiectau ar raddfa fawr gyda chyn-ddeiliaid gwobrau Dinas Diwylliant, Hull a Coventry. Rydym wedi gweld yn uniongyrchol yr effeithiau trawsnewidiol y gall y teitl hwn eu cyflwyno, gan greu ymdeimlad dyfnach o le, balchder a hunaniaeth. Edrychwn ymlaen at y cyfleoedd cyffrous y bydd yn eu cynnig i bobl Bradford nawr ac yn y dyfodol. Llongyfarchiadau Bradford!”
Ein gwaith a gwerth treftadaeth
Oeddech chi'n gwybod nad yw treftadaeth yn ymwneud â chestyll ac adeiladau yn unig? Darganfyddwch fwy am yr hyn rydyn ni'n ei ariannu, a'r prosiectau gwych rydyn ni'n eu cefnogi, sy'n cynnwys diwylliannau ac atgofion.