Cannoedd o gynigion treftadaeth arbennig ledled y DU y gwanwyn hwn
![Teulu yn edrych ar arddangosiad o flwch nythu adar](/sites/default/files/styles/main_image_desktop/public/media/imgs/belfastwow-brian-morrison.jpg.webp?itok=vDZWQv5-)
I ddweud diolch am y £30 miliwn a godir at achosion da bob wythnos gan chwaraewyr, mae lleoliadau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol yn cynnig mynediad am ddim, gostyngiadau a bargeinion arbennig trwy gydol Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol 2024.
Sut mae hawlio cynnig?
Gall unrhyw un sydd â cherdyn crafu neu docyn loteri fanteisio ar gynnig.
Bwrw golwg ar uchafbwyntiau ein cynnig isod. Rhowch wybod i ni ble rydych chi'n mynd ar ymweliad gan ddefnyddio #DiolchiChi.
Uchafbwyntiau'r cynnig
Mynediad am ddim
Mae cannoedd o safleoedd a lleoliadau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn agor eu drysau am ddim gan gynnwys Castell Powys a'i Gerddi yng Nghymru a Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO, Fountains Abbey yng Ngogledd Swydd Efrog a Sarn y Cawr yng Ngogledd Iwerddon.
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Yr Alban yn cymryd rhan, gan gynnig mynediad am ddim i leoedd treftadaeth fel Drum Castle, Fall House of Dun a Gladstone's Land.
Fforiwch gwarchodfeydd natur yr RSPB megis Belfast's Window on Wildlife, Burton Mere Wetlands, Gwarchodfa Natur Conwy a Gwarchodfa Natur Loch Lomond, sydd hefyd yn cynnig citiau hela bwystfilod bach am ddim. Neu cymerwch ran mewn taith gerdded sgwarnog ar y mynydd am ddim yng nghronfa ddŵr Dove Stone, Manceinion Fwyaf.
Ewch i safleoedd syfrdanol English Heritage am ddim gan gynnwys Eltham Palace, Dover Castle, Brodsworth Hall and Gardens, Kenilworth Castle and Elizabethan Garden, Pendennis Castle, Marble Hill a mwy.
Gallwch hefyd gael mynediad am ddim i leoedd ysbrydoledig gan gynnwys Eden Project, acwariwm Amgueddfa Horniman, Amgueddfa Forwrol Yr Alban, Amgueddfa Werin Ulster a Sunderland Museum and Winter Gardens ymhlith llawer o rai eraill.
![Pobl yn cerdded ar draws tirwedd eiconig llwybr arfordirol Sarn y Cawr](/sites/default/files/styles/hlf_body_full/public/the-giants-causeway-causeway-coastal-route.jpg.webp?itok=1r5M1t1D)
Teithiau tywysedig a theithiau cerdded am ddim
Mae llawer o leoedd yn cynnig teithiau a theithiau cerdded am ddim gan gynnwys y Royal Shakespeare Company, Stephenson Steam Railway, Union Chapel, Cadeirlan Coventry, Poole's Cavern, a Boathouse 4 gyda theithiau o gwmpas bad ager o'r 1940au.
Bargeinion 2-am-1
Mae llawer o fargeinion 2-am-1 gan gynnwys Crich Tramway Village, HMS Belfast, IWM Duxford a Foundling Museum.
![Dau dram hynafol ar dramffordd y pentref](/sites/default/files/styles/hlf_body_full/public/crich-tramway-village.jpg.webp?itok=hnsBGQa6)
Mynediad i blant am ddim
Eleni mae plant yn mynd am ddim mewn llawer o leoedd yn ogystal gan gynnwys Tŵr Llundain, Black Country Living Museum, Palas Kensington a Chanolfan Wyddoniaeth Glasgow.
Gostyngiadau arbennig
Gallwch gael gostyngiadau arbennig yn Sw Caer, Amgueddfa Brooklands, National Glass Centre Shop and Nene Valley Railway.
Dewch o hyd i gynnig yn eich ardal chi
Archwiliwch yr holl gynigion sydd ar gael yn ystod yr Wythnos Agored ar wefan y Loteri Genedlaethol.
Oes gennych chi leoliad ac awydd cymryd rhan?
Os yw eich prosiect treftadaeth wedi derbyn arian y Loteri Genedlaethol, mae amser o hyd i chi gofrestru i gymryd rhan yn Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol 2024.
Mae'n ffordd wych o ddenu cyhoeddusrwydd i'ch prosiect a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd.