Hybu’r iaith Gymraeg yng Nghanolfan Dreftadaeth Hengwrt

Person mewn gwisg hanesyddol yn seffyll mewn stryd yn sgwrso â grŵp

National Lottery Grants for Heritage – £10,000 to £250,000

Dyddiad a ddyfarnwyd
Lleoliad
Llandeilo
Awdurdod Lleol
Carmarthenshire
Ceisydd
Menter Dinefwr
Rhoddir y wobr
£167200
Mae Menter Dinefwr dod â hanes lleol yn fyw ac yn rhoi pwyslais ar yr iaith Gymraeg diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

Yn dilyn llwyddiant Menter Dinefwr i drawsnewid Hengwrt yn ganolfan gymunedol amlbwrpas, fe estynnwyd y prosiect yn 2022 i gynnwys ffocws ar dreftadaeth yr ardal.

Mae’r prosiect yn adfywio diddordeb yn hanes a diwylliant trigolion ac ymwelwyr i’r ardal. Mae digwyddiadau hyd yma yn cynnwys arddangosfa yn y ganolfan sydd yn rhoi’r cyfle i’r cyhoedd archwilio ystod o safleoedd treftadaeth ardal Dinefwr.

Bu Gŵyl Hanes Llandeilo weld y dref i gyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau megis sesiynau celf a chrefft a cherddoriaeth.

Mae’r canolfan hefyd yn cynnal sesiynau galw heibio wythnosol i drafod hanes yr ardal, sydd yn cael eu cynnal yn yr iaith Gymraeg.

Mae hybu’r iaith Gymraeg yn rhan allweddol o’r prosiect, gyda’r iaith yn ei hun yn dreftadaeth sydd angen cael ei diogelu.

Dywed Elen Jones, Rheolwr Gweithredol Canolfan Treftadaeth Hengwrt:

“Diolch i’r Loteri Genedlaethol, rydym wedi sefydlu canolfan dreftadaeth lle gall ymwelwyr fwynhau arddangosfeydd dwyieithog rhyngweithiol ar hanes ardal Dinefwr a thu hwnt. Mae’r Gymraeg yn ganolog ac yn weledol ym mhob elfen o’r prosiect – o’n harddangosfeydd a’n digwyddiadau, i’n sgyrsiau a gweithdai.

“Yn 1891 roedd dros 95% o boblogaeth Llandeilo yn siarad Cymraeg ac mae stori’r iaith yn rhan allweddol o dreftadaeth leol. Edrychwn ymlaen at barhau i ddathlu ein hanes a’n treftadaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...