Sefydliadau treftadaeth i rannu atebion arloesol i heriau gweithlu
Helpodd dau gam cyntaf y fenter i sefydliadau archwilio a phrofi syniadau ar gyfer mynd i'r afael â heriau cyffredin a wynebir gan weithluoedd treftadaeth.
Rydym bellach wedi dyfarnu £2.9miliwn i 13 o'r sefydliadau hyn i symud eu syniadau ymlaen i'r trydydd cam, sef y cam terfynol.
Bydd y sefydliadau llwyddiannus yn gweithio gyda'i gilydd mewn carfan, gan barhau i ddysgu am y broses arloesi, a mynd â'r gwersi yn ôl i'w sefydliadau i'w hymwreiddio wrth gyflwyno eu hatebion i heriau gweithlu.
O wella lles i fynd i'r afael â phrinder sgiliau, bydd y prosiectau'n helpu i dyfu sector treftadaeth sy'n fwy cynaliadwy, cynhwysol ac addas ar gyfer y dyfodol.
Meddai Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: "Rwyf wrth fy modd â gweld yr 13 prosiect hyn yn symud ymlaen i’r cam terfynol. Mae'r dull carfan eisoes wedi arwain at ddatblygiadau trawiadol o ran sgiliau, hyder a galluoedd - rwy'n gyffrous i weld yr hyn y byddant yn ei ddatblygu nesaf.
"Mae buddsoddi mewn arloesi'n cefnogi cynaladwyedd sefydliadol, un o'n pedair egwyddor fuddsoddi, a bydd yn sicrhau gwerthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a'i chynnal ar gyfer pawb, nawr ac yn y dyfodol
Gweithio mewn partneriaeth
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Sefydliad Young i gyflwyno’r sesiynau carfan – cymysgedd o ddosbarthiadau meistr a grwpiau dysgu gan gymheiriaid.
Meddai Helen Goulden OBE, Prif Weithredwr Sefydliad Young: “Trwy’r gwaith hwn, mae wedi bod yn wir bleser i weld yr ymgyrch tuag at arloesi uchelgeisiol ar draws y sector treftadaeth, gyda sefydliadau ar hyd a lled y DU yn gweithio mewn ffyrdd cyfranogol i ysgogi newid pwrpasol, parhaol a chynaliadwy i fynd i’r afael â heriau gweithlu.
“Llongyfarchiadau mawr iawn i’r garfan derfynol! Mae Sefydliad Young yn gyffrous i barhau i'w cefnogi i ddatblygu a phrofi arloesiadau newydd i ysgogi twf yn y sector."
Datblygu syniadau ymhellach
Mae'r sefydliadau sy’n symud ymlaen at y cam terfynol yn cynnwys:
Arts Marketing Association a fydd yn datblygu llwyfan deallusrwydd artiffisial newydd sy’n cynnig dysgu wedi’i deilwra am y defnydd o AI yn y sector treftadaeth.
Butterfly Conservation sy'n cefnogi ei Banel Ieuenctid i greu cynnwys, cyfleoedd a hyfforddiant newydd i ysbrydoli pobl ifanc i gymryd rhan mewn cadwraeth.
Amgueddfa Genedlaethol Cymru a fydd yn mynd i’r afael ag eco-bryder ac yn gwella lles yn y gweithlu trwy gyfranogiad mewn gweithgareddau sy’n lleihau effaith newid yn yr hinsawdd.
Sefydliad Ffilm Prydain a fydd yn cefnogi staff presennol a rhai yn y dyfodol drwy ehangu ei fodel hyfforddeiaeth a chynyddu cyfleoedd datblygu canol gyrfa.
Happy Days Enniskillen International Beckett Festival a fydd yn adeiladu sgiliau a balchder yn eu lle trwy ddod â phobl o bob oed ynghyd i rannu eu syniadau.
Gweler y rhestr lawn o grantïon Cam Tyfu'r Gronfa Arloesedd Treftadaeth.
Ymateb i anghenion y sector treftadaeth
Fe wnaethom ddatblygu'r Gronfa Arloesedd Treftadaeth fel ymateb i'n Harolwg Calon Treftadaeth y DU 2022 a ganfu fod 54% o ymatebwyr eisiau mwy o gefnogaeth i'w helpu i arloesi a phrofi dulliau newydd. Mae arloesi hefyd yn elfen bwysig o gyflawni ein hegwyddorion buddsoddi gan gynnwys achub treftadaeth a chynaladwyedd sefydliadol.
Archwiliwch ein strategaeth Treftadaeth 2033 a dweud eich dweud ar y cyfleoedd a’r heriau i’r sector treftadaeth drwy ymuno â'n panel ymchwil Calon Treftadaeth y DU.