Diwylliannau ac atgofion
Maen nhw hefyd yn hanesion personol i ni, y profiadau sydd wedi ein siapio ni a'n cymdeithas.
Ers 1994 rydym wedi dyfarnu mwy na £460m i 24,100 o brosiectau treftadaeth gymunedol a diwylliannol ledled y DU.
Beth rydym yn ei gefnogi?
Rydym yn ariannu prosiectau sy'n helpu i archwilio, cadw a dathlu traddodiadau, arferion, sgiliau a gwybodaeth gwahanol gymunedau.
Weithiau cyfeirir at y dreftadaeth ddiwylliannol hon fel treftadaeth anniriaethol neu fyw. Mae hyn oherwydd ei bod yn newid yn gyson ac yn cael ei chadw'n fyw pan gaiff ei hymarfer neu ei pherfformio.
Rydym hefyd yn ariannu prosiectau sy'n dogfennu ac yn rhannu atgofion pobl. Mae'r prosiectau hyn yn aml yn cynnwys cyfweliadau hanesion llafar, cyfleu straeon a safbwyntiau pobl yn ddigidol, a sicrhau eu bod yn cael eu hadneuo ac yn hygyrch yn awr ac yn y dyfodol.
Syniadau am brosiect
Gall ein harian helpu pobl i:
- ymchwilio a rhannu traddodiadau llafar, fel adrodd straeon neu dafodieithoedd lleol
- hyfforddi eraill mewn sgiliau a chrefftau traddodiadol, o adeiladu waliau sychion a llafnio i gwehyddu basgedi a gwneud tecstilau
- ymchwilio i darddiad diwylliant, megis cerddoriaeth, theatr neu ddawns, a chreu perfformiadau wedi'u dylanwadu gan arddulliau'r gorffennol
- rhannu hanes a hwyl dathliadau, gwyliau neu ddefodau gyda chynulleidfaoedd newydd, o gemau a choginio i carnifalau a ffeiriau
- casglu gwybodaeth draddodiadol neu eu pasio ymlaen, fel rheolaeth coetir neu feddyginiaeth cartref
- cofnodi straeon pobl gyffredin drwy hanesion llafar, er enghraifft am dyfu i fyny, ymfudo neu waith
- ailadrodd atgofion pobl am le neu ddigwyddiad, fel ysbyty arhosiad hir, streic y glowyr neu'r mudiad pync
Sut i gael arian
Programme
Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol – £250,000 i £10miliwn
Newyddion
Dyfarnu £193,502 i brosiectau treftadaeth lleol ledled Cymru
Projects
Dathlu 100 mlynedd o dreftadaeth chwaraeon Port Talbot
Mae clwb rhedeg ac aml-chwaraeon Port Talbot Harriers yn Ne Cymru wedi derbyn grant o £9,200, i ddathlu ei ganmlwyddiant.
Straeon
A allech chi fod yn Brosiect Cynaliadwy'r Flwyddyn 2022?
Newyddion
Arian diweddaraf y Loteri Genedlaethol yn agor mynediad i dreftadaeth
Newyddion
Grantiau Treftadaeth Gorwelion: £50miliwn i bum prosiect trawsnewidiol
Projects
Tanio'r dychymyg a gweithredu yn yr Amgueddfa Gaethwasiaeth Ryngwladol
Bydd yr Amgueddfa Gaethwasiaeth Ryngwladol yn Lerpwl yn cael ei thrawsnewid o gasgliadau ac orielau i amgueddfa amlwg, y cyntaf o'i bath yn y DU.
Blogiau
Cynnal digwyddiadau digidol: awgrymiadau da gan y BFI
Blogiau
Blwyddyn fel Cyfarwyddwr Cymru: cyfyngiadau symud, Balchder a chynhwysiant
Newyddion
Ein hadroddiad newydd yn datgelu effaith argyfwng COVID-19 ar dreftadaeth
Newyddion
Cyfrannu eich safbwynt at ein prosiect ymchwil a datblygu newydd
Straeon