National Lottery Grants for Heritage – £10,000 to £250,000
Ers agor am y tro cyntaf ym 1908, Sefydliad Glofeydd a Neuadd Goffa Celynen, sy’n fwy adnabyddus fel Newbridge Memo, fu calon ddiwylliannol Trecelyn, De Cymru.
Wedi’i adeiladu’n wreiddiol a’i ariannu gan lowyr Glofeydd Celynen i gynnwys mannau cyfarfod, llyfrgell a sinema, achubwyd y lleoliad rhag gorfod cau gan y gymuned yn 2003.
Yn 2010 derbyniodd Memo Trecelyn grant gan y Gronfa Treftadaeth i helpu adfer yr adeiladau rhestredig Gradd II a Gradd II*. O ganlyniad i'r gwaith adfer roedd y gofod yn gallu parhau fel hyb ffyniannus i bobl leol ddod at ei gilydd, dysgu a chael eu hysbrydoli gan y celfyddydau a threftadaeth.
Edrych tuag at y dyfodol
Mae prosiect Y Ffordd Ymlaen wedi adfywio’r rhan bwysig hon o dreftadaeth ddiwylliannol y dref ymhellach. Mae penodi Cyfarwyddwr Lleoliad ac aelodau bwrdd newydd wedi dod â syniadau ac arbenigedd newydd i Memo Trecelyn.
Mae strategaethau busnes, marchnata a chodi arian newydd eu datblygu, ynghyd â rhaglen ddigwyddiadau wedi'i hailwampio, yn helpu sicrhau dyfodol y lleoliad hefyd.
Dywedodd James Clayton-Jones, Cadeirydd Memo Trecelyn: "Rydym wrth ein bodd gyda llwyddiant prosiect Y Ffordd Ymlaen; wrth i'r Memo barhau i ffynnu rydym nawr yn edrych i'r dyfodol gydag optimistiaeth newydd. Ni fyddai effaith a llwyddiant y prosiect wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth a hyder Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol."