Cofrestrwch eich prosiect ar gyfer Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol 2025

Cofrestrwch eich prosiect ar gyfer Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol 2025

A National Lottery scratchcard held in front of a large building with classical architecture and lawn
Mae’n ffordd wych o gydnabod eich grant gan y Gronfa Treftadaeth, cyrraedd cynulleidfaoedd newydd ac elwa o ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus ar draws y DU.

Ers gêm gyntaf y Loteri Genedlaethol ym 1994, £50 biliwn wedi'i godi ar gyfer achosion da ym meysydd treftadaeth, y celfyddydau, chwaraeon, ffilm a chymuned. Dyna dros £30miliwn a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol bob wythnos. Mae Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol yn diolch i'r chwaraewyr am eu cefnogaeth wrth wneud eich prosiect yn bosibl.

Menyw yng Ngerddi Kew yn dal cerdyn crafu

Beth yw Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol?

Cynhelir Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol rhwng dydd Sadwrn 15 a dydd Sul 23 Mawrth 2025. Gall unrhyw un sy'n ymweld â lleoliad neu brosiect a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol gyda thocyn Loteri Genedlaethol, Gêm Instant Win neu gerdyn crafu (ffisegol neu ddigidol) fanteisio ar gynnig 'diolch' arbennig.

Sut fath o beth yw'r cynnig arbennig?

O fynediad am ddim a theithiau y tu ôl i'r llenni i rodd i ddweud diolch neu baned o de, mae yna gynifer o ffyrdd o ddweud #DiolchiChi yn ystod Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol. 

Yn flaenorol, mae cynigion poblogaidd wedi cynnwys:

  • mynediad am ddim i Ganolfan Ddarganfod Jodrell Bank yn Swydd Gaer, lle gwelwyd cynnydd o 500 o ymwelwyr o gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • mynediad am ddim i gannoedd o leoliadau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
  • taith dywysedig am ddim y tu mewn i'r Kelpies eiconig yn The Helix, Falkirk
  • mynediad 2-am-1 yng Nghastell a Gerddi Hillsborough yn County Down, Gogledd Iwerddon
  • gweithdai syrcas am ddim yn The Circus House, Manceinion
  • teithiau am ddim o amgylch cloestrau Eglwys Gadeiriol Henffordd
  • taith dywysedig am ddim yn RSPB Ynys Lawd, Caergybi

Cymerwch olwg ar enghreifftiau o flynyddoedd blaenorol am fwy o ysbrydoliaeth.

Pam y dylech gymryd rhan?

Gallwch ddweud 'diolch' wrth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am yr ariannu y mae eich sefydliad wedi'i dderbyn a chydnabod eich grant. Eich cyfle chi ydyw i ddangos pa wahaniaeth mae'r cymorth hwnnw wedi'i wneud mewn ffordd glir ac uniongyrchol.

People walk across the iconic landscape of the Giant's Causeway coastal route
Visitors at the Giant's Causeway in County Antrim. Photo: National Trust.

Mae hefyd yn gyfle gwych i dynnu sylw at y gwaith rydych chi'n ei wneud. Bydd llawer o amlygrwydd cyhoeddus yn cael ei roi i'r wythnos, gan gynnwys ymgyrch gyffrous yn y cyfryngau, hysbysebion a gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yn olaf, mae’n gyfle gwych i groesawu cynulleidfaoedd newydd. Dywedodd tua 70% o'r ymwelwyr a gymerodd ran yn arolwg 2021 Y Loteri Genedlaethol nad oeddent erioed wedi ymweld â'r lleoliad o'r blaen, neu o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf. Dyna llawer o ymwelwyr newydd!

Yn 2024, dywedodd 97% o brosiectau a gwblhaodd arolwg cyfranogwyr y Loteri Genedlaethol y byddent yn cymryd rhan eto.

Cymerwch ran

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...