![Criw o bobl yn sefyll o flaen peiriant pwll glo.](/sites/default/files/styles/main_image_desktop/public/media/imgs/Roma%20community%20enjoying%20a%20day%20out%20with%20industrial%20heritage%20in%20the%20South%20Wales%20valleys%20Heritage%20Fund.jpg.webp?itok=y-6DzvUQ)
National Lottery Grants for Heritage – £10,000 to £250,000
Bydd y prosiect yn annog mwy o ymwybyddiaeth gyhoeddus o ffordd o fyw Roma a'i threftadaeth unigryw. Daw i ben gydag arddangosfa deithiol a fydd yn ymweld â Theatr Glan yr Afon yng Nghasnewydd, Oriel Arts Central yn y Barri ac Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ar gyrion Caerdydd.
Casglu hanes personol a threftadaeth gymunedol
Bydd dau aelod o staff yn cael eu cyflogi a'u hyfforddi i gofnodi hanes llafar a chyfanswm o 30 o straeon unigolion, 300 o ffotograffau a 30 o arteffactau Roma yn cael eu casglu.
Mae hon yn astudiaeth bwysig sy’n rhoi llais i’r gymuned Roma yng Nghymru.
Dr Aleksandar G. Marinov, ôl-ddoethuriaeth, cymrawd ymchwil yn yr Ysgol Hanes, Prifysgol St Andrews, yr Alban
Bydd y prosiect yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid lleol i ymgysylltu â'r gymuned Roma.
Dywedodd Dr Aleksandar G. Marinov, sy'n Roma o Fwlgaria: “Rwy’n falch iawn o glywed am ddyfarniad y grant hwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
"Yn yr hinsawdd bresennol o ansicrwydd ac argyfwng, rhaid inni fod yn ymwybodol bod cymunedau ar y cyrion mewn perygl o fynd yn fwy ymylol fyth a chael y blaen. Mae’r astudiaeth bwysig hon yn rhoi llais i’r gymuned Roma yng Nghymru.”