Ardaloedd, adeiladau a henebion

Ers 1994 rydym wedi dyfarnu £3.3bn i fwy na 10,300 o brosiectau ardal, adeiladau hanesyddol a henebion ledled y DU.
Gall y prosiectau hyn helpu i gynnal swyddi, cefnogi twf economaidd a diogelu treftadaeth sydd mewn perygl. Gallan nhw hefyd hybu balchder lleol, meithrin sgiliau crefftau traddodiadol a helpu cymunedau i fwynhau'r lleoedd y maen nhw’n gofalu amdanyn nhw a gwneud defnydd ohonyn nhw.
Beth rydym yn ei gefnogi?
Mae’r prosiectau yr ydym yn eu hariannu yn cynnwys:
- Cadwraeth ac atgyweirio adeiladau a mannau hanesyddol
- Dod o hyd i ddefnyddiau newydd addas ar gyfer adeiladau hanesyddol
- Prosiectau archaeoleg gymunedol
Mannau addoli
Mae addoldai ymhlith adeiladau hanesyddol hynaf a mwyaf clodwiw'r DU. Rydym am helpu cynulleidfaoedd i ddod yn wirioneddol wydn a'u hadeiladau'n wirioneddol gynaliadwy.
Mannau addoli yr ydym yn eu hariannu
Syniadau am brosiect
Gall ein harian helpu pobl i:
- atgyweirio a thrawsnewid adeilad hanesyddol sydd wrth galon eu cymuned
- helpu gwirfoddolwyr i ddysgu sgiliau cadwraeth adeiladau
- achub adeilad ar gofrestr adeiladau mewn perygl
- ymgymryd â phrosiect archaeoleg gymunedol
- adfywio canol tref hanesyddol neu stryd fawr
- edrych ar ôl a dysgu am gofeb ryfel leol
Am ragor o ysbrydoliaeth, gweler y straeon isod neu porwch drwy brosiectau rydym wedi'u hariannu.
Sut i gael arian

Newyddion
Sefydliadau treftadaeth i rannu atebion arloesol i heriau gweithlu

Newyddion
Cofrestrwch eich prosiect ar gyfer Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol 2025

Projects
Hyb celfyddydau a threftadaeth Trecelyn wedi'i ddiogelu ar gyfer y gymuned
Mae'r sefydliad glowyr hanesyddol hwn, gyda'i theatr Art Deco o'r 1920au, ystafell ddawnsio a mannau amlbwrpas bellach yn lletya amrywiaeth o weithgareddau sydd o fudd i bobl leol.

Newyddion
Sut y byddwn yn helpu i sicrhau dyfodol addoldai'r DU

Projects
Great Yarmouth Winter Gardens - Ail-ddychmygu Palas y Bobl
Mewn perygl difrifol o gael ei golli, bydd gerddi gaeaf hanesyddol diwethaf y DU sydd wedi goroesi yn derbyn grant o bron i £10 miliwn fel rhan o Grantiau Treftadaeth Gorwelion.

Newyddion
Cannoedd o gynigion treftadaeth arbennig ledled y DU y gwanwyn hwn

Newyddion
12 o drefi a dinasoedd i elwa o raglen i helpu adfywio adeiladau hanesyddol segur

Newyddion
Buddsoddiad £12.2m i helpu achub adeiladau hanesyddol y DU

Projects
Achub tafarn gymunedol 200-mlwydd-oed ar Ben Llŷn
Mae ein cyllid yn helpu Cymdeithas Budd Cymunedol Menter y Plu i gynllunio sut i arbed ac ailddatblygu Y Plu - tafarn restredig Gradd II.

Projects
Cadwraeth Murluniau Brenda Chamberlain
Mae ein hariannu wedi helpu i warchod murluniau a baentiwyd gan yr artist, y bardd a'r awdur o Gymru, Brenda Chamberlain a'i chartref ar Ynys Enlli oddi ar arfordir Pen Llŷn.

Straeon
Sut mae'r Rhwydwaith Ymddiriedolaethau Treftadaeth yn dod â'r sector ynghyd i ddysgu a datblygu

Newyddion