Dyfarnu £43miliwn i helpu cymunedau i rannu sgiliau a dysgu gyda'i gilydd

Dyfarnu £43miliwn i helpu cymunedau i rannu sgiliau a dysgu gyda'i gilydd

Three stonemasons talk to a member of the Heritage Fund team about a selection of tools and craft items from their workshop.
Mae Scottish Canals wedi derbyn £3.7m i greu canolfan sgiliau newydd ar lannau Camlas Forth a Clyde yn Falkirk. Credit: Kirsty Anderson.
O arfordir Norfolk i gamlesi'r Alban, bydd ein swp diweddaraf o grantiau'n rhoi cyfleoedd i bobl brofi treftadaeth a chysylltu â gorffennol eu hardal.

Nid yw treftadaeth yn ymwneud â phethau a lleoedd yn unig, mae'n ymwneud â phobl. Y bobl sy’n gofalu am, yn rhannu ac yn defnyddio treftadaeth. Mae llawer o'r 16 o brosiectau yr ydym wedi'u hariannu'n ddiweddar yn ein chwe chyfarfod pwyllgor ym mis Mawrth - sef cyfanswm buddsoddiad o £43.4m - yn ymwneud â rhoi hwb i sgiliau i ofalu am dreftadaeth a dod â chymunedau ynghyd i'w rhannu a'i defnyddio.

Bydd y gweithgareddau hyn hefyd yn helpu cryfhau cydnerthedd sefydliadau treftadaeth lleol ac ehangu cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad – egwyddorion allweddol ein Strategaeth Treftadaeth 2033.

Clywch gan ddetholiad o’r prosiectau llwyddiannus ar draws y DU am y gwahaniaeth y bydd ein hariannu'n ei wneud.

Lock 16: canolfan ragoriaeth ar gyfer camlesi a sgiliau traddodiadol

Mae Scottish Canals wedi derbyn £3.7m i greu canolfan sgiliau newydd ar lannau Camlas Forth a Clyde yn Falkirk.

An artist's impression of the Lock 16 skills centre, showing a large modern building with silver cladding.
Lock 16: canolfan ragoriaeth ar gyfer camlesi a sgiliau traddodiadol. Credit: Scottish Canals.

Dywedodd y goruchwyliwr Billy King, a fu’n gweithio ar Union Canal am dros 26 mlynedd fel arbenigwr gwaith maen: “Dros y blynyddoedd rwyf wedi gwneud gwaith brys ar bontydd, lociau a siambrau hanesyddol. Mae diffyg gwirioneddol yn y sgiliau traddodiadol hyn nawr; dros y blynyddoedd, rwyf wedi gweld y dirywiad o lygad y ffynnon. Rwy'n obeithiol y bydd Lock 16 yn helpu adfywio llawer o'r sgiliau hyn. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n ystyried hyfforddiant yn y sgiliau hyn i roi cynnig arni.” 

Mwy o wybodaeth am Lock 16.

Saving the Iron Duke

Bydd ein grant o £2.4m yn helpu Great Yarmouth Preservation Trust i atgyfodi un o dafarndai mwyaf storïol y dref, gan gynnwys y gymuned yn yr ymgyrch.

The facade of the Iron Duke as it stands today, with the curved arc deco windows boarded up and signs of decay.
The Iron Duke. Credit: Great Yarmouth Preservation Trust.

Dywedodd Darren Barker MBE o’r Ymddiriedolaeth: “Trwy gydol y gwaith adfer, bydd llu o ddigwyddiadau a gweithdai'n darparu cyfleoedd hyfforddi, gwirfoddoli ac ymgysylltu ar gyfer cannoedd o bobl. Bydd y rhain yn cynnwys crefftau traddodiadol, treftadaeth bwyd, ffotograffiaeth, tirfesur, ymchwil a chelf hanesyddol. Mae’r gwaith o adfer yr Iron Duke wedi cael cefnogaeth aruthrol gan y gymuned leol ac rydym mor ddiolchgar am yr holl gymorth.”

Mwy o wybodaeth am yr Iron Duke.

Adfer Neuadd Les Pendyrus (Tylorstown)

Bydd y neuadd lles glowyr olaf yn Rhondda Cynon Taf, a adeiladwyd ym 1933, yn parhau i wasanaethu ei chymuned diolch i'n grant o £4.7m

A group of local people stand outside the red front doors of the Tylorstown Welfare Hall, their arms raised in celebration.
Bydd y neuadd lles glowyr olaf yn Rhondda Cynon Taf yn parhau i wasanaethu ei chymuned diolch i'n grant o £4.7m. Credit: Steve Pope / FotoWales.

Dywedodd rheolwr y prosiect, Rebecca Elizabeth Sullivan: “Mae’r Neuadd Les wedi’i hymwreiddio’n ddwfn yn nhreftadaeth ein cymuned, gan gynrychioli gwytnwch, undod a gobaith. Ein nod yw gwneud gwaith adnewyddu hanfodol a fydd nid yn unig yn adfer ei harddwch pensaernïol ond hefyd yn ehangu rôl y neuadd fel hyb i'r gymuned, gan gynnig gwasanaethau, gweithgareddau ac adnoddau hanfodol i bobl o bob oed a chefndir. Rydym am i bawb deimlo bod croeso iddyn nhw.”

Mwy o wybodaeth am Neuadd Les Pendyrus.

Dod â phobl ynghyd ym Mharc Ashburton

Mae Parc Ashburton 100 oed yn Croydon wedi derbyn £1.6m i adfer cyfleusterau, creu Hyb Ieuenctid Oasis newydd a rhedeg prosiectau hanes lleol ac amgylcheddol gyda'r gymuned.

An autumnal view of trees on a sunny day in Ashburton Park.
Mharc Ashburton. Credit: London Borough of Croydon.

Dywedodd Andy Gill, Arweinydd Ieuenctid ac Arloesi Oasis: “Mae’r buddsoddiad hwn yn dangos sut y gall gweithio gyda phobl leol sicrhau newid parhaol, gan wella cyfleoedd bywyd ein pobl ifanc ar adeg pan fydd angen cefnogaeth fwyaf.”

Oes gennych chi syniad gwych am brosiect yn eich cymuned?

Archwiliwch y gwahaniaeth yr ydym am i'n hariannu ei wneud dros dreftadaeth a'r hyn y gallwn ei ariannu.
 

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...