Buddsoddiad £12.2m i helpu achub adeiladau hanesyddol y DU
Mae'r ariannu hwn yn ymestyn o Argyll a Chaerdydd i Belfast a Lowestoft a bydd yn dod â chwa o awyr iach i fannau hanesyddol. Bydd y safleoedd yn cael eu trawsnewid yn asedau pwysig sydd wrth wraidd eu cymunedau lleol.
Mae pum prosiect wedi derbyn cyfanswm o £10.4m mewn grantiau ac mae £1.8m pellach wedi'i ddyfarnu i saith sefydliad i ddatblygu eu cynlluniau adfywio treftadaeth.
Meddai Eilish McGuinness, Prif Weithredwr, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: “Mae achub treftadaeth wrth wraidd yr hyn a wnawn, ac edrychwn ymlaen at weld y prosiectau syfrdanol hyn yn gwella cyflwr a dealltwriaeth o'r dreftadaeth bwysig y maent yn gofalu amdani, gan leihau maint y 'dreftadaeth sydd mewn perygl', a chyflwyno prosiectau trawsnewidiol ar gyfer cymunedau ar draws y DU.”
Y pum prosiect sy’n derbyn grantiau treftadaeth yw:
Historic Ice House, Great Yarmouth (£1,968,061)
Wedi'i adeiladu rhwng 1851 a 1892, defnyddiwyd y safle ar un adeg i gadw bwyd môr ffres cyn ei gludo i farchnad bysgod Billingsgate yn Llundain. Dan arweiniad Out There Arts, bydd y safle’n cael ei adfywio fel Canolfan Rhagoriaeth Syrcas a Chelfyddydau Awyr Agored.
The Strand Arts Centre, Belfast (£768,069)
Dan arweiniad Cyngor Dinas Belfast a The Strand Arts Centre, bydd sinema hynaf Gogledd Iwerddon yn cael ei thrawsnewid gyda'n hariannu. Bydd ymwelwyr yn camu'n ôl mewn amser i gael profiad 'amgueddfa fyw' o sinema cyn y rhyfel.
Marchnad Fictoraidd, Caerdydd (£2,091,500)
Bydd y farchnad restredig Gradd II* yn Ardal Ddiwylliannol Castell Caerdydd yn cael ei hadfer gan Gyngor Caerdydd, gan adfywio ei strwythur a gostwng costau ynni. Agorodd y safle, sy'n sefyll ar safle drwgenwog Carchar a chrocbren Caerdydd, ym 1891.
Eglwys St. John's yn Chatham, Swydd Gaint (£2,318,287)
Mae'r adeilad 'mewn perygl' hwn ar fin dod yn Hyb Cymunedol Porth ffyniannus a chynaliadwy. Nod y prosiect, a fydd hefyd yn derbyn £1m o'r Gronfa Future High Streets trwy Gyngor Medway, yn adfywio treftadaeth yn Chatham am genedlaethau i ddod.
Lowestoft Town Hall, Suffolk (£3,257,512)
Yn wag ers 2015, bydd Cyngor Tref Lowestoft yn adfer yr adeilad rhestredig Gradd II. Bydd yn sefydlu cyrchfan gymunedol i ennyn diddordeb pobl leol, yn gwella bywydau trigolion, ac yn trawsnewid calon hanesyddol y dref.
Mae ein hariannu'n helpu sefydliadau i ddatblygu eu prosiectau
Mae saith sefydliad arall wedi derbyn arian datblygu i gwblhau cynlluniau creu hybiau cymunedol ar gyfer ymgysylltu, addysg, creadigrwydd a lles:
- St Conan’s Kirk, Argyll, Yr Alban (£93,792)
- Eglwys Sant Collen, Llangollen, Cymru (£94,886)
- Alice Billings House, Stratford, Newham, Llundain (£467,172)
- Rock Hall Revival, Bolton (£466,662)
- Woodoaks Farm, Rickmansworth, Swydd Hertford (£201,392)
- Ellesmere Yard, Swydd Amwythig (£409,993)
- Napper Cottage, Cranleigh, Surrey – Ysbyty Bwthyn cyntaf Lloegr (£58,700)
Mynnwch gael gwybod sut mae ein hariannu'n cefnogi treftadaeth a chymunedau
Ein gweledigaeth yw i werthfawrogi a gofalu am dreftadaeth ac i'w chynnal ar gyfer pawb, nawr ac yn y dyfodol. Darganfod sut mae ein Strategaeth Treftadaeth 2033 newydd yn ceisio rhoi hwb i economïau lleol a dathlu treftadaeth.