Sut y byddwn yn helpu i sicrhau dyfodol addoldai'r DU

Sut y byddwn yn helpu i sicrhau dyfodol addoldai'r DU

a market outside a historic brick church in summer
Eglwys St Mary's yn Totnes.
Rydym yn disgwyl buddsoddi £100miliwn mewn eglwysi, capeli, synagogau, gurdwaras a mwy dros y tair blynedd nesaf.

Yn ein Strategaeth Treftadaeth 2033 gwnaethom nodi addoldai fel treftadaeth mewn angen, y mae newidiadau yn y sector a bylchau yn y cymorth wedi effeithio arnynt. Rydym wedi ymrwymo i'w helpu i fynd i'r afael â'r heriau y maent yn eu hwynebu a sicrhau eu bod yn asedau cymunedol cydnerth am genedlaethau i ddod, trwy amrywiaeth o ddulliau. Gall unrhyw addoldy yn y DU wneud cais am arian Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. 

Ariannu wedi'i neilltuo i fynd i'r afael â materion cyffredin ar raddfa fawr

Bydd ein menter strategol Treftadaeth Mewn Angen: Addoldai a gyflwynwyd ym mis Gorffennaf yn buddsoddi £15 miliwn i gefnogi prosiectau mawr sy’n mynd i’r afael ag anghenion a heriau eang. Drwy hyn, rydym am wneud treftadaeth yn y sector hwn yn fwy cynaliadwy a diogel.

Rydym yn gwahodd sefydliadau ar draws y DU sy’n gwybod addoldai orau i ddyfeisio a chyflwyno prosiectau strategol ar lefel genedlaethol a rhanbarthol. Rydym am gefnogi prosiectau sy'n canolbwyntio ar gynaladwyedd a chyflymu syniadau ac ymyriadau newydd.

Ewch i'n tudalen mentrau strategol i gael gwybod sut i wneud cais am ariannu Treftadaeth mewn Angen: Addoldai.

Mae ein strategaeth newydd yn ein hymrwymo i weithio gyda phawb sy’n pryderu am ddyfodol addoldai er mwyn sicrhau y gofalir amdanynt  ac y cânt eu gwerthfawrogi a'u cynnal ar gyfer pawb.

Simon Thurley, Cadeirydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Hwb i grantiau cadwraeth

Ein dyfarniad cyntaf drwy'r fenter strategol hon yw £4.68m i ehangu Cynllun Grantiau Cadwraeth Eglwys Loegr. Bydd ein cefnogaeth yn helpu i ariannu atgyweiriadau i adeiladau, gwarchod rhannau mewnol eglwysi a hyfforddi cenhedlaeth newydd o arbenigwyr crefftau treftadaeth dros y pum mlynedd nesaf.

Dywedodd Emily Gee yn Eglwys Loegr: “Rydym yn hynod ddiolchgar i’r Gronfa Treftadaeth am y dyfarniad hynod hael hwn y mae mawr ei hangen ar gyfer adeiladau eglwysig.

"Bydd yn ein galluogi i ehangu ein cefnogaeth i blwyfi yn eu gwaith hanfodol i warchod ein treftadaeth ddiwylliannol a drysorir, gan gynnwys cadwraeth gwydr lliw, paentiadau wal, clociau, clychau, paentiadau a henebion."

Interior of Leicester synagogue: a large room with a cabinet containing the torah scrolls, lecterns and seating in carved wooden pews
Synagog Caerlŷr. Llun: Hollis Photography UK.

Gwneud cais am Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Gall unrhyw addoldy yn y DU, beth bynnag ei grefydd neu enwad, wneud cais am grantiau rhwng £10,000 a £10m.

Ein nod yw helpu’r rhai sy’n gofalu am addoldai i wella eu cyflwr a chyfarparu’r sector â'r arbenigedd, y bobl a’r sgiliau a rennir sydd eu hangen i ofalu am y dreftadaeth hon yn y dyfodol. Rydym hefyd eisiau i addoldai gyflawni eu potensial fel hybiau ar gyfer gweithgarwch cymunedol a dathlu treftadaeth. Rhagwelwn y byddwn yn dyfarnu grantiau gwerth tua £85m i gefnogi'r uchelgais hwn dros y tair blynedd nesaf.

Cymerwch eich camau cyntaf i wneud cais:

at night a large church is lit up using coloured spotlights. in the foreground are gravestones
Eglwys St Hilda's yn Hartlepool.

Helpu gwerthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a'i chynnal ar gyfer pawb

Bydd ein buddsoddiad cyfun o £100m yn adeiladu ar etifeddiaeth o gefnogaeth i addoldai sydd wedi ein gweld yn buddsoddi mwy na £1biliwn ynddynt ers 1994.

Dywedodd Simon Thurley, Cadeirydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: “Addoldai yw rhai o adeiladau mwyaf hanesyddol y DU, yn aml wrth galon cymunedau. Mae llawer o heriau, rhai newydd a rhai sydd wedi bodoli ers tro, yn wynebu’r lleoedd hyn.

Mae ein strategaeth newydd yn ein hymrwymo i weithio gyda phawb sy’n pryderu am ddyfodol addoldai er mwyn sicrhau y gofalir amdanynt  ac y cânt eu gwerthfawrogi a'u cynnal ar gyfer pawb. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda sefydliadau yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon dros y tair blynedd nesaf i’w cefnogi i fynd i’r afael â’r problemau y maent yn eu hwynebu.”

Cael y newyddion diweddaraf ar addoldai

I glywed mwy gan y Gronfa Treftadaeth:

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...