Cwestiynau ymgeisio: Cronfa Rhwydweithiau Natur £250,000 i £1miliwn

Cwestiynau ymgeisio: Cronfa Rhwydweithiau Natur £250,000 i £1miliwn

Cwestiynau o'n ffurflen gais Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol £250,000 i £10m.

Diweddarwyd y dudalen ddiwethaf: 8 Gorffennaf 2024.

Cyn y gallwch wneud cais am grant dros £250,000, rhaid i chi gyflwyno Mynegiad o Ddiddordeb i ddweud wrthym am eich syniad. Os ydych yn llwyddiannus, byddwn yn eich gwahodd i wneud cais. Ar ôl i chi gael eich gwahodd i wneud cais, bydd angen i chi gyflwyno cais erbyn hanner dydd ar 8 Tachwedd 2024.

Rhaid i chi ddefnyddio'r canllaw hwn i'ch cynorthwyo wrth gwblhau ffurflen gais ar-lein am grant Rhwydweithiau Natur (Rownd 4) rhwng £250,000 ac £1m.

Pwysig: Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn defnyddio’r un ffurflenni ar draws amrywiaeth o raglenni yr ydym yn eu darparu. Wrth lenwi eich ffurflen gais, mae'n rhaid i chi ddilyn yr arweiniad isod am fod angen ateb rhai cwestiynau yn wahanol ar gyfer y rhaglen hon. Ni ddylech ddefnyddio'r eiconau cymorth sydd wedi'u hymwreiddio yn y ffurflen ar-lein gan nad ydynt yn gysylltiedig â'r ariannu hwn.

Ynglŷn â'r prosiect

Teitl y prosiect.

Dywedwch wrthym beth yw teitl y prosiect. Rhaid i chi gynnwys y rhagddodiad #NNF4 yn nheitl eich prosiect.

Er enghraifft #NNF4 Gwelliannau i warchodfa natur gweision y neidr.

Ai hwn yw'r cais cyntaf aton ni gan eich sefydliad?

[Dewiswch ydy neu nac ydy]

Os nac ydy:

Dywedwch wrthym beth yw rhif cyfeirnod eich cais diweddaraf. [Maes testun - 255 o nodau]

Dywedwch wrthym beth yw teitl prosiect eich cais diweddaraf. [Maes testun - 255 o nodau]

Disgrifiwch yr hyn yr hoffai eich sefydliad ei gyflawni drwy eich prosiect.

Byddwn yn defnyddio eich ateb i hysbysu pobl, gan gynnwys y sawl sy'n gwneud ein penderfyniadau, am eich prosiect.

Dywedwch wrthym beth rydych yn gobeithio ei gyflawni a'r hyn yr ydych yn gobeithio fydd etifeddiaeth eich prosiect.

Rydym yn cyhoeddi manylion ceisiadau a dyfarniadau grant ar ein gwefan ac mewn cronfeydd data cyhoeddus. Mae hyn yn gweddu i'n hymrwymiad i dryloywder ac egwyddorion data agored. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth rydych wedi'i darparu wrth ateb y cwestiwn hwn i ddisgrifio'ch prosiect.

[Maes testun – 150 gair]

Dywedwch wrthym beth fyddwch yn ei wneud yn ystod eich prosiect.

Crynhowch yr hyn y mae eich prosiect yn bwriadu ei wneud a sut y bydd yn gwella cyflwr a chydnerthedd rhwydwaith Cymru o safleoedd tir neu forol gwarchodedig.

  • Ar ba safle(oedd) fyddwch chi'n gweithio?
  • Pa waith fyddwch chi'n ymgymryd ag ef ar gyfer cynefinoedd a/neu rywogaethau?
  • Pwy fydd yn cymryd rhan a sut (staff, gwirfoddolwyr, y cyhoedd, cynulleidfaoedd targed)?

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Ble fydd eich prosiect yn digwydd?

  • Stryd y prosiect [Maes testun - 255 o nodau]
  • Dinas y prosiect [Maes testun - 255 o nodau]
  • Sir y prosiect [Maes testun - 255 o nodau]
  • Cod post y prosiect [Maes testun - 255 o nodau]

Os bydd eich prosiect yn digwydd ar draws lleoliadau gwahanol, defnyddiwch y cod post lle y bydd y rhan fwyaf o'r prosiect yn digwydd.

Rhowch gyfeirnod grid chwe digid yr Arolwg Ordnans ar gyfer pwynt canol ardal eich prosiect (er enghraifft: SK510072). Os ydych yn gweithio ar nifer o safleoedd, gwahanwch bob cyfeirnod grid gyda hanner colon (er enghraifft: SK510072; SX163777; TQ317842).   

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Esboniwch ba anghenion a chyfleoedd y bydd eich prosiect yn mynd i'r afael â nhw.

Beth yw anghenion y safle(oedd) rydych wedi'u nodi a sut fydd eich prosiect yn mynd i'r afael â'r anghenion hyn?

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Pam fod angen i'ch prosiect chi ddigwydd nawr?

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Pwy arall ydych chi wedi cysylltu â nhw ynghylch ariannu eich prosiect?

Nid oes gofyniad gorfodol am gyfraniadau arian parod at brosiectau Rhwydweithiau Natur (rownd pedwar). Fodd bynnag, gall unrhyw gyfraniadau arian parod y byddwch yn eu darparu ychwanegu at effaith a gwerth am arian eich prosiect, a fydd yn cael eu hystyried yn y cam asesu.  Dywedwch wrthym am unrhyw ariannu:

  • rydych wedi'i sicrhau i helpu tuag at gost eich prosiect
  • rydych yn bwriadu gwneud cais amdano i gefnogi'r prosiect hwn
  • y byddwch yn ei godi drwy godi arian neu gyfraniadau torfol

Dywedwch wrthym a ydych wedi codi unrhyw gyfraniadau nad ydynt yn arian parod i'ch helpu i gyflwyno eich prosiect.

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Dywedwch wrthym ba gyngor rydych wedi'i dderbyn wrth gynllunio eich prosiect a chan bwy.

Os ydych wedi siarad ag unrhyw un yng Nghronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol am eich prosiect, dywedwch wrthym am y cyngor a gawsoch a sut rydych wedi defnyddio'r cyngor hwnnw i ddatblygu eich prosiect.

Dywedwch wrthym a ydych wedi derbyn unrhyw gyngor arbenigol am eich prosiect gan unrhyw un arall. Gallai hyn fod yn arbenigwyr ar y dreftadaeth y mae eich prosiect yn canolbwyntio arni neu sefydliadau eraill a fydd yn eich cefnogi i gyflwyno eich prosiect.

Gallai hyn gynnwys:

  • unrhyw ymgynghoriad rydych wedi'i wneud gyda'ch cymuned leol a'r rhai a fydd yn ymwneud â'ch prosiect
  • unrhyw gyngor ar gynnig y prosiect, megis gan bensaer neu Cyfoeth Naturiol Cymru
  • unrhyw gyngor cyn-ymgeisio ar faterion cynllunio neu ganiatadau, er enghraifft gan eich awdurdod lleol neu Cyfoeth Naturiol Cymru 
  • cyngor ar sut i ymdrin â lles y cyfranogwyr yn eich prosiect, er enghraifft gan elusen neu grŵp lleol a all ddarparu cymorth sy’n berthnasol i’w profiad o lygad y ffynnon

[Maes testun – 5,000 o nodau]

A fydd eich prosiect yn cael ei gyflwyno gan bartneriaeth?

[Dewiswch bydd neu na fydd]

Os bydd: Pwy yw eich partneriaid?

Rhowch enw cyswllt o bob sefydliad.

Dywedwch wrthym pwy yw eich partneriaid, natur eich partneriaethau a sut y byddwch yn gweithio ar y cyd.

Mae angen i ni weld eich cytundeb partneriaeth os ydych yn gweithio gydag unrhyw sefydliadau eraill i gyflawni eich prosiect. Dylai'r ddogfen hon amlinellu rolau a chyfrifoldebau'r holl bartneriaid a dylai pob parti ei llofnodi. Dylai'r cytundeb hwn adlewyrchu anghenion eich prosiect ac mae'n bosibl y bydd angen i chi geisio cyngor annibynnol.

Nid oes angen i chi ddarparu cytundeb partneriaeth oni bai bod unrhyw sefydliadau eraill yn cyflwyno rhan sylweddol o'ch prosiect.

[Maes testun – 5,000 o nodau]

A fydd unrhyw ran o'ch prosiect yn digwydd yng Nghymru?

Rhaid i bob prosiect Rhwydweithiau Natur ddigwydd yng Nghymru. Ticiwch Bydd.

  • Os bydd: Dywedwch wrthym sut y caiff y Gymraeg ei defnyddio yn eich prosiect.

Rhaid i chi gynnwys y Gymraeg ym mhob agwedd o'ch gwaith.

Dywedwch wrthym sut y byddwch yn defnyddio'r Gymraeg yn eich prosiect, a chofiwch sicrhau bod yr wybodaeth hon wedi'i chynnwys yng nghyllideb a chynllun eich prosiect. Dylech gynnwys cyllideb ar gyfer cyfieithu o dan y categori costau 'Arall' yn yr adran costau prosiect.

[Maes testun – 500 gair]

Ynglŷn â'r dreftadaeth

Dywedwch wrthym am y dreftadaeth yn eich prosiect a pham mae'n bwysig i'ch sefydliad a'ch cymuned.

Rhowch wybodaeth ffeithiol am y dreftadaeth.  Dywedwch wrthym:

  • a oes unrhyw gydnabyddiaeth swyddogol neu ddynodiadau ffurfiol o’r safle(oedd), er enghraifft, efallai eu bod yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
  • pa gynefinoedd sydd wedi'u cynnwys, eu cyflwr presennol a'u defnydd
  • sut mae'r dreftadaeth yn berthnasol i rwydwaith Cymru o safleoedd tir a morol gwarchodedig

Peidiwch â defnyddio'r adran hon i ddweud wrthym am eich prosiect, neu beth fydd yn digwydd yn ystod eich prosiect. Byddwn yn gofyn i chi am hyn yn nes ymlaen yn y cais.

[Maes testun – 5,000 o nodau]

A ystyrir bod y dreftadaeth mewn perygl?

[Dewiswch ydy neu nac ydy]

Os ydy: Esboniwch pam a sut rydych chi'n ystyried bod y dreftadaeth mewn perygl.

Esboniwch pam fod y dreftadaeth o dan fygythiad, a pha gamau sydd wedi'u cymryd (os o gwbl) i isafu'r risg.

Er enghraifft, efallai ei fod mewn perygl o gael ei cholli trwy ddifrod ffisegol neu esgeulustod, neu ddiffygion ariannol. Gall mynediad y cyhoedd i'r dreftadaeth hefyd fod mewn perygl o gael ei golli.

Dywedwch wrthym a yw'r dirwedd, daeareg, cynefin neu rywogaeth mewn perygl ac ym mha ffordd (er enghraifft, wedi'i nodi fel blaenoriaeth mewn Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth).

Dywedwch wrthym:

  • beth yw cyflwr presennol y dreftadaeth
  • sut mae'n cael ei reoli ar hyn o bryd a chan bwy
  • sut mae pobl yn ymgysylltu â'r dreftadaeth ar hyn o bryd

[Maes testun – 5,000 o nodau]

A fyddwch yn ymgymryd ag unrhyw waith cyfalaf fel rhan o'ch prosiect?

[Dewiswch byddwn neu na fyddwn]

Os byddwn: Rhowch fanylion.

Ceir manylion am yr hyn a ystyriwn yn waith cyfalaf yn yr arweiniad ymgeisio.

  • Dywedwch wrthym a fydd unrhyw waith cyfalaf yn rhan o'ch prosiect, hyd yn oed os yw'n rhan fach o'ch prosiect ehangach. Rhowch ddadansoddiad o'r gwaith yr ydych yn bwriadu ei wneud.

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Os ydych yn ymgymryd ag unrhyw waith cyfalaf (gan gynnwys atgyweirio neu adnewyddu) ar dir, adeiladau neu eitemau treftadaeth, dywedwch wrthym bwy sy'n berchen arno.

  • eich sefydliad
  • partner yn y prosiect
  • nid y naill na’r llall
  • Dd/B

Rhowch fanylion perchennog eich gwaith cyfalaf.

Os bydd gwaith cyfalaf yn rhan o'ch prosiect, bydd angen i chi ddweud wrthym pwy sy'n berchen ar y dreftadaeth. Os oes gennych nhw, mae angen i ni weld unrhyw ddogfennau perchnogaeth. Gallwch uwchlwytho'r rhain yn nes ymlaen yn y cais.

Os mai eich sefydliad chi sy'n berchen ar y dreftadaeth, dywedwch wrthym:

  • a oes gan eich sefydliad rydd-ddaliad ar yr adeilad neu dir, neu a yw'n berchen yn gyfan gwbl ar yr eitemau treftadaeth
  • a oes gan eich sefydliad les ar yr adeilad neu dir a faint o flynyddoedd sy'n weddill ar y les
  • a oes gan eich sefydliad, neu a yw'n bwriadu cymryd, morgais neu fenthyciadau eraill sydd wedi'u sicrhau ar yr adeilad neu dir, neu eitem treftadaeth. Os oes, rhowch fanylion y benthyciwr a maint y morgais neu fenthyciad i ni. Os oes gennych un, uwchlwythwch ddogfen o berchnogaeth.

Os yw sefydliad partner yn berchen ar y dreftadaeth, dywedwch wrthym:

  • beth yw enw'r sefydliad partner
  • a oes gan y partner yn y prosiect rydd-ddaliad ar yr adeilad neu dir, neu a yw'n berchen yn gyfan gwbl ar yr eitemau treftadaeth
  • a oes gan y partner yn y prosiect les ar yr adeilad neu dir a faint o flynyddoedd sy'n weddill ar y les
  • a oes gan y partner yn y prosiect, neu a yw'n bwriadu cymryd, morgais neu fenthyciadau eraill sydd wedi'u sicrhau ar yr adeilad neu dir, neu eitem treftadaeth
  • os oes, rhowch fanylion y benthyciwr a maint y morgais neu fenthyciad i ni

Os nad ydych yn bodloni ein gofynion o ran perchnogaeth ar hyn o bryd, rhowch ddyddiad i ni pan fyddwch yn disgwyl y bydd modd gwneud hyn.

[Maes testun – 5,000 o nodau]

A oes unrhyw amodau, cyfyngiadau neu gyfamodau cyfreithiol sy'n gysylltiedig â'r ased treftadaeth a allai effeithio ar eich prosiect?

[Blwch ticio]

Rhowch fanylion.

Dywedwch wrthym a yw’r gofrestr teitl neu ddogfennau perchnogaeth eraill yn cynnwys unrhyw waharddiadau neu gyfyngiad ar ei defnydd neu berchnogaeth, neu a oes angen unrhyw ganiatadau ar gyfer unrhyw drafodion. Os oes, bydd angen i chi roi'r manylion llawn a thystiolaeth bod y rhain wedi'u bodloni.

Gallai hyn gynnwys:

  • Cyfamod Cyfyngol sy’n cyfyngu ar y math o ddefnydd ar gyfer y tir neu’r eiddo
  • cyfyngiad sy’n rhoi hawl i barti arall gael ei hysbysu am unrhyw drafodion neu nodi amodau y byddai angen eu datrys cyn gwerthu’r eiddo

[Maes testun – 5,000 o nodau]

A yw eich prosiect yn ymwneud â chaffael adeilad, tir neu eitemau treftadaeth?

Nid yw caffael tir yn gost gymwys ar gyfer y Gronfa Rhwydweithiau Natur. Ticiwch Nac ydy

Rheoli eich prosiect

A yw eich sefydliad wedi ymgymryd â phrosiect ar y raddfa hon yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf?

Rhowch fanylion.

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Dywedwch wrthym pam mai hwn yw'r prosiect mwyaf priodol i'ch sefydliad ymgymryd ag ef ar hyn o bryd.

  • Pa opsiynau eraill sydd wedi cael eu hystyried?
  • Beth fydd yr effaith ar eich sefydliad os na fydd y prosiect yn mynd yn ei flaen?
  • Os ydych yn ymwneud â mwy nag un cais i’r Gronfa Rhwydweithiau Natur (rownd 4) fel ymgeisydd arweiniol neu bartner, rhowch rifau cyfeirnod y ceisiadau eraill a dywedwch wrthym pa brosiect sydd fwyaf critigol i’ch sefydliad ar hyn o bryd. Sut fyddech chi'n cyflwyno mwy nag un prosiect pe bai'n llwyddiannus?
  • Os ydych yn cyflwyno prosiectau o dan rowndiau 2 neu 3 Rhwydweithiau Natur ar hyn o bryd, esboniwch y berthynas (os o gwbl) rhwng prosiectau. Sut fyddech chi'n cyflwyno mwy nag un prosiect pe bai'n llwyddiannus?

[Maes testun – 5,000 o nodau]

A oes angen i'ch sefydliad ymgymryd ag unrhyw weithgarwch adeiladu gallu er mwyn cyflwyno eich prosiect yn well?

Atebwch Dd/B ar gyfer y cwestiwn hwn

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Dywedwch wrthym am unrhyw swyddi neu brentisiaethau y byddwch yn eu creu i gyflwyno eich prosiect.

Dywedwch wrthym am unrhyw swyddi a/neu brentisiaethau a fydd yn cael eu creu ac yn ymwneud yn uniongyrchol â chyflwyno eich prosiect. Dywedwch wrthym beth fydd eu prif rolau ac a ydynt yn swyddi amser llawn neu ran-amser.

Os ydych yn symud aelod staff presennol i swydd sydd wedi'i chreu gan y prosiect hwn, neu'n ymestyn oriau aelod staff presennol, dywedwch wrthym beth yw ei gymwysterau ar gyfer y rôl a grëir gan y prosiect. Dywedwch wrthym sut y byddwch yn rheoli'r gwaith maen nhw'n ei wneud ar hyn o bryd, neu a yw hyn yn dod i ben.

Bydd angen i chi ddarparu disgrifiad swydd ar gyfer pob rôl a grëir ar gyfer eich prosiect fel dogfen ategol i'ch cais.

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Pwy yw'r prif bobl sy'n gyfrifol am y gwaith yn ystod cam cyflwyno eich prosiect?

Rhowch wybodaeth fanwl am y tîm a fydd yn gweithio ar gam cyflwyno eich prosiect, gan gynnwys y person a fydd â chyfrifoldeb cyffredinol.

Dywedwch wrthym a fydd angen cymorth ychwanegol arnoch gan ymgynghorwyr neu staff newydd.

Esboniwch pwy sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau a chymeradwyo newidiadau i'ch prosiect. Disgrifiwch y strwythur adrodd a pha mor aml y bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal.

Disgrifiwch sut y byddwch yn dewis y gwasanaethau a'r nwyddau sydd eu hangen yn ystod eich cam cyflwyno.

Bydd angen hefyd i chi anfon y canlynol atom:

  • strwythur rheoli'r prosiect
  • briffiau ar gyfer unrhyw ymgynghorwyr

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Pa waith fyddwch chi'n ei wneud yn ystod cam cyflwyno eich prosiect?

Rhowch amlinelliad lefel uchel cryno o'r gwaith sydd i'w gyflawni ym mhob blwyddyn o gyflwyno'r prosiect. Dylai hyn gael ei ategu gan fanylion pellach yn y cynllun prosiect.

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Sut ydych chi'n bwriadu trefnu'r llif arian parod ar gyfer cam cyflwyno eich prosiect?

Gwneir taliadau grant mewn ôl-daliadau. Felly, mae angen i chi sicrhau y gallwch ddarparu llif arian parod yn llwyddiannus ar gyfer gwariant eich prosiect er mwyn osgoi trafferthion ariannol.

Bydd angen i chi ddarparu llif arian parod gyda'ch cais.

Dywedwch wrthym am unrhyw gronfeydd ariannol, incwm gan eich sefydliad neu ffynonellau ariannu eraill y byddwch yn eu cyrchu ar gyfer y llif arian parod wrth gyflwyno eich prosiect.

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Dyddiad dechrau cyflwyno.

Ni ddylai eich dyddiad dechrau fod cyn 1 Ionawr 2025.

[Dewis dyddiad]

Dyddiad gorffen cyflwyno.

Rhaid i chi gwblhau eich prosiect erbyn 31 Mawrth 2028, gan gynnwys yr holl adroddiadau a gwerthuso.

[Dewis dyddiad]

A oes unrhyw derfynau amser penodol neu gerrig milltir allweddol a fydd yn cyfyngu ar amserlen eich prosiect?

Dywedwch wrthym am unrhyw ddyddiadau na ellir eu newid a fydd yn effeithio ar eich prosiect ac sydd y tu hwnt i'ch rheolaeth.

Er enghraifft:

  • unrhyw ganiatadau neu gydsyniadau statudol sydd eu hangen i ymgymryd â'ch prosiect a phryd yr ydych yn disgwyl derbyn y rhain
  • cyfyngiadau tymhorol ar unrhyw waith ar gynefinoedd
  • dyddiadau pan ddaw cynigion cyllid partneriaeth i ben neu ddyddiadau olaf ar gyfer gwario cronfeydd wedi'u sicrhau
  • digwyddiadau allanol sy'n allweddol i lwyddiant eich prosiect

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Ein hegwyddorion buddsoddi

Bydd ein pedair egwyddor fuddsoddi'n cyfeirio ein holl benderfyniadau gwneud grantiau o dan ein strategaeth 10 mlynedd, Treftadaeth 2033

Ein hegwyddorion buddsoddi yw:

  • achub treftadaeth
  • diogelu'r amgylchedd
  • cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad
  • cynaladwyedd sefydliadol

Rydym wedi esbonio isod sut mae meini prawf y Gronfa Rhwydweithiau Natur yn gweddu i'r egwyddorion buddsoddi. Gallwch ganolbwyntio'n fwy ar rai egwyddorion buddsoddi nag eraill.

Esboniwch sut y bydd eich prosiect yn achub treftadaeth.

Esboniwch sut y bydd eich prosiect yn gwella cyflwr a chysylltedd y rhwydwaith safleoedd gwarchodedig. Er enghraifft, disgrifiwch pa gamau penodol y byddwch yn eu cymryd i wella rheolaeth ar y cynefinoedd a'r rhywogaethau.

Os nad yw eich prosiect yn digwydd yn uniongyrchol ar safle gwarchodedig, esboniwch sut y bydd eich prosiect yn dod â gwerth i'r rhwydwaith yn y tymor hir. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi gyfeirio at y Map Rhwydweithiau Natur am dystiolaeth o sut y bydd lleoliad gweithgareddau y tu hwnt i safleoedd gwarchodedig yn datblygu cysylltedd. Gellir dod o hyd i'r dolenni i hwn o dan Cymorth ac adnoddau pellach, yn yr arweiniad ymgeisio.

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Esboniwch sut y bydd eich prosiect yn diogelu'r amgylchedd.

Esboniwch sut y bydd y camau y byddwch yn eu cymryd yn lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd a/neu'n gwella'r gallu i addasu i'r argyfwng hinsawdd. 

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Esboniwch sut y bydd eich prosiect yn cynyddu cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad.

Mae'r gronfa hon yn cefnogi cyfranogiad gweithredol cymunedau mewn safleoedd gwarchodedig ac o'u cwmpas.

Dylai eich ateb esbonio sut y bydd proffil eich staff, cynulleidfa neu wirfoddolwyr wedi newid drwy gydol y prosiect. Gall hyn gynnwys:

  • gwelliannau i hygyrchedd safle
  • gweithio gyda phartneriaid neu sefydliadau eraill i gyrraedd cynulleidfaoedd sydd heb eu gwasanaethau'n ddigonol
  • cefnogi unigolion newydd i gyrchu'r sector trwy swyddi, hyfforddiant a/neu brentisiaethau
  • [Maes testun – 5,000 o nodau]

Esboniwch sut y bydd eich prosiect yn gwella'ch cynaladwyedd sefydliadol.

Dylai eich ateb esbonio sut y bydd eich sefydliad yn datblygu ac yn cynnal sgiliau a gallu i sicrhau dyfodol hirdymor i safleoedd gwarchodedig yng Nghymru.

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Ar ôl i'r prosiect ddod i ben

Sut fyddwch chi'n cynnal buddion eich prosiect ac yn talu unrhyw gostau cysylltiedig?

Dywedwch wrthym sut y byddwch yn rheoli buddion eich prosiect ar ôl i'r ariannu ddod i ben.

Er enghraifft:

  • sut y byddwch yn rheoli’r dreftadaeth yn y dyfodol, er enghraifft a fyddwch yn parhau i gyflogi staff i helpu cynnal a chadw safle yr ydych wedi’i adfer
  • sut y byddwch yn ymdrin ag unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â chynnal a chadw'r tir pan ddaw'r prosiect i ben

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Sut fyddwch yn gwerthuso llwyddiant eich prosiect ac yn rhannu'r dysgu?

Rhaid i chi werthuso eich prosiect a darparu adroddiad gwerthuso ysgrifenedig ar ôl i chi orffen eich prosiect.

Bydd angen i chi greu cynllun gwerthuso ar ddechrau eich prosiect. Braslun yw hwn o sut y byddwch yn cywain data i fesur, dadansoddi a deall yr hyn rydych chi'n ei wneud ac yn y pen draw i ddarparu tystiolaeth o'r hyn y mae eich prosiect wedi'u cyflawni.

Dywedwch wrthym pwy fydd yn gwneud eich gwerthusiad. Gallai hyn fod yn staff yn eich sefydliad neu'n unigolyn neu sefydliad y bydd angen i chi ei gyflogi. Dylech ddarparu brîff ar gyfer y gwaith hwn fel dogfen ategol.

Byddem yn disgwyl gweld costau ar gyfer eich gwerthusiad wedi'u cynnwys yn eich costau prosiect.

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Costau ac incwm y prosiect

Dywedwch wrthym am gostau ac incwm eich prosiect.

Dylech gynnwys yr holl gostau ac incwm sy'n gysylltiedig â'ch prosiect.  Rhaid i chi ddweud wrthym pa gostau sy'n gyfalaf a pha rai sy'n refeniw. Cyfeiriwch at yr arweiniad ymgeisio am fanylion yr hyn yr ystyriwn i fod yn gostau cyfalaf a refeniw.

Defnyddiwch y templed isod i amlinellu eich costau fel refeniw neu gyfalaf, yn ogystal â manylu ar y costau hyn yma.

Templed costau prosiect

Mae yna wahanol benawdau ar gyfer pob math o gost y gallwch ddewis ohonynt, ac ar gyfer pob math o incwm y gallech ei dderbyn i gefnogi eich prosiect.

Dewiswch y math o incwm sy'n gweddu orau i bob ffynhonnell incwm y byddwch yn ei derbyn.

Costau'r cam cyflwyno:

Cyfeiriwch at yr arweiniad ymgeisio am enghreifftiau o gostau cymwys.

Costau cyfalaf:

Cost prynu eitemau treftadaeth
  • Peidiwch â defnyddio'r pennawd cost hwn, nid yw caffael tir yn gymwys o dan y Gronfa Rhwydweithiau Natur.
Gwaith cychwynnol
  • Mae hwn yn cynnwys unrhyw waith paratoi neu archeoleg cyn-adeiladu.
Gwaith atgyweirio a chadwraeth
  • Mae hyn yn cynnwys costau gwaith atgyweirio, adfer neu warchod eitem neu safle treftadaeth.
Gwaith adeiladu o'r newydd
  • Mae hyn ond yn gysylltiedig â gwaith adeiladu o'r newydd (er enghraifft, estyniad i adeilad neu waith i osod arddangosfa). Os ydych yn sefydliad masnachol allwch chi ddim gynnwys costau yma.
Gwaith cyfalaf arall
  • Dylech gynnwys unrhyw gostau eraill ar gyfer gwaith cyfalaf yma.
Allbynnau digidol
  • Costau ar gyfer creu unrhyw waith digidol a bodloni ein gofynion digidol.
Offer a deunyddiau (cyfalaf)
  • Gallai hyn gynnwys prynu peiriannau ac offer i ymgymryd â gwaith cadwraeth.
Costau eraill (cyfalaf)
  • Defnyddiwch 'arall' am unrhyw gostau nad ydynt yn ffitio o fewn y penawdau cost penodol. Rhowch ddisgrifiad clir o'r costau hyn.
Ffioedd proffesiynol (cyfalaf)
  • Mae hyn yn cynnwys unrhyw berson a benodir am gyfnod penodol i helpu gyda chynllunio a chyflwyno gwaith cyfalaf yn eich prosiect. Gallai hyn gynnwys rheolwr prosiect, ecolegwyr neu syrfëwr meintiau.

Costau gweithgareddau:

Staff newydd
  • Dylech gynnwys costau ar gyfer staff a fydd yn gweithio ar eich prosiect. Cofiwch sicrhau eich bod yn cynnwys unrhyw argostau perthnasol hefyd.
  • Gallai hyn gynnwys costau contractau cyfnod penodol newydd, secondiadau, prentisiaethau a chost staff llawrydd i helpu cyflwyno eich prosiect. Peidiwch â chynnwys costau talu hyfforddeion yma.
  • Mewn rhai amgylchiadau gall fod yn briodol cynnwys costau ar gyfer absenoldeb mamolaeth a/neu daliadau diswyddo. Rydym yn disgwyl i'ch sefydliad lynu wrth arfer adnoddau dynol da a dilyn yr holl gyfreithiau perthnasol, gan gynnwys talu o leiaf y Cyflog Byw Cenedlaethol i holl aelodau staff y prosiect.
Hyfforddiant ar gyfer staff
  • Mae hyn yn cynnwys cost yr holl hyfforddwyr ac adnoddau sydd eu hangen i gyflwyno gweithgareddau i helpu staff i feithrin sgiliau newydd neu wella'u sgiliau.
Lleoliadau hyfforddi â thâl
  • Mae hyn yn cynnwys cost yr holl leoliadau gwaith ac adnoddau sydd eu hangen i gyflwyno gweithgareddau i helpu staff i feithrin sgiliau newydd neu wella'u sgiliau.
Hyfforddiant ar gyfer gwirfoddolwyr
  • Mae hyn yn cynnwys cost yr holl hyfforddwyr ac adnoddau sydd eu hangen i gyflwyno gweithgareddau i helpu gwirfoddolwyr i feithrin sgiliau newydd neu wella'u sgiliau.
Teithio a threuliau ar gyfer staff
  • Gallai hyn gynnwys costau teithio i safle neu leoliad. Dylai costau teithio mewn car fod yn seiliedig ar 45c y filltir.
Teithio a threuliau ar gyfer gwirfoddolwyr
  • Gall hyn gynnwys bwyd, teithio ac unrhyw dreuliau eraill. Dylai costau teithio mewn car fod yn seiliedig ar 45c y filltir.
  • Mae hyn hefyd yn cynnwys prynu a hurio'r holl gerbydau, offer a deunyddiau sy'n gysylltiedig â'r gweithgareddau y mae eich gwirfoddolwyr yn eu cyflwyno yn ystod eich prosiect.
Costau digwyddiadau
  • Mae hyn yn cynnwys unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â chynnal digwyddiadau, gan gynnwys llogi ystafell, lluniaeth ac offer.
Offer a deunyddiau (gweithgareddau)
  • Gallai enghreifftiau gynnwys hetiau caled i roi mynediad i safle, deunyddiau celf neu daflenni a chyhoeddiadau. Peidiwch â chynnwys deunyddiau sy'n ymwneud â hyfforddiant neu wirfoddolwyr yma.
Costau eraill (gweithgareddau)
  • Dylid cynnwys unrhyw gostau eraill fel bwyd ar gyfer digwyddiadau, gweithgareddau dysgu neu hurio safleoedd. Rhowch ddisgrifiad clir.
  • Cofiwch sicrhau eich bod yn cynnwys costau digonol ar gyfer cyfieithu i’r Gymraeg yma.
Ffioedd proffesiynol (gweithgareddau)
  • Mae hyn yn cynnwys unrhyw berson a benodir am ffi sefydlog i helpu gyda chynllunio a chyflwyno gweithgareddau eich prosiect. Gallai hyn gynnwys ymgynghorwyr neu artistiaid a storïwyr.

Costau eraill:

Recriwtio
  • Gall hyn gynnwys cost hysbysebu ac unrhyw dreuliau teithio ar gyfer cyfweliadau.
  • Rydym yn disgwyl i'ch sefydliad lynu wrth arfer adnoddau dynol da a dilyn yr holl gyfreithiau perthnasol.
Cyhoeddusrwydd a hyrwyddo
  • Gallwn ariannu deunyddiau hyrwyddo sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'ch prosiect.
  • Cofiwch sicrhau eich bod yn cynnwys costau digonol ar gyfer cydnabod cefnogaeth Llywodraeth Cymru hefyd.
  • Gwerthuso
  • Mae'r pennawd cost hwn yn orfodol gan fod yn rhaid gwerthuso pob prosiect.
  • Dylid cynnwys costau gwerthuso eich prosiect o'r cychwyn cyntaf. Efallai y byddwch am gyflogi unigolyn neu sefydliad i'ch cefnogi gyda hyn.
  • Rydym yn argymell bod y costau'n gymesur â graddfa eich prosiect.
Arall
  • Dylech gynnwys unrhyw gostau eraill yma. Rhowch ddisgrifiad clir o bob cost.
Adennill costau llawn
  • Mae adennill costau llawn yn fath o gost a ddefnyddir i dalu costau anuniongyrchol prosiect. Mae costau anuniongyrchol yn cynnwys gorbenion, neu gostau nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â’r prosiect y mae eich sefydliad yn ei gyflwyno, ond sy’n hanfodol i redeg eich sefydliad.
  • Os ydych yn sefydliad yn y sector gwirfoddol, gallwn dalu cyfran o orbenion eich sefydliad, y mae'n rhaid iddynt fod yn briodol i'r amser neu adnoddau a ddefnyddir ar gyfer eich prosiect. Wrth sector gwirfoddol rydym yn golygu sefydliadau sy'n annibynnol ar lywodraeth y mae gan eu llywodraethu, eu hariannu a'u hadnoddau ffocws gwirfoddol. Er enghraifft, gallai sefydliad yn y sector gwirfoddol:
    • fod â Bwrdd Ymddiriedolwyr
    • cael ei ariannu gan grantiau a rhoddion
    • dibynnu ar wirfoddolwyr i gyflawni ei nodau
  • Dylech gynnwys unrhyw gostau ar gyfer adennill costau llawn yma.
Swm wrth gefn
  • Mae'r pennawd cost hwn yn orfodol. Mae swm wrth gefn yn cael ei ddefnyddio i dalu am gostau annisgwyl sy'n angenrheidiol er mwyn cyflwyno eich prosiect.
  • Byddem yn disgwyl i swm yr arian wrth gefn sydd wedi'i gynnwys helpu wrth reoli'r heriau neu'r risgiau a nodwyd gennych. Dylai hefyd adlewyrchu graddfa eich prosiect.
  • Cofiwch sicrhau eich bod yn cynnwys eich swm wrth gefn gofynnol yma yn unig ac nid o fewn penawdau cost eraill y cais.
Chwyddiant
  • Dylech gynnwys unrhyw gostau priodol a fydd yn darparu'n ddigonol am chwyddiant a ragfynegir. Dylech gyllidebu'n briodol ar gyfer chwyddiant yn seiliedig ar amserlen y prosiect, ynghyd â ffactorau eraill megis deunyddiau a ddefnyddir, gofynion o ran llafur a lleoliad.
  • Cyfraniadau nad ydynt yn arian parod
  • Dyma unrhyw beth sydd ei angen arnoch ar gyfer eich prosiect nad oes rhaid i chi dalu amdano (er enghraifft, hurio ystafelloedd neu offer). Gallwn ond derbyn cyfraniadau nad ydynt yn arian parod os ydynt yn gostau prosiect uniongyrchol y byddent fel arall yn rhan o gyllideb eich prosiect.
  • Mae'n rhaid cynnwys cyfraniadau nad ydynt yn arian parod yn adrannau costau ac incwm eich ffurflen gais. Mae hyn oherwydd ein bod yn cydnabod gwerth y cyfraniad hwn.
Amser gwirfoddolwyr
  • Dyma'r amser y mae gwirfoddolwyr yn ei roi i gefnogi'r gwaith o gyflwyno eich prosiect. Gallai hyn gynnwys gwaith gweinyddol, clirio safle neu weithio fel stiward mewn digwyddiad.
  • Ni ddylech gynnwys costau am amser pobl a fydd yn cymryd rhan yn eich gweithgareddau (er enghraifft, pobl sy'n mynychu gweithdy neu'n mynd ar daith dywysedig).
  • Rydym yn defnyddio cyfradd safonol o £20 yr awr i gyfrifo amser gwirfoddolwyr.
  • Mae'n rhaid cynnwys amser gwirfoddolwyr yn adrannau costau ac incwm eich ffurflen gais. Mae hyn oherwydd ein bod yn cydnabod gwerth y cyfraniad hwn.

Incwm y cam cyflwyno:

  • awdurdod lleol
  • sector cyhoeddus arall
  • llywodraeth ganolog
  • rhodd breifat – unigolyn
  • rhodd breifat – ymddiriedolaethau/elusennau/gwaddolion
  • rhoddion preifat – corfforaethol
  • masnachol/busnes
  • eich cronfeydd wrth gefn eich hun
  • arian arall a godir
  • benthyciad/cyllid
  • cyfraniadau nad ydynt yn arian parod
  • amser gwirfoddolwyr

Dogfennau ategol sydd eu hangen ar gyfer y cam cyflwyno

Cyn i ni asesu eich cais, mae angen i ni weld eich dogfennau ategol.

Noder bod y dogfennau ategol sydd eu hangen ar gyfer y rhaglen hon yn wahanol i'r rhai a nodir ar y ffurflen gais ar-lein. 

Mae rhai dogfennau ategol yn orfodol - mae'r rhain yn ddogfennau y mae'n rhaid i bob prosiect eu darparu ar gyfer eu cais cam cyflwyno. Dim ond os ydynt yn berthnasol i'ch prosiect y mae dogfennau ategol eraill yn orfodol: er enghraifft, os ydych yn comisiynu unrhyw waith, bydd angen i ni weld briffiau ar gyfer y gwaith hwnnw.

Dewiswch enw ffeil clir a disgrifiadol ar gyfer pob dogfen ategol fel y gallwn nodi pob un yn hawdd.

Y mathau o ffeiliau a gefnogir: .jpg, .doc, .docx, .pdf, .xls, .xlsx, .ppt, .pptx, .zip, .kml

[Uwchlwytho ffeiliau]

Rhestr o ddogfennau ategol ar gyfer y cam cyflwyno

Cyfrifon

Uwchlwythwch gyfrifon eich sefydliad.

Rhaid i chi ddarparu eich cyfrifon diweddaraf sydd wedi'u harchwilio neu eu dilysu gan gyfrifydd.

Mae angen i gyfrifon fod:

  • yn enw cyfreithiol eich sefydliad
  • â dyddiad arnynt
  • â llofnod mewn llawysgrifen. Nid yw hyn yn cynnwys llofnodion digidol
  • Dylid cynnwys teitl y sawl sy'n eu llofnodi. Rhaid i'r person hwn fod yn gyfarwyddwr, ymddiriedolwr, cyfrifydd, neu berson uwch arall yn eich sefydliad.

Os yw cyfrifon eich sefydliad yn hŷn na 18 mis, rhaid hefyd i chi ddarparu tri mis o'ch cyfriflenni banc diweddaraf. Dylai hyn fod y tri mis cyn y dyddiad yr ydych yn cyflwyno'ch cais.

Os sefydlwyd eich sefydliad lai na 14 mis yn ôl ac nid oes gennych set o gyfrifon wedi'u harchwilio, rhaid i chi ddarparu eich tair cyfriflen banc ddiwethaf, neu lythyr gan eich banc yn cadarnhau bod eich sefydliad wedi agor cyfrif.

Nid oes angen i ni weld eich cyfrifon os ydych yn sefydliad cyhoeddus, er enghraifft awdurdod lleol neu brifysgol.

Cynllun prosiect a chofrestr risgiau

Rhaid i bob prosiect gyflwyno cynllun prosiect a chofrestr risgiau. Rydym yn argymell i chi ddefnyddio templed cynllun prosiect Rhwydweithiau Natur

Uwchlwythwch eich cynllun prosiect a'ch cofrestr risgiau

Strwythur rheoli'r prosiect

Amlinellwch strwythur rheoli eich prosiect er mwyn i ni wybod pwy fydd yn gwneud penderfyniadau a sut y byddwch yn rheoli newid yn ystod eich prosiect.

Dadansoddiad manwl o gostau

Taenlen orfodol sy'n rhoi manylder y dadansoddiad o gostau yn adran Costau'r prosiect y cais, gan wahanu costau i gyfalaf a refeniw.

Defnyddiwch dempled costau prosiect y Gronfa Rhwydweithiau Natur.

Risgiau ar gyfer y cam cyflwyno

Nid oes angen i chi gyflwyno cofrestr risgiau ar wahân os ydych wedi defnyddio’r daflen waith cofrestr risgiau sydd wedi’i chynnwys yn y templed cynllun prosiect Rhwydweithiau Natur.

Dogfen prif risgiau ar gyfer y cyfnod ar ôl cwblhau'r prosiect

Amlinellwch y prif risgiau sy'n wynebu'r prosiect ar ôl iddo gael ei gwblhau a sut y byddant yn cael eu rheoli.

Cyfrifiadau adennill costau llawn

Os ydych wedi cynnwys adennill costau llawn fel pennawd cost yn eich costau prosiect, rhaid i chi ddarparu dogfen sy'n dangos sut rydych wedi cyfrifo hyn. Dylai costau fod yn gymesur â'r amser neu'r adnoddau a ddefnyddir ar gyfer eich prosiect. Gallwn hefyd dalu cyfran o gost aelod staff presennol, ar yr amod nad yw'n gweithio'n gyfan gwbl ar y prosiect a ariennir mewn swydd newydd.

Briffiau ar gyfer gwaith a gomisiynir

Mae briffiau'n disgrifio unrhyw waith rydych chi'n bwriadu ei gomisiynu yn ystod cam cyflwyno eich prosiect. Os ydych chi'n comisiynu gwaith, er enghraifft, gan artist neu bensaer, dylech uwchlwytho brîff. Dylai'r brîff ddisgrifio'r gwaith, faint o amser y bydd yn ei gymryd, a faint y bydd yn ei gostio. Templed o frîff ar gyfer gwaith a gomisiynir. Ar gyfer ffioedd dros £10,000 dylech ddod o hyd i dri thendr neu ddyfynbris cystadleuol. Ar gyfer ffioedd dros £50,000 byddwn yn disgwyl i chi ddarparu prawf o'r broses dendro gystadleuol.

Disgrifiadau swydd

Os ydych yn bwriadu recriwtio staff neu brentisiaid newydd i helpu cyflwyno eich prosiect, mae angen i chi ddarparu disgrifiad swydd ar gyfer pob swydd newydd. Dylai pob disgrifiad swydd gynnwys y cyflog a'r oriau gwaith arfaethedig.

Delweddau

Darparwch y canlynol:

  • map o safle(oedd) y prosiect
  • map yn dangos lleoliad y safle(oedd) ar raddfa ranbarthol
  • ShapeFile, Ffeil Tab neu KML yn dangos safle(oedd) eich prosiect fel polygonau

Cynllun rheoli a chynnal a chadw (os yn berthnasol)

Nid oes angen i chi gyflwyno cynllun rheoli a chynnal a chadw ar gyfer eich cais i’r Gronfa Rhwydweithiau Natur.

Cytundebau partneriaeth

Os ydych yn bwriadu gweithio gyda phartner i gyflawni eich prosiect, bydd angen i chi ddarparu cytundeb partneriaeth. Dylai'r ddogfen hon amlinellu rolau a chyfrifoldebau'r ddau bartner a dylai pob parti ei lofnodi. Dylai'r ddogfen hon adlewyrchu anghenion eich prosiect ac mae'n bosibl y bydd angen i chi ofyn am gyngor annibynnol ar y ffordd orau o lunio cytundeb. Mae partner yn sefydliad arall neu gorff trydydd parti sy’n rhan annatod o gyflwyno’ch prosiect, er enghraifft perchennog eitem, adeilad, tir neu gasgliad sy’n rhan o’ch prosiect. Nid yw partneriaid yn isgontractwyr. Bydd ganddynt rôl weithredol yn y prosiect a byddant yn cymryd rhan yn y prosiect. Byddant yn helpu i adrodd ar gynnydd, yn mynychu cyfarfodydd partneriaeth rheolaidd ac yn cefnogi gwerthusiad y prosiect.

Dogfennau perchnogaeth

Os ydych yn cynllunio unrhyw waith cyfalaf, darparwch gopïau o unrhyw ddogfennau perchnogaeth perthnasol. Er enghraifft, dogfennau perchnogaeth y Gofrestrfa Tir, neu brydles neu benawdau telerau.

Datganiad

Cadarnhau'r datganiad

Rydym yn cynnal ymchwil defnyddwyr ansoddol i'n helpu datblygu ein cynhyrchion a'n gwasanaethau. Gallai hyn amrywio o arolwg 20 munud i gyfweliad dwy awr.

Ticiwch y blwch hwn os hoffech gymryd rhan yn ein hymchwil, neu i gael mwy o wybodaeth. [Blwch ticio]

Rwyf wedi darllen y datganiad ac yn cytuno iddo. [Blwch ticio]

a) Diogelu Data

Rydym yn ymrwymedig i fod mor agored a thryloyw â phosibl. Mae hyn yn cynnwys bod yn glir ynglŷn â sut rydym yn asesu ac yn gwneud penderfyniadau ar ein grantiau a sut y byddwn yn defnyddio eich ffurflen gais a'r dogfennau eraill rydych yn eu rhoi i ni. Rydym yn dilyn yr holl gyfreithiau a rheoliadau diogelu data sy'n berthnasol ac mewn grym o bryd i'w gilydd (y 'ddeddfwriaeth Diogelu Data'). Fel y diffinnir gan y ddeddfwriaeth Diogelu Data mae Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (sy'n gweinyddu Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol) yn rheolydd data. Mae ein Polisi Preifatrwydd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol gan gynnwys gwybodaeth gyswllt ein Swyddog Diogelu Data. Gellir dod o hyd iddo ar wefan Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Fel rhan o'r broses ymgeisio byddwn yn casglu eich enw a'ch swydd yn y sefydliad rydych chi'n ei gynrychioli yn ogystal ag unrhyw wybodaeth bersonol ychwanegol rydych yn ei darparu amdanoch chi eich hun neu am bobl eraill sy'n ymwneud â'ch prosiect. Efallai y byddwn ni'n rhannu'r wybodaeth hon gydag un o'r ymgynghorwyr ar ein Cofrestr Gwasanaethau Cefnogi os byddant yn cael eu penodi i roi cefnogaeth i chi ar eich prosiect. Nid ydym yn trosglwyddo eich data i unrhyw drydydd partïon sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r UE.

Efallai y byddwn yn defnyddio'ch ffurflen gais a dogfennau eraill a roddwch i ni i:

  • Benderfynu a fyddwn ni'n rhoi grant i chi.
  • Darparu copïau i unigolion neu sefydliadau eraill sy'n helpu ni i asesu, monitro a gwerthuso grantiau.
  • Rhannu gwybodaeth gyda sefydliadau ac unigolion sy'n gweithio gyda ni sydd â diddordeb dilys mewn ceisiadau a grantiau'r Loteri Genedlaethol neu raglenni ariannu penodol.
  • Cadw mewn cronfa ddata a defnyddio at ddibenion ystadegol.
  • Os byddwn ni'n cynnig grant i chi, byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth amdanoch chi sy'n ymwneud â'r gweithgaredd rydym wedi'i ariannu, gan gynnwys swm y grant a'r gweithgaredd yr oedd i dalu amdano. Efallai y bydd yr wybodaeth hon yn ymddangos yn ein datganiadau i'r wasg, yn ein cyhoeddiadau printiedig ac ar-lein, ac yng nghyhoeddiadau neu ar wefannau adrannau Llywodraeth perthnasol ac unrhyw sefydliadau partner sydd wedi ariannu'r gweithgaredd gyda ni.
  • Os byddwn yn cynnig grant i chi, byddwch yn cefnogi ein gwaith o ddangos gwerth treftadaeth drwy gyfrannu (pan ofynnir i chi) at weithgareddau cyhoeddusrwydd yn ystod y cyfnod y byddwn yn darparu ariannu ar ei gyfer a chymryd rhan mewn gweithgareddau i rannu dysgu, y byddwn o bosibl yn cysylltu grantïon eraill â chi i wneud hynny.

b) Rhyddid Gwybodaeth

Fel sefydliad cyhoeddus rydym yn ddarostyngedig i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 sy’n rhoi hawl mynediad i’r cyhoedd i’r wybodaeth a ddaliwn, oni bai bod unrhyw eithriadau'n berthnasol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw wybodaeth gofnodedig a ddarparwyd i ni gan ein hymgeiswyr a grantïon.

Pan fyddwch yn cwblhau'r Datganiad ar ddiwedd y ffurflen gais, rydych yn cadarnhau nad oes gennych chi unrhyw wrthwynebiad i ni ryddhau'r ffurflen gais ac unrhyw wybodaeth arall a ddarparwch i ni i unrhyw un sy'n gofyn am weld nhw ar ôl i'ch cais gwblhau'r broses asesu. Os oes unrhyw wybodaeth nad ydych eisiau iddi fod ar gael yn gyhoeddus, gofynnir i chi esbonio eich rhesymau isod:

[Blwch testun]

Os byddwn yn derbyn cais am wybodaeth byddwn bob amser yn ymgynghori â chi'n gyntaf ac yn cymryd eich sylwadau i ystyriaeth, a byddwn yn cymhwyso’r eithriadau yn Neddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. Fodd bynnag, ni sy'n penderfynu a fyddwn yn rhyddhau eich gwybodaeth neu'n ei dal yn ôl ac ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod yr ydych yn ei ddioddef o ganlyniad i ni gyflawni'r cyfrifoldebau hyn.

Efallai y byddwn ni'n cysylltu â chi o bryd i'w gilydd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am waith Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

[Ticiwch y blwch os hoffech chi gael eich hysbysu am ein gwaith]

  • Cadarnhaf fod y sefydliad sydd wedi'i enwi ar y cais hwn wedi rhoi'r awdurdod i mi gwblhau'r cais hwn ar ei ran.
  • Cadarnhaf fod y gweithgaredd yn y cais yn dod o dan ddibenion a phwerau cyfreithiol y sefydliad.
  • Cadarnhaf fod gan y sefydliad y pŵer, os dyfernir grant iddo, i dderbyn y grant ac i'w dalu'n ôl.
  • Cadarnhaf fod yr wybodaeth yn y cais hwn yn wir ac yn gywir hyd eithaf fy ngwybodaeth.