Cwestiynau Cyffredin: Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd 4)

Cwestiynau Cyffredin: Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd 4)

Atebion i gwestiynau a godwyd gan fynychwyr yn ystod gweminar cyn ymgeisio y Gronfa Rhwydweithiau Natur (rownd pedwar), a gynhaliwyd ddydd Iau 11 Gorffennaf 2024.

Y siaradwyr

  • Emma Jane Wells, Uwch Reolwr Buddsoddi, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
  • Sian Regan, Rheolwr Buddsoddi, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
  • Zelda Baveystock, Pennaeth Cronfa Her Adferiad Gwyrdd, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Cwestiynau Cyffredin a gododd o'r weminar

Cododd y rhai a fynychodd y weminar gyfres o gwestiynau, yr ydym wedi’u hateb isod.

Gellir dod o hyd i atebion i nifer o gwestiynau a godwyd trwy ddarllen yr arweiniad. Darllenwch yr arweiniad, y cwestiynau ymgeisio am grantiau rhwng £50,000 a £250,000 a'r cwestiynau ymgeisio am grantiau rhwng £250,000 ac £1miliwn yn ofalus cyn gwneud cais.

A oes unrhyw gyfyngiadau ar faint o geisiadau y gall sefydliad fod yn bartner ynddynt?

Nac oes, ond byddwn yn edrych ar eich gallu cyffredinol i gyflwyno. Gallwch chi fod yn rhan o nifer o bartneriaethau ond dim ond ar un prosiect ym mhob categori ariannu y gallwch wneud cais fel y sefydliad arweiniol. Cadwch y meini prawf cydbwyso mewn cof, gan ein bod am ariannu amrywiaeth o sefydliadau. 

A oes unrhyw gyfyngiadau ar faint o Ymholiadau Prosiect/Mynegiadau o Ddiddordeb y gall ymgeisydd eu cyflwyno, fel y gall yr ymgeisydd archwilio opsiynau amrywiol gyda Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol?

Caniateir un Ymholiad Prosiect ac un Mynegiad o Ddiddordeb o bob sefydliad.

A oes angen i bob trwydded (er enghraifft caniatâd cynllunio) fod yn ei lle cyn cyflwyno cais?

Nac oes, ond mae angen nodi'r rhain ac mae'n rhaid bod cynllun yn ei le i ymdrin â hyn. Gofynnwn i chi fanylu ar hyn ar y daenlen cynllun prosiect a byddwn yn monitro hyn drwy gydol y prosiect.

A ellir defnyddio'r ariannu i ehangu prosiect presennol? A yw grantïon presennol wedi'u heithrio?

Byddwn yn ystyried pob cais ar sail ei deilyngdod ei hun. Rhaid peidio â gorgyffwrdd â gwaith prosiect presennol neu ddyblygu ariannu, a byddai angen ei gyflwyno fel prosiect ar wahân.

Mae tir amaethyddol a ffermydd yn derbyn cymorthdaliadau gan y llywodraeth. A ydynt felly yn anghymwys?

I fod yn gymhorthdal byddai'n rhaid i'r ariannu ddarparu mantais gystadleuol. Mae'n rhaid i chi gymryd eich cyngor cyfreithiol eich hun ynghylch rheoli cymhorthdal os oes gennych unrhyw amheuaeth. 

Os oes angen i ni ymchwilio i reoli cymhorthdal, a oes angen i ni wneud hyn cyn cwblhau Ymholiad Prosiect or Mynegiad o Ddiddordeb?

Nac oes, byddwn yn gofyn am hyn yn y cam ymgeisio.

A oes rhaniad penodol rhwng costau cyfalaf/refeniw?

Ddim ar sail prosiect. Mae gennym raniad rhaglen cyffredinol y byddwn yn ei reoli ar sail y rhaglen gyfan. Rhaid i chi nodi pa gostau sy'n refeniw a pha rai sy'n gyfalaf yn eich costau ymgeisio drwy ychwanegu REF neu CYF fel rhagddodiad i enw pob cost. 

A fyddech chi'n ystyried prosiect sydd â'r nod o reoli rhywogaethau anfrodorol ymledol ar draws ardal sydd â gwahanol safleoedd?

Byddem, os yw'n ymwneud â safleoedd gwarchodedig a bod yna resymeg ecolegol glir. Fodd bynnag, byddem fel arfer eisiau i brosiect ganolbwyntio ar fwy na dim ond cael gwared ar rywogaethau anfrodorol ymledol. Chi sy'n gwneud yr achos dros y gwaith a'r budd i gynefinoedd/rhywogaethau.

A allwn ddefnyddio'r ariannu i brynu offer y gellir ei ddefnyddio ar gyfer gwaith cynnal a chadw yn y dyfodol ac a oes angen i ni benderfynu pwy fydd yn berchen ar yr offer?

Gallwch brynu offer a chi fyddai'n penderfynu pwy sy'n berchen arno cyn belled â'u bod yn rhan o'r bartneriaeth. 

Mae rhai o'r safleoedd yn croesi i mewn i Loegr. A all prosiectau groesi'r ffin?

Dim ond ar gyfer Cymru y mae'r gronfa hon a dim ond yn y rhannau o safleoedd ar y ffin sydd yng Nghymru y gallwch wneud y gwaith.

Oes rhaid i'r grantiau fod am y tair blynedd lawn?

Nac oes, gall y prosiect gymryd llai o amser yn unol â'ch anghenion. Y terfyn amser a nodwyd, sef mis Mawrth 2028, yw’r dyddiad olaf ar gyfer cwblhau pob prosiect yn llawn, gan gynnwys yr holl waith adrodd ariannol a gwerthuso. 

A allwch chi wneud cais o dan y cynllun hwn a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ar yr un pryd

Byddem yn argymell gwneud cais i un yn gyntaf ac wedyn i'r llall ar ôl i'r canlyniad cyntaf gael ei wybod Mae cyfyngiad amser ar y gronfa hon ond peidiwch â rhuthro os yw'n fater o gael eich hun yn barod. Os yw’n addas ar gyfer Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, gallwch wneud cais i hwnnw unrhyw bryd ac ar eich cyflymder eich hun.

A allwn ariannu cyflogau ar gyfer swyddi ymchwil mewn prifysgol?

Rydym yn chwilio am ganlyniadau uniongyrchol ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau ar lawr gwlad, felly mae prosiectau ymchwil yn llai tebygol o fod yn gystadleuol.