Data Agored
Rydym wedi ymrwymo i dryloywder fel y gall pobl gael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt am ein harian grant.
Oherwydd hyn rydym yn cefnogi data agored, sef data sy'n:
- cyhoeddi'n rhagweithiol
- wedi'i ddarparu mewn fformatau sy'n ddarllenadwy ar beiriant (fel csv)
- wedi'u darparu i'w hailddefnyddio
Rydym yn glynu wrth yr egwyddorion canlynol wrth ddarparu ein data:
- cyhoeddi amserol – byddwn yn rhyddhau a diweddaru ein data yn flynyddol
- rydym yn darparu data wedi'i ddadgyfuno
- rydym yn defnyddio safonau cyffredin drwy weithio gyda'r fenter 360Giving yn ogystal i gyhoeddi ein data grant drwy GrantNav
- parchu preifatrwydd – dim ond data nad yw'n bersonol a gyhoeddir
Data allweddol ynglŷn â Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
Ers i ni gael ein sefydlu ym 1994, rydym wedi buddsoddi £8.3biliwn mewn mwy na 49,000 o brosiectau ledled y DU.
Mae hyn yn cynnwys:
- dros £3bn i bron i 10,000 o brosiectau ardal, adeiladu a henebion
- dros £500m i 26,700 o brosiectau treftadaeth gymunedol a diwylliannol
- bron £590m i fwy na 1,400 o brosiectau diwydiannol, morol a thrafnidiaeth
- dros £1.8bn i fwy na 4,200 o brosiectau tir, natur a bioamrywiaeth
- dros £2.2bn i fwy na 5,600 o brosiectau amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifau a chasgliadau
Data Grant
Mae'r gwaith yma wedi'i drwyddedu o dan drwydded agored y llywodraeth ar gyfer gwybodaeth sector cyhoeddus, sy'n eich galluogi i ddefnyddio ac ailddefnyddio'r wybodaeth sydd ar gael o dan y drwydded hon yn rhwydd ac yn hyblyg, gyda dim ond ychydig o amodau.
Os na allwch ddod o hyd i'r hyn rydych yn chwilio amdano, cysylltwch â ni.