Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd 4)

Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd 4)

Nod y gronfa hon, sy'n dyfarnu grantiau rhwng £50,000 ac £1miliwn, yw cryfhau cydnerthedd rhwydwaith Cymru o safleoedd tir a morol gwarchodedig.

Diweddarwyd y dudalen ddiwethaf: 8 Gorffennaf 2024. Gweler yr holl ddiweddariadau.

Ai hon yw'r rhaglen iawn i chi?

  • Ydych chi'n unigolyn neu'n sefydliad sy'n gweithio gyda threftadaeth naturiol yng Nghymru?
  • A oes angen ariannu arnoch i gynllunio neu gyflwyno prosiect sy'n seiliedig ar fyd natur?
  • A yw eich prosiect yn canolbwyntio ar wella bywyd gwyllt a bioamrywiaeth yng Nghymru o fewn ac o amgylch y rhwydwaith o safleoedd gwarchodedig?
  • A oes angen grant rhwng £50,000 a £1,000,000 arnoch?

Os gwnaethoch chi ateb yn gadarnhaol i'r cwestiynau hyn, yna mae'r Gronfa Rhwydweithiau Natur yn addas i chi.

Trosolwg

Nod y Gronfa Rhwydweithiau Natur yw gwella cyflwr a chydnerthedd rhwydwaith Cymru o safleoedd tir a morol gwarchodedig. Mae'n elfen allweddol o gyflwyno Rhaglen Rhwydweithiau Natur ehangach Llywodraeth Cymru.

Mae gwella cyflwr a chysylltedd rhwng safleoedd gwarchodedig yn eu galluogi i weithredu'n well fel rhwydweithiau natur. Mae rhwydweithiau natur yn ardaloedd hanfodol a chydnerth lle gall cynefinoedd a rhywogaethau ffynnu ac ehangu. Bydd adfer cysylltedd yn y rhwydweithiau hyn yn:

  • atal dirywiad pellach mewn rhywogaethau a chyflwr cynefinoedd
  • cefnogi adferiad byd natur
  • gwella’r gallu i addasu i’r argyfwng hinsawdd

Mae diogelu safleoedd yn dibynnu ar sefydliadau cryf, llywodraethu da a chynllunio prosiectau mewn ffordd gadarn. Felly, bydd y Gronfa Rhwydweithiau Natur hefyd yn cefnogi datblygiad prosiect ac adeiladu gallu ar gyfer prosiectau adferiad byd natur yn y dyfodol. Gallai'r gwaith hwn gynnwys y canlynol (ond nid yw'n gyfyngedig iddynt):

  • datblygu partneriaethau
  • ymgynghori ac ymgysylltu â thirfeddianwyr/cymunedau
  • arolygon ecolegol
  • astudiaethau dichonoldeb
  • dylunio cynlluniau
  • gwaith paratoadol arall ar gyfer prosiectau cyfalaf yn y dyfodol

Gall adeiladu gallu helpu datblygwyr prosiectau a phartneriaid i ddangos canlyniadau, creu modelau busnes cadarn sydd â’r potensial i ddenu buddsoddi a darparu sylfaen dystiolaeth i gefnogi dulliau rheoli effeithiol.

Mae'r gronfa hon hefyd yn cefnogi cyfranogiad gweithredol cymunedau mewn safleoedd gwarchodedig ac o'u cwmpas. Gall hyn fod yn hanfodol i lwyddiant hirdymor prosiectau adferiad byd natur, ac yn aml hefyd bydd manteision ehangach ar gyfer iechyd a lles pobl.

Gallwch gyflwyno uchafswm o ddau gais i’r Gronfa Rhwydweithiau Natur: un hyd at £250k ac un £250k i £1m. Dylid cwblhau'r prosiectau erbyn 31 Mawrth 2028.

Pethau y mae angen i chi eu gwybod

  • Mae'n rhaid peidio â dechrau ar ein prosiect cyn i ni wneud penderfyniad.
  • Ar gyfer prosiectau rhwng £50,000 a £250,000 rhaid i chi gyflwyno Ymholiad Prosiect yn gyntaf. Efallai y cewch eich gwahodd wedyn i wneud cais llawn.
  • Ar gyfer prosiectau dros £250,000 rhaid i chi gyflwyno Mynegiad o Ddiddordeb yn gyntaf. Efallai y cewch eich gwahodd wedyn i wneud cais llawn.
  • Rydym yn darparu llawer o arweiniad arfer da. Gallwch ddarllen yr arweiniad sy'n berthnasol i chi i'ch helpu i ddatblygu a rheoli eich prosiect.

Gweminar

Byddwn yn cynnal gweminar ar gyfer Rhwydweithiau Natur (rownd pedwar) ar 11 Gorffennaf 2024 10am-11:30am.

Archebwch yma

Drwy’r Gronfa Rhwydweithiau Natur, rydym am gefnogi:

  • Gweithredu ar safleoedd gwarchodedig neu'r rhwydweithiau ecolegol sy'n eu cynnal. Gall hyn gynnwys gweithredu y tu allan i safleoedd gwarchodedig a fydd yn fanteisiol i'r rhwydwaith yn gyffredinol (gweler 'Yr hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gan brosiectau' isod). Dylai'r prosiect hefyd ddangos rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol ar draws Cymru.   
  • Camau gweithredu y gall cymunedau lleol gymryd rhan yn weithredol ynddynt ac elwa ohonynt. Mae hyn yn cynnwys cefnogi cyfranogiad gweithredol gydag ystod amrywiol o bobl a chymunedau (yn enwedig grwpiau sydd heb eu gwasanaethu'n ddigonol). Dylai cyfranogiad y gymuned gynyddu’r rhwydwaith o bobl sy’n ymwneud â byd natur, a meithrin cydnerthedd safleoedd gwarchodedig a’u rhwydweithiau ecolegol.
  • Gweithgarwch datblygu sy'n galluogi sefydliadau i adeiladu eu gallu a'u sylfaen dystiolaeth i gynllunio prosiectau adferiad byd natur yn y dyfodol. Gallai hyn gynnwys adeiladu gallu i barhau i gyrraedd cymunedau sydd heb eu gwasanaethu’n ddigonol neu i ddenu buddsoddiad ariannol i gynyddu’r gwaith o gyflwyno prosiectau adferiad natur.

Mae'r rhwydwaith safleoedd gwarchodedig yn cynnwys Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol, safleoedd Ramsar a Pharthau Cadwraeth Forol. 

I wirio a yw ardal o dir neu fôr wedi'i chynnwys yn y diffiniadau hyn, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol CymruPhorth Gwybodaeth Amgylcheddol Cymru. 

Mae'n rhaid i weithgareddau greu buddion uniongyrchol ar gyfer y rhwydwaith safleoedd gwarchodedig nawr neu yn y dyfodol. Bydd hyn fel arfer yn ymwneud â gwelliannau'n uniongyrchol ar safle neu ar leoliadau cyfagos a fydd yn gwella cyflwr nodweddion a chysylltedd safleoedd. Gall gynnwys y canlynol hefyd:

  • gwelliannau i hygyrchedd safle
  • cefnogi sefydliadau i gyrraedd cymunedau sydd heb eu gwasanaethau'n ddigonol
  • cefnogi sefydliadau neu unigolion sydd (neu a fydd yn y dyfodol) yn ymwneud â phrosiectau ar safleoedd a/neu ar rwydweithiau ecolegol sy'n eu cefnogi. Gallai hyn gynnwys cynllunio, staffio, hyfforddiant, prentisiaethau, cyllid gwyrdd, caffael tystiolaeth drwy arolygon, adolygiadau llywodraethu ac yn y blaen.

Gall prosiectau weithredu ar y tir/môr o fewn a thu hwnt i'r safleoedd gwarchodedig eu hunain. Er enghraifft, gallai prosiectau y tu hwnt i safleoedd gwarchodedig:

  • wella cysylltedd ecolegol rhwng safleoedd gwarchodedig penodol 
  • gweithredu er budd cynefinoedd neu rywogaethau y tu hwnt i safleoedd gwarchodedig lle y maent hefyd yn nodweddion o safleoedd gwarchodedig cysylltiedig
  • canolbwyntio ar rywogaeth nad yw’n nodwedd o safle, cyn belled â’i bod yn creu buddion o ran cyflwr, cysylltedd neu weithrediad ecosystem safleoedd penodol a’u nodweddion
  • fod o fudd i gynefin neu rywogaeth nad yw'n nodwedd o safle ar hyn o bryd, ond bod tystiolaeth yn awgrymu y gallai fod felly
  • fod yn seiliedig ar ardaloedd nad ydynt o dan warchodaeth statudol ar hyn o bryd, ond sydd â lefel debyg o bwysigrwydd o ran bioamrywiaeth
  • lleihau effeithiau allanol ar safleoedd gwarchodedig i wella cyflwr, er enghraifft o ddyddodiad nitrogen neu gytrefu INNS
  • adfer swyddogaethau ecosystem o amgylch safleoedd gwarchodedig ar raddfa'r dirwedd

Ym mhob un o'r achosion hyn, rhaid i gais gynnwys cyfiawnhad sy'n seiliedig ar dystiolaeth dros gymhwystra'r prosiect. Dylid enwi'r safleoedd a'r nodweddion penodol sy'n elwa o'r prosiect ac esbonio'r sail resymegol ecolegol drosto.

Bydd disgwyl i chi ddangos bod eich prosiect arfaethedig yn cyflwyno yn erbyn yr amcanion rheoli neu amcanion cadwraeth ar gyfer y safle dan sylw. 

Byddwn yn ceisio ariannu cyfuniad o weithgarwch cyfalaf a refeniw ar draws portffolio o brosiectau. I gael mwy o ddealltwriaeth, gweler 'Paratoi eich cais' isod.

Nodi safleoedd posibl ar gyfer cysylltedd

Bydd camau gweithredu i wella cysylltedd rhwng safleoedd gwarchodedig yn fwyaf effeithiol os caiff eu lleoli i wella patrymau cysylltedd presennol yn y dirwedd. Mae camau gweithredu'n debygol o fod yn fwyaf effeithiol os ydynt yn atgyfnerthu, yn ehangu neu'n creu cysylltiadau rhwng rhwydweithiau cynefinoedd.

Mae’r Map Rhwydweithiau Natur ar gael i helpu gyda hyn a gellir ei gyrchu trwy MapDataCymru a Phorth Gwybodaeth Amgylcheddol Cymru.

Mae’r mapiau’n dangos rhwydweithiau wedi’u modelu ar gyfer amrywiaeth o gynefinoedd sy’n dangos pa mor dda y mae ardaloedd cynefin yn debygol o fod wedi'u cysylltu ar draws Cymru ac â’r Rhwydweithiau Ecolegol â Blaenoriaeth. Maent yn dynodi cysylltedd presennol tebygol yn benodol rhwng ac o amgylch safleoedd gwarchodedig ar gyfer cynefinoedd gwahanol. Mae'r mapiau hefyd yn cyflwyno byffer generig o amgylch yr holl safleoedd gwarchodedig i dynnu sylw at bwysigrwydd gweithredu yn agos at safleoedd presennol. 

Mae'n bwysig nodi mai allbynnau wedi'u modelu yw'r mapiau hyn a'u bwriad yw cyfeirio camau gweithredu, yn hytrach na'u rhagnodi. Efallai y bydd allbynnau model eraill ar gael, ac mae nodweddion cysylltiol eraill yn y dirwedd, megis cyrsiau dŵr, cloddiau neu hyd yn oed ymylon ffyrdd, a allai gael eu hystyried wrth gynllunio prosiectau. 

  • rhaglen yn agor ar 8 Gorffennaf 2024
  • terfynau amser ymgeisio: 
    • Terfyn amser ar gyfer Ymholiad Prosiect £50,000 - £250,000: 22 Gorffennaf 2024
    • Terfyn amser ymgeisio ar gyfer £50,000 - £250,000: 1 Hydref 2024
    • Terfyn amser ar gyfer Mynegiad o Ddiddordeb £250,000 - £1m: 16 Awst 2024
    • Terfyn amser ymgeisio ar gyfer £250,000 - £1m: 8 Tachwedd 2024
  • hysbysir ymgeiswyr am benderfyniadau erbyn 28 Chwefror 2025
  • rhaid cwblhau prosiectau cyfalaf erbyn 31 Mawrth 2028

Mae'r cynllun yn agored i bob tirfeddiannwr preifat a sefydliad sy'n gweithio gyda threftadaeth naturiol yng Nghymru. Rhaid i chi ddangos eich bod yn ymwybodol o feddu ar y caniatadau, y trwyddedau a'r cydsyniadau cywir sydd eu hangen i ymgymryd â gweithgaredd ar y rhwydwaith safleoedd gwarchodedig neu'r ardaloedd cyfagos, a'ch bod wedi sicrhau'r rhain yn barod neu'n gweithio tuag at eu sicrhau. Mae'n rhaid i'r ardal yr ydych yn ei wella fod yng Nghymru, ond gallwch chi/eich sefydliad fod wedi’ch lleoli unrhyw le yn y DU.

Partneriaethau

Rydym yn eich annog i weithio gyda phobl eraill i ddatblygu a chyflawni eich prosiect.

Mae partner yn sefydliad arall neu gorff trydydd parti sy'n rhan annatod o gyflawni'ch prosiect.

Nid yw partneriaid yn isgontractwyr. Bydd ganddynt rôl weithredol yn y prosiect a byddant yn cymryd rhan yn y prosiect. Byddant yn helpu i adrodd ar y prosiect, yn mynychu cyfarfodydd partneriaeth rheolaidd ac yn cefnogi gwerthusiad y prosiect.

Os ydych yn bwriadu gweithio gydag unrhyw sefydliadau eraill i gyflawni cyfran sylweddol o'ch prosiect, mae'n rhaid i chi ffurfioli eich perthynas trwy gytundeb partneriaeth.

Perchnogion preifat ar dreftadaeth

Fel perchennog preifat ar ased treftadaeth mae'n rhaid i chi ddangos bod budd cyhoeddus eich prosiect yn drech nag unrhyw fudd preifat.

  • Os nad yw perchennog y dreftadaeth yn gwneud y cais, byddwn yn gofyn iddynt ymrwymo i delerau ac amodau eich grant.

Ni fyddwn yn ariannu:

  • gwaith y gellir yn rhesymol ei ystyried ei fod yn ddyletswydd statudol y perchennog
  • prynu adeiladau neu dir
  • codi adeiladau newydd

Gweithio ar dir preifat

Ceir llawer o gynefinoedd a rhywogaethau dynodedig ar dir sy'n eiddo i unigolion preifat neu sefydliadau er-elw. Gall prosiectau gyflwyno gwaith neu weithgareddau ar dir preifat cyhyd â bod unrhyw fudd cyhoeddus yn amlwg yn drech nag unrhyw fudd preifat posibl ac ar yr amod nad yw rheolau rheoli cymorthdaliadau'n cael eu torri.

Er enghraifft, gallem ariannu gwaith adfer gwrychoedd neu greu pyllau ar fferm, ar yr amod nad ydynt yn ychwanegu gwerth ariannol at y tir nac yn cyfleu unrhyw fudd ariannol anuniongyrchol sylweddol a allai dorri rheolau rheoli cymorthdaliadau.

Wrth weithio ar dir preifat, rydym yn deall y gall fod cyfyngiadau ar fynediad cyhoeddus. Fodd bynnag, rydym yn annog mynediad cyhoeddus pryd bynnag y bo'n ymarferol. Rydym hefyd yn cydnabod efallai na fydd mynediad ffisegol bob amser yn briodol nac yn ddymunol am resymau cadwraeth cynefinoedd. Os yw mynediad gwell yn bosibl, efallai y byddwch hefyd eisiau gwneud cais am ariannu ar gyfer seilwaith newydd, er enghraifft llwybrau neu guddfannau, a all helpu i ddarparu mwy o fynediad i'r cyhoedd.

Gall gwaith gael ei wneud ar dir sy'n eiddo i adran o'r llywodraeth neu gorff hyd braich ar yr amod nad ydynt yn elwa'n ariannol o unrhyw fuddsoddiad. Pe bai elusen neu bartneriaeth amgylcheddol yn gwneud gwaith ar y fath dir, dim ond ar gyfer gwaith na fyddai'n dod o dan unrhyw gyfrifoldeb statudol y gall fod.

Trwyddedau, caniatadau a chydsyniadau

Mae'n rhaid i ymgeiswyr ddangos yn eu cais eu bod yn ymwybodol o'r caniatadau a'r trwyddedau perthnasol ar gyfer cyflwyno eu prosiect, a'u bod yn gweithio tuag at gaffael y rhain.

Pa gostau allwch chi ymgeisio amdanynt?

Os ydych yn gwneud cais am brosiect o dan £250,000 gallwch wneud cais am brosiect Datblygu, prosiect Cyfalaf neu gyfuniad o'r ddau mewn un cais. Ni chewch wneud mwy nag un cais o dan £250,000.

Dylai ceisiadau dros £250,000 fod ar gyfer prosiectau Cyfalaf yn unig. Ni chewch wneud mwy nag un cais dros £250,000.

Mae'n bwysig i chi nodi yn eich cais pa rai o gostau eich prosiect sy'n gyfalaf a pha rai sy'n refeniw. Ar draws y portffolio cyfan o brosiectau, rydym am ariannu cyfuniad cytbwys o weithgarwch cyfalaf a refeniw.

Prosiectau datblygu

Dylai'r prosiectau hyn gynnwys mwyafrif o arian refeniw. Gallwch gynnwys rhai costau cyfalaf, ond ni ddylai gwaith cyfalaf fod yn ffocws i'r prosiect.

Prosiectau cyfalaf

Dylai'r prosiectau hyn gynnwys mwyafrif o arian cyfalaf a dylent ganolbwyntio ar waith cyfalaf. Gallwch gynnwys rhai costau refeniw o fewn y prosiectau hyn.

Costau cyfalaf

Mae'r canlynol yn enghreifftiau o gostau cyfalaf ond nid yw'n rhestr gyflawn:

  • prynu eitemau sy’n gysylltiedig â gweithgareddau rheoli tir, megis coed, planhigion gwrychoedd, ffensys ac eitemau gwaith cyfalaf sy'n ofynnol i gyflwyno’r canlyniadau
  • costau cyffredinol a geir wrth osod y gwaith cyfalaf, sy'n cynnwys costau contractwyr ar gyfer llafur a defnyddio offer
  • prynu peiriannau ac offer hyd at werth yr ased ar y farchnad
  • prynu, dylunio a gosod paneli dehongli, gan gynnwys costau cyfieithu
  • caffael neu ddatblygu meddalwedd cyfrifiadurol a chaffael patentau, trwyddedau, hawlfreintiau a nodau masnach
  • ffioedd ymgynghorydd a phensaer, costau dylunio technegol eraill, arolygon safle a ffioedd proffesiynol megis ffioedd sy'n gysylltiedig â chynaladwyedd amgylcheddol ac economaidd
  • Ffioedd a chostau'r cais cynllunio. Mae ffioedd a godir am ganiatadau, trwyddedau a chydsyniadau statudol yn gymwys, ar yr amod eu bod yn hanfodol i gyflwyno'r prosiect cyfalaf. Gellir talu'r rhain cyn dechrau ar y prosiect ond mae'n rhaid eu hysgwyddo ar ôl mis Mawrth 2025 a dangos tystiolaeth ohonynt yn yr un ffordd â gwariant arall.
  • ariannu wrth gefn ar gyfer costau cyfalaf ychwanegol (argymhellwn tua 10% o arian wrth gefn)
  • ariannu ar gyfer chwyddiant i ganiatáu ar gyfer cynnydd mewn costau cyflwyno’r prosiect yn y dyfodol

Costau refeniw

  • amser staff
  • adennill costau llawn neu gostau sefydliadol craidd tuag at gyflwyno'r prosiect
  • costau gweithgareddau (digwyddiadau, lluniaeth, llogi ystafell, etc)
  • gwerthuso
  • cynllunio'r prosiect (astudiaethau dichonoldeb, arolygon neu bennu gwaelodlin ecolegol, ymgynghori â thirfeddianwyr/y gymuned, adolygiadau llywodraethu, cyngor ymgynghorol ar gyllid gwyrdd, etc)
  • costau hyfforddi a phrentisiaethau
  • costau cyfieithu
  • ariannu wrth gefn ar gyfer costau refeniw ychwanegol (argymhellwn tua 10% o arian wrth gefn)

Costau anghymwys

Ni chewch gynnwys costau ar gyfer:

  • cynnal a chadw parhaus neu gostau rhedeg yn y dyfodol y tu hwnt i gyfnod y prosiect.
  • Grantiau Cymunedol
  • Caffael tir

Arian cyfatebol

Nid oes unrhyw ofynion o ran cyfraniadau arian parod neu anariannol ar gyfer y Gronfa Rhwydweithiau Natur. Fodd bynnag, gall unrhyw gyfraniadau arian parod, anariannol neu ar ffurf gwirfoddolwyr y byddwch yn eu darparu ychwanegu at effaith a gwerth am arian eich prosiect, a fydd yn cael eu hystyried yn y cam asesu.

Ni chewch ddefnyddio'r grant hwn fel arian cyfatebol ar gyfer prosiect gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, nac i'r gwrthwyneb.

Dogfennau ategol

Mae'n rhaid i'r dogfennau ategol a ganlyn gael eu huwchlwytho gyda'ch ffurflen gais. Dylai maint y ffeiliau fod yn llai na 20MB. Noder bod rhai o'r dogfennau ategol sydd eu hangen ar gyfer y rhaglen hon yn wahanol i'r rhai a nodir yn y ffurflen gais ar-lein.

Ar gyfer y rhaglen hon, mae angen y dogfennau canlynol arnom:

  • Cyfrifon wedi'u harchwilio neu eu dilysu (gorfodol os ydych yn sefydliad). Os ydych yn unigolyn, yn sefydliad sydd newydd ei ffurfio neu os nad oes gennych gyfrifon sy'n fwy na 12 mis oed, bydd angen i ni weld cyfriflenni banc yn yr un enw â'ch cais am y tri mis llawn diwethaf.
  • cynllun prosiect (gorfodol ar gyfer pob prosiect): lawrlwythwch templed cynllun prosiect
  • cytundeb partneriaeth (gorfodol os ydych yn gweithio mewn partneriaeth)
  • disgrifiadau swydd (gorfodol os ydych yn creu swyddi neu brentisiaethau newydd fel rhan o’ch prosiect)
  • briffiau ar gyfer gwaith a gomisiynir (os yn berthnasol) 
  • delweddau, gan gynnwys o leiaf un map sy'n dangos lleoliadau gwaith cyfalaf
  • Taenlen sy'n rhoi manylder y dadansoddiad o gostau yn adran Costau'r prosiect y cais. Gofynnir i chi wahanu costau i Gyfalaf a Refeniw. Defnyddiwch ein templed costau prosiect.
  • Taenlen yn manylu ar ganiatadau sydd heb eu sicrhau (defnyddiwch y templed a ddarperir ar frig y dudalen)
  • cyfrifo adennill costau llawn (os yn berthnasol) 
  • tystiolaeth o gefnogaeth, megis llythyrau, e-byst neu fideos cefnogol (dewisol)
  • Strwythur rheoli prosiect (gorfodol ar gyfer ceisiadau dros £250,000). Dylai hwn amlinellu strwythur rheoli eich prosiect er mwyn i ni wybod pwy fydd yn gwneud penderfyniadau a sut y byddwch chi'n rheoli newid yn ystod eich prosiect.
  • Dogfen prif risgiau ar gyfer y cyfnod ar ôl cwblhau'r prosiect (gorfodol ar gyfer ceisiadau dros £250,000). Dylai hon amlinellu'r prif risgiau sy'n wynebu'r prosiect ar ôl iddo gael ei gwblhau a sut y byddant yn cael eu rheoli.
  • Map yn dangos lleoliad y safle ar raddfa ranbarthol, a ShapeFile, Tab File neu KML yn dangos safle(oedd) eich prosiect fel polygonau (gorfodol ar gyfer pob prosiect)

Iaith Gymraeg

Rhaid i chi gynnwys y Gymraeg ym mhob agwedd o'ch gwaith. Dywedwch wrthym sut y byddwch chi'n hyrwyddo ac yn cefnogi'r Gymraeg ac yn adlewyrchu natur ddwyieithog Cymru.

Gwnewch yn siŵr bod cyfieithu wedi'u cynnwys yn eich cynllun prosiect a chyllideb eich prosiect o dan y categori costau 'Arall' yn adran costau prosiect y cais.

Am ragor o wybodaeth gweler ein Harweiniad prosiect dwyieithog yng Nghymru.

Hyrwyddo a chydnabod ariannu

Darperir yr ariannu hwn gan Lywodraeth Cymru. Fel rhan o’ch grant, rhaid i chi gydnabod eich ariannu ar gyfryngau cymdeithasol, drwy ddatganiadau i’r wasg, a thrwy arddangos ein logo partneriaeth. Darllenwch ein Canllaw cydnabod eich grant gan Lywodraeth Cymru

Bydd cynllunio'n gynnar, a dyrannu cyllideb briodol, yn eich helpu i fodloni ein gofynion a chydnabod eich grant mewn ffyrdd sy'n greadigol ac yn addas ar gyfer eich prosiect.

Dylech gynnwys cyllideb ar gyfer cydnabyddiaeth yn y categori costau 'Cyhoeddusrwydd a hyrwyddo' yn adran costau prosiect y cais. Rydym yn argymell i chi seilio'r costau hyn ar ddyfynbrisiau gan ddarpar gyflenwyr.

Defnyddiwch ein harweiniad cydnabyddiaeth i gynllunio eich gweithgareddau'n gymesur â maint eich grant.

Gwerthuso ac adrodd

Rydym yn argymell i chi ystyried gwerthuso o ddechrau eich prosiect. Po fwyaf gofalus y mae prosiectau'n cyllidebu ar gyfer eu gwerthusiad, yr uchaf fydd ansawdd yr adroddiad terfynol. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth yn ein canllaw gwerthuso

Ar ddiwedd eich prosiect byddwn yn disgwyl i chi gyflwyno adroddiad gwerthuso. Mae angen cyflwyno hwn cyn i ni dalu'r 20% olaf o'ch grant. Dylai hyn gynnwys manylion am sut mae cydnerthedd ecosystemau a/neu gysylltedd cynefinoedd wedi elwa o’r buddsoddiad (neu y bydd yn elwa yn y dyfodol). Dylech rannu data a methodoleg monitro perthnasol.

Byddwn hefyd yn disgwyl i chi rannu data geo-ofodol a data eraill ar ble mae eich prosiect wedi gweithio er mwyn gwella setiau data CNC. Caiff arweiniad pellach ar hyn ei ddarparu os dyfernir grant i chi.

Adennill costau llawn

Os ydych yn sefydliad yn y sector gwirfoddol (er enghraifft, efallai bod gennych fwrdd ymddiriedolwyr ac wedi'ch ariannu gan grantiau a rhoddion), gallwn dalu cyfran o orbenion eich sefydliad ar ffurf adennill costau llawn.

Mae adennill costau llawn yn golygu sicrhau ariannu ar gyfer yr holl gostau sydd ynghlwm wrth redeg prosiect. Mae hyn yn golygu y gallwch ofyn i gostau prosiect uniongyrchol gael eu hariannu yn ogystal â chyfran gymesur o gostau sefydlog eich sefydliad.

Gall hyn gynnwys costau sy’n cefnogi’r prosiect yn rhannol, ond sydd hefyd yn cefnogi prosiectau neu weithgareddau eraill y mae eich sefydliad yn eu darparu, megis cyflogau staff sy’n gweithio ar draws prosiectau ym meysydd gweinyddu, rheoli, AD, neu godi arian, costau swyddfa fel rhent neu gyfleustodau a ffioedd cyfreithiol neu archwilio.

Gall ariannu sy’n talu am rai o’ch costau rhedeg fod yn bwysig i’ch cynaladwyedd, felly rydym yn eich annog i ystyried cynnwys hyn yn eich cyllideb yn y categori costau ‘Adennill costau llawn’ os ydych yn gymwys.

Mae arweiniad cydnabyddedig ar gyfrifo’r swm adennill costau llawn sy’n berthnasol i’ch prosiect ar gael gan sefydliadau megis Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Noder: Peidiwch â symud ymlaen yn syth at lunio'ch cais. Yn gyntaf mae'n rhaid i chi gyflwyno Ymholiad Prosiect neu Fynegiad o Ddiddordeb er mwyn i ni allu rhoi adborth cynnar i chi ar eich cynnig prosiect.

Grantiau rhwng £50,000 a £250,000

Ar gyfer grantiau rhwng £50,000 a £250,000, rhaid i chi gyflwyno Ymholiad Prosiect. Cyfeiriwch at ein nodiadau cymorth Ymholiad Prosiect am ragor o wybodaeth ar sut i gwblhau eich ffurflen.

12 hanner dydd ar 22 Gorffennaf 2024 yw'r terfyn amser ar gyfer Ymholiadau Prosiect.

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarparwch i benderfynu p'un a fyddwn yn eich gwahodd i gyflwyno cais llawn ai beidio. Nid yw gwahoddiad i wneud cais yn gwarantu grant gennym yn y dyfodol, ond mae'n nodi ein bod yn gweld potensial yn eich cynigion cychwynnol.

Os bydd eich Ymholiad Prosiect yn llwyddiannus rhaid i chi gyflwyno eich cais llawn erbyn 12 hanner dydd ar 1 Hydref 2024.

Ewch i'n gwasanaeth ar-lein i wneud cais.

Grantiau rhwng £250,000 ac £1miliwn

Mynegiad o ddiddordeb

Gofynnwn i bob ymgeisydd sy'n gwneud cais am grant rhwng £250,000 ac £1miliwn gwblhau ffurflen Mynegiad o Ddiddordeb fer. Cyfeiriwch at ein Nodiadau cymorth Mynegiad o Ddiddordeb i gael mwy o wybodaeth am sut i gwblhau eich ffurflen.

Rhaid i chi gyflwyno eich Mynegiad o Ddiddordeb erbyn 12 hanner dydd ar 16 Awst 2024.

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarparwch i benderfynu p'un a fyddwn yn eich gwahodd i gyflwyno cais llawn ai beidio. nid yw gwahoddiad i wneud cais yn gwarantu grant gennym yn y dyfodol, ond mae'n dangos ein bod yn gweld potensial yn eich cynigion cychwynnol.

Byddwn yn ceisio ymateb i'ch Mynegiad o Ddiddordeb o fewn 20 diwrnod gwaith. Os bydd eich Mynegiad o Ddiddordeb yn llwyddiannus rhaid i chi gyflwyno eich cais llawn erbyn 12 hanner dydd ar 8 Tachwedd 2024.

Ewch i'n gwasanaeth ar-lein i wneud cais.

Nodiadau cymorth a thempledi

Noder: mae'r Gronfa Treftadaeth yn defnyddio'r un ffurflenni cais ar draws amrywiaeth o'n rhaglenni. Mae angen ateb rhai cwestiynau'n wahanol ar gyfer y rhaglen hon, felly cyn i chi ymgeisio, rhaid i chi ddarllen y nodiadau cymorth ymgeisio yn ofalus er mwyn deall pa wybodaeth sydd ei hangen a ble. Peidiwch â defnyddio'r eiconau cymorth sydd wedi'u hymwreiddio yn y ffurflen ar-lein.

Rydym wedi dylunio'r broses ymgeisio i fod mor syml â phosibl ac yn gofyn dim ond am yr wybodaeth sydd ei hangen arnom. Defnyddiwch yr adnoddau hyn i lywio eich cais:

Pan fyddwn yn asesu eich cais, byddwn yn ystyried amrywiaeth o ffactorau gan gynnwys:

  • y cyfraniad y mae eich prosiect yn ei wneud at wella cyflwr y rhwydwaith safleoedd gwarchodedig yng Nghymru
  • eich cynlluniau i sicrhau bod gan bawb gyfleoedd i ddysgu, datblygu sgiliau newydd a fforio natur, beth bynnag fo'u cefndir neu amgylchiadau personol
  • a fydd eich sefydliad yn datblygu ac yn cynnal sgiliau a gallu i sicrhau dyfodol hirdymor i safleoedd gwarchodedig yng Nghymru
  • nifer y swyddi/prentisiaethau/hyfforddeiaethau a gynigir, yn enwedig i bobl ifanc
  • sut y bydd effaith eich prosiect yn cael ei chynnal

Meini prawf cydbwyso

Os byddwn yn derbyn mwy o geisiadau o ansawdd da nag y gallwn eu hariannu, byddwn yn blaenoriaethu prosiectau a fydd yn:

  • gweithio mewn ardaloedd sydd fwyaf tebygol o gefnogi’r gwaith o ddarparu Rhwydweithiau Ecolegol Cydnerth o fewn y Rhaglen Rhwydweithiau Natur fel y nodir ar y Map Rhwydweithiau Natur
  • cynrychioli lledaeniad o ran daearyddiaeth, bioamrywiaeth a sefydliadau arweiniol ledled Cymru ac ar draws yr holl rowndiau ariannu Rhwydweithiau Natur blaenorol
  • darparu cyfuniad cytbwys o brosiectau cyfalaf a refeniw ar draws y portffolio

Ystyried risg

Wrth asesu'ch cais, byddwn yn gwneud dyfarniad pwyllog ar y risgiau posibl i’ch prosiect a’ch risgiau sefydliadol presennol – ac yn edrych i weld a ydych wedi nodi’r rhain a dweud wrthym sut y byddwch yn lliniaru yn eu herbyn.

Bydd pob prosiect yn wynebu bygythiadau a chyfleoedd y bydd angen i chi eu nodi a'u rheoli. Rydym am i chi fod yn realistig ynghylch y risgiau y gallai eich prosiect a'ch sefydliad eu hwynebu fel eich bod mewn sefyllfa dda i reoli a chyflwyno'r prosiect yn llwyddiannus.

Dylech hefyd ystyried chwyddiant a chostau wrth gefn yn ofalus yn eich cais.

Mae chwyddiant ar gyfer prosiectau adeiladu'n debygol o barhau'n uchel hyd y gellir rhagweld. Dylech ddarparu ar gyfer chwyddiant yn seiliedig ar amserlen y prosiect, ynghyd â ffactorau eraill fel y deunyddiau a ddefnyddir, gofynion o ran llafur a lleoliad.

Y mathau o risgiau a phroblemau y dylech eu hystyried yw:

  • ariannol: er enghraifft, gostyngiad yn y cyfraniad o ffynhonnell ariannu arall
  • sefydliadol: er enghraifft, prinder pobl â'r sgiliau sydd eu hangen arnoch neu staff sy'n gorfod gweithio ar brosiectau eraill
  • economaidd: er enghraifft, cynnydd annisgwyl yng nghost deunyddiau
  • technegol: er enghraifft, darganfod rhywogaethau gwarchodedig annisgwyl ar eich safle
  • cymdeithasol: er enghraifft, ymatebion negyddol i ymgynghori neu ddiffyg diddordeb gan eich cynulleidfa darged
  • rheoli: er enghraifft, newid arwyddocaol yn nhîm y prosiect
  • cyfreithiol: er enghraifft, rheoli cymhorthdal, neu newidiadau yn y gyfraith sy'n golygu nad yw'r prosiect yn ymarferol
  • amgylcheddol: er enghraifft, anawsterau wrth ddod o hyd i ffynonellau pren o goedwigoedd a reolir yn dda

Amser asesu

Byddwn yn anelu at wneud penderfyniadau ar brosiectau rhwng £50,000 a £250,000 erbyn diwedd mis Rhagfyr 2024, ac ar brosiectau rhwng £250,000 ac £1m erbyn diwedd mis Chwefror 2025.

Noder: ni allwn ddechrau asesu eich cais hyd nes i'r holl wiriadau gofynnol gael eu cwblhau a’n bod wedi derbyn yr holl wybodaeth ategol ofynnol.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus

Byddwn yn darparu arweiniad ychwanegol ar ein gofynion monitro ac amodau cyfreithiol ar bwynt y dyfarniad.

Bydd pob grant o dan £250,000 yn cael ei dalu mewn tri rhandaliad. Byddwch yn derbyn 50% o'ch grant unwaith y byddwch wedi derbyn caniatâd i ddechrau ar eich prosiect. Byddwch yn derbyn y 30% nesaf hanner ffordd drwy eich prosiect, pan fydd y 50% cyntaf wedi'i wario. Rydym yn cadw'r 20% olaf o'ch grant yn ôl hyd nes bod y prosiect wedi'i gwblhau.

Bydd grantiau o £250,000 a throsodd yn cael eu talu mewn ôl-daliadau, mewn rhandaliadau rheolaidd, wrth dderbyn tystiolaeth o wariant.

Rhaid i chi aros i dderbyn caniatâd gennym cyn dechrau ar eich prosiect.

Os yw eich cais yn aflwyddiannus

Mae’r broses asesu'n gystadleuol ac ni allwn ariannu pob un o’r ceisiadau o ansawdd da a dderbyniwn. 

Perchnogaeth

Disgwyliwn i chi fod yn berchennog ar unrhyw eiddo (tir, adeiladau, eitemau treftadaeth neu eiddo deallusol) yr ydych yn gwario'r grant arno neu feddu ar les sy'n bodloni ein gofynion.

Rhaid i chi fod yn berchennog ar y rhydd-ddaliad neu feddu ar les gydag o leiaf bum mlynedd yn weddill arni ar ôl Dyddiad Cwblhau'r Prosiect.

Dyddiad Cwblhau'r Prosiect yw'r dyddiad pan fyddwn yn eich hysbysu y rhoddwyd cofnod wedi'i gwblhau i'r Prosiect.

Rhaid i bob les fodloni'r gofynion canlynol:

  • nid ydym yn derbyn lesau sydd â chymalau torri (mae’r rhain yn rhoi’r hawl i un neu fwy o bartïon y les ddod â’r les i ben o dan rai amgylchiadau)
  • nid ydym yn derbyn lesau sydd â fforffediad ar gymalau ansolfedd (mae’r rhain yn rhoi’r hawl i’r landlord ddod â'r les i ben os bydd y tenant yn mynd yn fethdalwr)
  • mae'n bosibl y bydd modd i chi werthu, is-osod neu forgeisio'r cyfan neu ran o’ch les, ond os byddwn yn dyfarnu grant i chi, rhaid i chi gael caniatâd gennym yn gyntaf i wneud unrhyw un o’r rhain

Os mai tir sy'n eiddo i drydydd parti neu drydydd partïon lluosog yw testun eich prosiect, byddwn fel arfer yn disgwyl i'r perchennog gael ei wneud yn grantï ar y cyd. Mewn rhai sefyllfaoedd, yn hytrach na gwneud y perchennog yn grantï ar y cyd, efallai y byddwn yn gofyn iddynt lofnodi llythyr ychwanegol yn cytuno i gydymffurfio ag unrhyw delerau ac amodau sy’n ymwneud â’u heiddo.

Yn yr achos hwn, dylid rhoi cytundeb cyfreithiol ar waith hefyd rhwng pob perchennog tir neu adeilad a'r grantï. Nid oes ffurf ragnodedig ar gytundeb, ond mae gennym ofynion penodol y dylid eu cynnwys mewn unrhyw gytundeb perchennog trydydd parti.

Fel lleiafswm, dylai’r cytundebau gynnwys y canlynol:

  • cadarnhad ynghylch sut mae’r tir wedi'i ddal (rhydd-ddaliad neu ar brydles)
  • disgrifiad o'r eiddo (gan gynnwys cynlluniau)
  • cyfamodau ar ran y perchennog i gynnal a chadw’r eiddo a darparu mynediad cyhoeddus yn unol â thelerau’r grant (fel y bo’n berthnasol)
  • darpariaeth y dylai unrhyw warediad ymlaen fod yn ddarostyngedig i'r cytundeb trydydd parti
  • cadarnhad y bydd y cytundeb yn para o ddechrau’r gwaith ar dir y trydydd parti tan bum mlynedd ar ôl Dyddiad Cwblhau’r Prosiect

Bydd angen cwblhau'r cytundebau a'u rhoi ar waith cyn rhyddhau unrhyw arian grant ar gyfer gwaith ar unrhyw dir neu adeilad sy'n eiddo i drydydd parti.

Rydym yn derbyn ceisiadau am brosiectau tirwedd a natur sydd ar dir cyhoeddus a phreifat, ar yr amod bod y budd cyhoeddus yn drech nag unrhyw fudd preifat i’r tirfeddiannw(y)r unigol os ydynt yn unigolion preifat neu’n sefydliadau er-elw.

Gwaith digidol

Mae gennym ofynion penodol ar gyfer gwaith digidol a gynhyrchir fel rhan o unrhyw brosiect.

Mae hyn yn ymdrin ag unrhyw beth yn eich prosiect rydych yn ei greu mewn fformat digidol sydd wedi'u dylunio i roi mynediad i dreftadaeth a/neu helpu pobl i ymgysylltu â threftadaeth a dysgu amdani.

Er enghraifft, gallai hyn gynnwys ffotograffau, testun, meddalwedd, cynnwys gwe ac apiau, cronfeydd data, modelau 3D, recordiadau sain a fideo. Nid yw eitemau a grëir wrth reoli'r prosiect, er enghraifft e-byst rhwng aelodau tîm a chofnodion cyfarfodydd, wedi'u cynnwys yn y gofyniad.

Gofynnwn i chi rannu eich allbynnau digidol o dan drwydded agored. Ein trwydded agored ddiofyn yw CC-BY 4.0. Mae hyn yn helpu dileu rhwystrau i ddefnyddio ac ailddefnyddio gwaith a ariennir, gan alluogi gwell ymgysylltiad â threftadaeth y DU. Mae hefyd yn helpu sicrhau bod eraill yn rhoi credyd priodol i'ch gwaith.

Mae ein rheoliadau ynghylch gwaith digidol yn amrywio gan ddibynnu ar faint y grant.

Gallwch ddarllen arweiniad pellach ar gynhyrchu deunyddiau digidol fel rhan o brosiect.

Caffael

Rhaid i chi ddilyn ein canllawiau caffael. Fel trosolwg, dylai prosiectau ag unrhyw nwyddau, gwaith neu wasanaethau unigol sy’n werth mwy na £9,999 (ac eithrio TAW), geisio o leiaf dri thendr/dyfynbris cystadleuol. Ar gyfer yr holl nwyddau, gwaith a gwasanaethau sy'n werth mwy na £50,000 (ac eithrio TAW), rhaid i chi ddarparu prawf o weithdrefnau tendro cystadleuol.   

Dylai eich prawf fod yn adroddiad ar y tendrau yr ydych wedi'u derbyn, ynghyd â'ch penderfyniad ar ba un i'w dderbyn. Rhaid i chi roi rhesymau llawn os na fyddwch yn dewis y tendr isaf. Gan ddibynnu ar natur eich sefydliad a’ch prosiect, mae'n bosibl y bydd gofyn i chi gydymffurfio â Deddfwriaeth Caffael y DU.     

Os yw partner yn y prosiect yn darparu nwyddau neu wasanaethau y telir amdanynt drwy'r grant, mae angen i chi ddweud wrthym pam y cawsant eu dewis a pham nad yw proses dendro agored yn briodol. Byddwn yn ystyried ai dyma’r ffordd orau o gyflawni eich prosiect ac yn disgwyl i chi ddangos gwerth am arian a bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol.

Os ydych yn ansicr ynghylch eich rhwymedigaethau, rydym yn eich cynghori i geisio cyngor proffesiynol neu gyfreithiol. Os ydych eisoes wedi caffael nwyddau, gwaith neu wasanaethau gwerth mwy na £9,999 (ac eithrio TAW) ar gyfer eich prosiect, bydd angen i chi ddweud wrthym sut y gwnaethoch chi hynny. Ni allwn dalu eich grant os nad ydych wedi dilyn y drefn gywir.   

Recriwtio staff

Rhaid hefyd i chi hysbysebu'n agored yr holl swyddi staff ar gyfer y prosiect, gyda'r eithriadau a ganlyn:   

  • Mae gennych aelod staff â chymwysterau addas ar eich cyflogres yr ydych yn ei symud i swydd ar y prosiect.
  • Rydych yn ymestyn oriau aelod staff â chymwysterau addas ar eich cyflogres fel y gall weithio ar y prosiect. Yn yr achos hwn byddwn yn ariannu cost yr oriau ychwanegol sy'n cael eu treulio ar y prosiect a bydd angen i chi ddweud wrthym beth yw eu rôl.   

Yn yr achosion hyn, mae angen o hyd i chi ddarparu disgrifiad swydd ar gyfer y swydd sy'n esbonio'r gwaith y bydd yr aelod staff a benodir yn ei wneud yng nghyd-destun eich prosiect.

Rydym wedi'n hymrwymo i sicrhau bod y sector treftadaeth yn gynhwysol ac yn gynaliadwy. Fel lleiafswm mae'n rhaid i chi ddefnyddio'r gyfradd Cyflog Byw (a Chyflog Byw Llundain lle bo'n berthnasol) ar gyfer holl staff y prosiect. Gofynnir i chi ddangos tystiolaeth o gyllidebu ar gyfer y cyfraddau Cyflog Byw fel lleiafswm yn eich costau staff a'ch cyllidebau.   

Rhaid i weithdrefnau recriwtio ymgynghorwyr a chontractwyr fod yn deg ac yn agored a glynu wrth y ddeddfwriaeth cydraddoldeb berthnasol.   

Rheoli cymorthdaliadau

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, mae’n bwysig cofio bod ein grant yn dod o arian cyhoeddus a'i fod yn ddarostyngedig i Ddeddf Rheoli Cymhorthdal 2022. Gofynnwn i chi ymgyfarwyddo â'r gofynion allweddol.

Ceir cymhorthdal pan fydd awdurdod cyhoeddus yn darparu cymorth ariannol o arian cyhoeddus sy’n rhoi mantais economaidd i’r derbynnydd, lle y gellir ystyried bod y derbynnydd hwnnw'n ymwneud â gweithgareddau economaidd. Bydd y rhan fwyaf o’n grantiau naill ai heb fod yn gymhorthdal neu’n gallu symud ymlaen fel cymhorthdal cyfreithlon sy’n bodloni gofynion Deddf Rheoli Cymhorthdal 2022.

Fel corff cyhoeddus, ein cyfrifoldeb ni yw penderfynu’n derfynol a yw eich grant yn gymhorthdal a/neu gymhwyso eithriadau perthnasol fel y bo angen ac mae ein hasesiad rheoli cymhorthdal yn rhan bwysig o’r broses ymgeisio.  Wrth baratoi eich cais dylech ystyried a yw unrhyw eithriad rheoli cymhorthdal penodol yn ofynnol ar gyfer eich prosiect. Byddwn yn disgwyl i'ch grant gydymffurfio ag egwyddorion y gyfundrefn rheoli cymhorthdal gan gynnwys y Ddeddf a'r Arweiniad Statudol a gyhoeddwyd. Os ydych yn ansicr a fydd eich prosiect yn bodloni'r gofynion perthnasol dylech geisio cyngor cyfreithiol annibynnol.

Rydym yn cadw'r hawl i bennu gofynion pellach a cheisio gwybodaeth bellach yn hyn o beth a byddwn yn disgwyl i chi ddarparu unrhyw gymorth y gallwn fod ei angen yn rhesymol i gwblhau asesiad rheoli cymhorthdal.

Embargos a sancsiynau llywodraeth y DU

Rhaid i'n grantiau beidio â chael eu defnyddio i ariannu sefydliadau sy’n cefnogi eithafiaeth, gweithgarwch troseddol ac/neu sy’n destun embargos a sancsiynau llywodraeth y DU.

Rhaid i chi ddilyn yr holl ddeddfwriaeth a rheoliadau sy'n berthnasol i'ch prosiect a chyflawni eich diwydrwydd dyladwy eich hun ar unrhyw gronfeydd, contractau neu unigolion sy'n gysylltiedig â lleoedd a allai fod yn ddarostyngedig i embargos a sancsiynau.

Os yw eich prosiect wedi'i effeithio, cysylltwch â'ch Rheolwr Buddsoddi neu eich swyddfa leol. Rydym yn cadw'r hawl i atal taliadau grant os ystyriwn fod arian cyhoeddus mewn perygl. 

Os oes gennych gwestiwn am ein hariannu, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Os oes angen cymorth pellach arnoch gyda'ch cais, gallwch gael gwybod mwy am y mathau o gymorth a chefnogaeth y gallwn eu darparu.

Os hoffech ddod o hyd i wybodaeth am ein proses gwynion, ewch i'n tudalen Gwasanaeth Cwsmeriaid

Y Gronfa Treftadaeth a Llywodraeth Cymru fydd y cyd-reolwyr data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperwch mewn perthynas â’ch cais am grant neu gais am arian grant. Byddwn yn ei brosesu'n unol â'n tasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol sydd wedi'i freinio ynom i atal twyll a gwyngalchu arian, ac i wirio hunaniaeth. 

Bydd eich data personol a data sy'n gysylltiedig â'r grant yn cael eu rhannu â rheolydd data arall, Llywodraeth Cymru, ac unrhyw gontractwr a benodir gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad allanol o’r Rhwydweithiau Natur i adolygu effaith, perfformiad a chostau'r cynllun. Byddwch yn cael eich hysbysu pan fydd gwerthusiad allanol yn cael ei gynnal a byddwch yn cael cyfle i optio allan.

Byddwn yn adolygu'r arweiniad hwn yn rheolaidd ac yn ymateb i adborth gan ddefnyddwyr. Rydym yn cadw'r hawl i wneud newidiadau fel y bo angen. Byddwn yn cyfathrebu unrhyw newidiadau cyn gynted â phosibl trwy'r dudalen we hon.

Mae’r Gronfa Rhwydweithiau Natur (rownd pedwar) yn cael ei chyflwyno gan y Gronfa Treftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.