Mynegiad o Ddiddordeb: Cronfa Rhwydweithiau Natur £250,000 i £1miliwn

Mynegiad o Ddiddordeb: Cronfa Rhwydweithiau Natur £250,000 i £1miliwn

See all updates
Gofynnwn i bob ymgeisydd sy’n gwneud cais am grant Rhwydweithiau Natur rhwng £250,000 ac £1miliwn gyflwyno Mynegiad o Ddiddordeb cyn gwneud cais.

Diweddarwyd y dudalen ddiwethaf: 8 Gorffennaf 2024.

Rhaid i chi ddefnyddio'r canllaw hwn i’ch cynorthwyo i gwblhau’r Mynegiad o Ddiddordeb ar-lein ar gyfer grantiau dros £250,000 hyd at £1m. Os na fyddwch yn cyflwyno Mynegiad o Ddiddordeb ni fyddwch yn cael eich gwahodd i gyflwyno cais llawn.

Pwysig: Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn defnyddio’r un ffurflenni ar draws amrywiaeth o raglenni yr ydym yn eu darparu. Wrth lenwi eich ffurflen gais, mae'n rhaid i chi ddilyn yr arweiniad isod am fod angen ateb rhai cwestiynau yn wahanol ar gyfer y rhaglen hon. Ni ddylech ddefnyddio'r eiconau cymorth sydd wedi'u hymwreiddio yn y ffurflen ar-lein gan nad ydynt yn gysylltiedig â'r ariannu hwn.

Mae cyfrif geiriau'r Mynegiad o Ddiddordeb yn fwriadol fyr (uchafswm o 1,000 o eiriau) er mwyn lleihau amser ac ymdrech i chi wrth gwblhau'r cam hwn.

Cyn cyflwyno

Cofiwch sicrhau eich bod wedi darllen:

Cwestiynau'r Mynegiad o Ddiddordeb

Gallwch weld y cwestiynau yn y Mynegiad o Ddiddordeb isod.

Ydych chi wedi siarad ag unrhyw un yn y Gronfa Treftadaeth am eich syniad?

Os ydych, dywedwch wrthym beth yw eu henw. Dywedwch wrthym hefyd os ydych wedi siarad ag unrhyw un yn Cyfoeth Naturiol Cymru am eich prosiect.

Disgrifiwch yr hyn y byddwch yn ei wneud yn ystod y prosiect.

Gofynnir i chi gynnwys unrhyw dasgau y mae'n rhaid i chi eu gwneud i gyflawni nod y prosiect. Mae gennych 200 o eiriau.

A oes gennych deitl ar gyfer y prosiect?

Rhaid i deitl eich prosiect gynnwys y rhagddodiad #NNF4 (er enghraifft #NNF4 Gwelliannau Gwarchodfa Natur Gweision y Neidr)

Amlinellwch sut y bydd eich prosiect yn ymateb i'n pedair egwyddor fuddsoddi.

Peidiwch â dweud wrthym am y safle(oedd) treftadaeth eto, gellir manylu ar hyn ar y cwestiwn canlynol.

Dywedwch wrthym:

  • Sut y bydd eich prosiect yn gwella cyflwr a chydnerthedd rhwydwaith safleoedd gwarchodedig Cymru drwy waith cyfalaf er budd cynefinoedd a rhywogaethau?
  • Sut y bydd eich prosiect yn gwella hygyrchedd ac ymgysylltiad â’r rhwydwaith safleoedd gwarchodedig?
  • Pa gymunedau y byddwch chi'n gweithio gyda nhw?
  • Sut y bydd eich prosiect yn gwella eich cydnerthedd sefydliadol ac, felly, eich gallu yn y dyfodol i reoli’r rhwydwaith safleoedd gwarchodedig?

Mae gennych 300 o eiriau.

Dywedwch wrthym am dreftadaeth y prosiect.

Dywedwch wrthym:

  • Ble fydd y gwaith yn digwydd?
  • Pa gynefinoedd/rhywogaethau y byddwch chi'n gweithio i'w gwella?

Ar gyfer y rhaglen hon, mae treftadaeth yn cyfeirio at y rhwydwaith safleoedd gwarchodedig. Dylech esbonio sut mae eich prosiect yn cysylltu â'r rhwydwaith (er enghraifft, enwau safleoedd penodol a chyfeirnodau grid a/neu bobl/sefydliadau sy'n eu rheoli) a pham ei fod yn bwysig (ar gyfer bioamrywiaeth/bywyd gwyllt a phobl ill dau).

Mae gennych 100 o eiriau.

Beth yw’r angen am y prosiect hwn?

Pa waith ydych chi wedi'i wneud sy'n dangos manteision posibl y prosiect? Mae gennych 200 o eiriau.

Faint o amser ydych chi'n meddwl y bydd y prosiect yn ei gymryd?

Dywedwch wrthym beth yw eich dyddiadau dechrau a gorffen amcangyfrifedig. Rhaid i'ch prosiect gael ei gwblhau erbyn 31 Mawrth 2028 gan gynnwys gwerthuso ac adrodd terfynol.

Mae gennych 50 o eiriau.

Faint mae'r prosiect yn debygol o gostio?

Rhaid i chi wneud cais am swm rhwng £250,000 ac £1miliwn Gellir amcangyfrif y costau hyn. Os oes angen llai arnoch, dylech gwblhau Ymholiad Prosiect am £50,000 i £250,000 ac nid Mynegiad o Ddiddordeb. Rhowch symiau amcangyfrifedig o gostau cyfalaf a refeniw y byddwch yn gwneud cais amdanynt.

Mae gennych 200 o eiriau.

Faint o ariannu ydych chi’n bwriadu gwneud cais amdano gennym?

Nodwch swm.

Pryd ydych chi'n debygol o gyflwyno cais am ariannu, os gofynnir i chi wneud hynny?

Mae gennych 50 o eiriau. Rhaid i chi gyflwyno'ch cais erbyn 12 hanner dydd ar 8 Tachwedd 2024.

Sut i gyflwyno

Pan fyddwch chi'n barod, cwblhewch y Mynegiad o Ddiddordeb ar ein gwasanaeth Cael eich ariannu ar gyfer prosiect treftadaeth.

Bydd angen i chi gofrestru cyfrif i chi'ch hun ac i'r sefydliad yr ydych yn gwneud cais amdano os nad oes gennych un eisoes.

Clywed yn ôl gennym

Anelwn at ymateb i'ch Mynegiad o Ddiddordeb o fewn 20 diwrnod gwaith.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost a ydych wedi llwyddo i gael eich gwahodd i gyflwyno cais llawn i Rhwydweithiau Natur Rownd 4.