Ymholiad Prosiect: Cronfa Rhwydweithiau Natur £50,000 to £250,000

Ymholiad Prosiect: Cronfa Rhwydweithiau Natur £50,000 to £250,000

Cyflwyno Ymholiad Prosiect cyn gwneud cais am grant Rhwydweithiau Natur (rownd 4) rhwng £50,000 a £250,000.

Diweddarwyd y dudalen ddiwethaf: 8 Gorffennaf 2024.

Mae'r Ymholiad Prosiect yn gam gorfodol cyn symud ymlaen at gais Rhwydweithiau Natur (rownd 4) llawn.

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarparwch i benderfynu p'un a fyddwn yn eich gwahodd i gyflwyno cais llawn ai beidio. Nid yw gwahoddiad i wneud cais yn gwarantu grant gennym yn y dyfodol, ond mae'n nodi ein bod yn gweld potensial yn eich cynigion cychwynnol.

Rhaid i chi gyflwyno eich Ymholiad Prosiect erbyn 12 hanner dydd ar 22 Gorffennaf 2024.

Cyn cyflwyno

Cwestiynau Ymholiad Prosiect

Gallwch weld y cwestiynau Ymholiad Prosiect yma.

Ydych chi wedi siarad ag unrhyw un yn y Gronfa Treftadaeth am eich syniad?

Os ydych, dywedwch wrthym beth yw eu henw. Dywedwch wrthym hefyd os ydych wedi siarad ag unrhyw un yn Cyfoeth Naturiol Cymru am eich prosiect.

Beth yw’r angen am y prosiect hwn?

Beth yw'r angen am y prosiect hwn o ran cefnogi amcanion y rhaglen Rhwydweithiau Natur? A oes risg arbennig i'r safle(oedd)?

Dywedwch wrthym am unrhyw ymchwil yr ydych wedi'i wneud gyda'ch cynulleidfa. Mae gennych 200 o eiriau.

Disgrifiwch yr hyn y byddwch yn ei wneud yn ystod y prosiect.

Gofynnir i chi gynnwys unrhyw dasgau y mae'n rhaid i chi eu gwneud i gyflawni nod y prosiect. Er enghraifft, disgrifiwch pa gamau penodol y byddwch yn eu cymryd i wella rheolaeth ar gynefinoedd/ rhywogaethau.

Mae gennych 200 o eiriau.

A oes gennych deitl ar gyfer y prosiect?

Cofiwch gynnwys y rhagddodiad #NNF4 yn nheitl eich prosiect.

Er enghraifft #NNF4 Gwelliannau i warchodfa natur gweision y neidr

Os cewch wahoddiad i gyflwyno cais llawn gallwch newid eich teitl.

Dywedwch wrthym am dreftadaeth y prosiect.

Dywedwch wrthym:

  • Ble fydd y gwaith yn digwydd?
  • Pa gynefinoedd/rhywogaethau y byddwch chi'n gweithio i'w gwella?

Ar gyfer y rhaglen hon, mae treftadaeth yn cyfeirio at y rhwydwaith safleoedd gwarchodedig. Dylech esbonio sut mae eich prosiect yn cysylltu â'r rhwydwaith (er enghraifft, enwau safleoedd penodol a/neu bobl/sefydliadau sy'n eu rheoli) a pham ei fod yn bwysig (ar gyfer bioamrywiaeth/bywyd gwyllt a phobl ill dau).

Mae gennych 100 o eiriau.

Amlinellwch sut y bydd eich prosiect yn ymateb i'n pedair egwyddor fuddsoddi.

Mae'r Gronfa Rhwydweithiau Natur yn gweddu i'n holl egwyddorion buddsoddi, ond eich cyfrifoldeb chi yw penderfynu ar gryfder y ffocws a'r pwyslais ar bob egwyddor, a dangos hynny.

Achub treftadaeth: Esboniwch sut fydd eich prosiect yn gwella cyflwr y rhwydwaith safleoedd gwarchodedig, hyd yn oed os bydd hyn yn digwydd yn y dyfodol.

Diogelu'r amgylchedd: Esboniwch sut fydd eich prosiect yn adfer cysylltedd, a sut y bydd y camau y byddwch yn eu cymryd yn lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad: Sut fydd cymunedau neu gynulleidfaoedd yn cymryd rhan yn weithredol yn y safleoedd gwarchodedig ac o’u cwmpas? A fydd unrhyw welliannau hygyrchedd?

Cynaladwyedd sefydliadol: Sut fydd eich sefydliad yn datblygu ac yn cynnal sgiliau a gallu i sicrhau dyfodol hirdymor ar gyfer safleoedd gwarchodedig?

Mae gennych 300 o eiriau.

Pwy fydd yn cymryd rhan yn y prosiect?

Dywedwch wrthym bwy fydd yn rhedeg y prosiect, unrhyw bartneriaethau ac a fydd pobl yn gwirfoddoli ar y prosiect. Mae gennych 100 o eiriau.

Faint o amser ydych chi'n meddwl y bydd y prosiect yn ei gymryd?

Rhowch amcangyfrif o'r dyddiadau dechrau a dod i ben. Noder bod yn rhaid i brosiectau ddod i ben erbyn 31 Mawrth 2028, gan gynnwys gwerthuso ac adrodd.

Mae gennych 50 o eiriau.

Faint mae'r prosiect yn debygol o gostio?

Os ydych yn gwybod, dywedwch wrthym am y costau pwysicaf, wedi'u rhannu i gostau cyfalaf a refeniw. Gellir amcangyfrif y costau hyn.

Mae gennych 200 o eiriau.

Faint o ariannu ydych chi’n bwriadu gwneud cais amdano gennym?

£[nodwch swm]

Sut i gyflwyno

Pan fyddwch yn barod, cwblhewch y cwestiynau ar ein gwasanaeth ar-lein erbyn 12 hanner dydd ar 22 Gorffennaf 2024.

Cyn cyflwyno, bydd angen i chi gofrestru cyfrif i chi'ch hun ac i'r sefydliad yr ydych yn gwneud cais amdano.

Clywed yn ôl gennym

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno ymholiad byddwn yn cysylltu â chi ym mis Awst i'ch hysbysu am y canlyniad. Os bydd eich ymholiad yn llwyddiannus, cewch eich gwahodd i wneud cais llawn erbyn y dyddiad cau sef 12 canol dydd ar 1 Hydref 2024.

Diweddariadau i'r arweiniad

Byddwn yn adolygu'r arweiniad hwn yn rheolaidd ac yn ymateb i adborth gan ddefnyddwyr. Rydym yn cadw'r hawl i wneud newidiadau fel y bo angen. Byddwn yn cyfathrebu unrhyw newidiadau cyn gynted â phosibl trwy'r dudalen we hon.