Sut i ystyried cynaliadwyedd amgylcheddol yn eich prosiect treftadaeth
Mae newid yn yr hinsawdd eisoes yn effeithio ar ein treftadaeth, ein cymdeithas a'n hamgylchedd naturiol.
Rydym am i'r holl brosiectau rydym yn eu hariannu leihau – neu helpu lleoedd a phobl i addasu i – effeithiau newid yn yr hinsawdd. Rydym yn disgwyl i bob un ohonynt gael effaith gadarnhaol ar ein hamgylchedd ac rydym yn ystyried effeithiau amgylcheddol prosiect yn ein penderfyniadau.
Mae hyn yn berthnasol i bob prosiect – p'un a yw ein cyllid yn cefnogi tirwedd gyfan, adfywio parc lleol, adnewyddu amgueddfa neu ddod â chymuned at ei gilydd.
Yr hyn a ddisgwyliwn gan brosiectau
Er mwyn cyrraedd ein gofyniad cynaliadwyedd amgylcheddol, rydym yn disgwyl i bob prosiect rydym yn ei ariannu:
- cyfyngu ar unrhyw ddifrod posibl i'r amgylchedd
- cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd ac yn enwedig ar gyfer natur
Bydd cynnwys cynaliadwyedd amgylcheddol o fewn eich prosiect o'r dechrau yn golygu bod eich prosiect yn debygol o fod yn fwy gwydn, yn gynaliadwy yn ariannol ac yn dod â manteision lluosog i bobl a'r gymuned.
Rydym yn disgwyl gweld cynaliadwyedd amgylcheddol yn rhan annatod o benderfyniadau ymgeiswyr. Dylech hefyd ystyried sut i fesur eich cynaliadwyedd amgylcheddol a sicrhau bod hyn yn rhan o'ch strategaeth werthuso.
Cysylltiadau hanfodol
Ein gofyniad cynaliadwyedd amgylcheddol.
Darllenwch ein canllawiau arferion da manwl.
Cael gafael ar gymorth ymarferol gan rwydwaith Addas i'r Dyfodol.
Newyddion
Grantiau natur gwerth £300,000 i gymunedau difreintiedig Cymru
Newyddion
Pencampwyr cacwn yn ennill Gwobr Prosiect y Flwyddyn y Loteri Genedlaethol
Straeon
A allech chi fod yn Brosiect Cynaliadwy'r Flwyddyn 2022?
Straeon
Ein cefnogaeth i bob rhywogaeth
Newyddion
Cymorth i fywyd gwyllt Aber Dyfrdwy gan gymunedau arfordirol
Newyddion
Y pencampwr amgylcheddol Maxwell Apaladaga Ayamba yn ennill Gwobr y Loteri Genedlaethol
Projects
Cwm Cynon yn rhyfeddod llesiant
Mae safle diffaith yng Nghwm Cynon wedi'i drawsnewid yn ardd gymunedol sy'n llawn pobl, natur a bywyd gwyllt – ac erbyn hyn mae'n lle perffaith i hybu iechyd meddwl.
Straeon
Sut mae ein prosiectau'n hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol
Projects
Gofod Marw i Le Byw: Trawsnewid Mynwent Rectory Lane
Trawsnewidiwyd Mynwent Rectory Lane o 'ofod marw' wedi'i esgeuluso i fod yn ofod cymunedol bywiog ac yn hafan bywyd gwyllt.
Straeon
Rhaglen grant Trysorau'r Filltir Sgwâr ar gyfer treftadaeth leol yng Nghymru yn ailagor
Blogiau
Pwysigrwydd ariannu natur
Newyddion