Grantiau natur gwerth £300,000 i gymunedau difreintiedig Cymru

Mae cyllid o bron i £300,000 yn cael ei ddarparu gan y rhaglen gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Rydyn ni wedi cael ein calonogi’n fawr gan yr ymateb i'r cyllid Chwalu Rhwystrau"
Julie James, y Gweinidog dros Newid Hinsawdd
Wedi'i lansio ym mis Gorffennaf, cynigiodd Lleoedd Lleol ar gyfer Natur - Chwalu Rhwystrau grantiau i grwpiau gan gynnwys cymunedau du a lleiafrifoedd ethnig, ffoaduriaid, Sipsiwn, Roma a Theithwyr gysylltu â natur.
Roedd cymunedau yn y 30% uchaf o Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru hefyd yn gymwys i gael cyllid.

Ymateb calonogol i Chwalu Rhwystrau
Dywedodd Julie James MS, y Gweinidog dros Newid Hinsawdd: “Rydym wedi ein calonogi’n fawr gan yr ymateb i’r cyllid Chwalu Rhwystrau a ddarparwyd gennym i ehangu cyfranogiad ac ymgysylltiad yn ein rhaglen Lleoedd Natur Lleol.
“Hoffwn longyfarch pawb sy’n ymwneud â’r prosiectau llwyddiannus, mae yna dipyn o waith hynod ddiddorol i’w wneud yma rwy’n edrych ymlaen at ddysgu mwy amdano wrth i bethau fynd yn eu blaenau.”
Y prosiectau llwyddianus
Dyma enwau y prosiectau sydd yn derbyn cyfran o'r cyllido £288,639 gan y cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur - Chwalu Rhwystrau:
• Travelling Back to Nature sydd yn cael ei arwain gan y Romani Cultural & Arts Company yn ne ddwyrain Cymru, £78,137
• Greening Riverside sydd yn cael ei arwain gan South Riverside Community Centre, Caerdydd, £81,202
• Greening Maindee Together o dan arweiniad Maindee Unlimited and the Community House Eton Road, Casnewydd, £39,300
• Connecting People to Nature a reolir gan Llanelli Multicultural Network, £30,000
• Green Connect Project sydd yn cael ei arwain gan Women Connect First, Caerdydd, £60,000
Mae’r rhaglen grant yn rhan o gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru sydd wedi ymrwymo i greu, adfer a gwella natur ‘ar garreg eich drws’.

Treulio amser gyda natur
“Ni fu erioed yn bwysicach gofalu am natur, helpu pobl i’w ddeall, treulio amser ynddo a gwerthfawrogi ei bwysigrwydd”, meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.
“Dyna pam roeddem ni wrth ein boddau o fod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflwyno’r rhaglen grant Lleoedd Lleol i Natur - Chwalu Rhwystrau i helpu i ailgysylltu pobl o gymunedau lleiafrifol a difreintiedig â’r byd naturiol.
“Mae'r rhaglen wedi anelu at ymgysylltu ag ystod ehangach o bobl â natur a bydd hefyd yn ein helpu i gael gwell dealltwriaeth o'r rhwystrau sy'n eu hwynebu i ymgysylltu â natur a nodi atebion posibl."