A allech chi fod yn Brosiect Cynaliadwy'r Flwyddyn 2022?
Mae'r wobr hon a noddir gan y Loteri Genedlaethol yn dathlu cynaliadwyedd amgylcheddol mewn amgueddfeydd, treftadaeth a sefydliadau diwylliannol ledled y DU.
Mae angen cymryd camau brys ar gyfer ein hamgylchedd, ac mae'r wobr hon wedi'i datblygu mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd ac ecolegol presennol sy'n ein hwynebu.
"Wrth i COP26 ganolbwyntio'r byd ar argyfyngau hinsawdd ac ecolegol ein planed, mae nawr yn amser hanfodol i ystyried sut y gallwn ni i gyd wneud gwahaniaeth drwy ein bywydau, ein gwaith a'n gweithredoedd ein hunain."
Drew Bennellick, Pennaeth Polisi Tir a Natur Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
Ymrwymiad i gynaliadwyedd
Mae'r sector treftadaeth yn chwarae rhan bwysig wrth helpu i leihau allyriadau carbon a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Rydym yn chwilio am brosiectau neu arddangosfeydd amgylcheddol-gynaliadwy eithriadol sy'n helpu i gyflawni hyn.
Am y tro cyntaf yn 2022 bydd dau enillydd:
- Un sydd wedi defnyddio dulliau syml, fforddiadwy a hawdd eu trosglwyddo. Fel ein enillydd yn 2020, Amgueddfa Rhydychen. Cafodd yr arddangosfa dros dro 'Queering Spires: a history of LGBTIQA+ spaces in Oxford' ei chydnabod am ei dull cynaliadwy o ddod o hyd i ddarnau a deunyddiau celf lleol.
- Un sydd wedi cyflawni prosiect cyfalaf amgylcheddol gynaliadwy. Fel enillydd 2021, Pwll Jiwbilî Penzance. Roedd y lido yma yn torri tir newydd drwy lleihau ei effaith amgylcheddol yn sylweddol drwy greu pwll gwres geothermol cyntaf y DU.
Gwyliwch y foment cyhoeddodd Ros Kerslake CBE Pwll Jiwbilî fel yr enillydd yn ystod y seremoni rithwir.
Dywedodd Drew Bennellick, Pennaeth Polisi Tir a Natur Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: "Wrth i COP26 ganolbwyntio'r byd ar argyfyngau hinsawdd ac ecolegol ein planed, mae nawr yn amser hanfodol i ystyried sut y gallwn ni i gyd wneud gwahaniaeth drwy ein bywydau, ein gwaith a'n gweithredoedd ein hunain.
"Mae ein enillwyr blaenorol wedi gosod y bar yn uchel gyda'u hymrwymiad a'u dulliau arloesol o gynaliadwyedd ac edrychwn ymlaen at ddathlu hyd yn oed mwy o enghreifftiau eleni."
Gwobrau Museum + Heritage / Amgueddfeydd + Treftadaeth
Mae gwobrau blynyddol Amgueddfeydd + Treftadaeth wedi dod yn feincnod ar gyfer rhagoriaeth yn y sector.
Meddai Anna Preedy, Cyfarwyddwr Gwobrau Amgueddfeydd + Treftadaeth: "Mae'r gwobrau hyn yn cydnabod y llwyddiannau anhygoel, creadigrwydd, arloesedd, gwaith caled ac ymrwymiad llwyr sy'n amlwg ar draws y sector amgueddfeydd a threftadaeth, gyda'r enillwyr a'r rhai sydd ar y rhestr fer yn cynrychioli'r gorau o'r goreuon. Rydym yn gobeithio y bydd y categorïau newydd a gyhoeddwyd eleni yn ysbrydoli prosiectau o bob maint i'w cyflwyno eu hunain i gael eu hystyried."
Sut i gymryd rhan
Rydym yn chwilio am brosiectau y mae'n rhaid iddynt ddangos arfer gorau o ran sut y gwnaethant reoli eu heffeithiau amgylcheddol yn ystod 2021. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys:
- mesurau effeithlonrwydd ynni
- ailgylchu ac ailddefnyddio
- caffael cynaliadwy
- cefnogi teithio gwyrdd i ymwelwyr
Dylai ceisiadau hefyd nodi unrhyw fanteision economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol ehangach i'r sefydliad neu'r gymuned sydd wedi deillio o 'feddwl yn gynaliadwy'.
Efallai y bydd prosiectau cyfalaf yn arbennig yn dymuno dangos sut y maent yn cyflawni yn erbyn Nodau Cynaliadwyedd perthnasol y Cenhedloedd Unedig.
Mae'r wobr hon yn rhad ac am ddim ac yn agor tan 1 Chwefror 2022, cyhoeddir yr enillydd ar 11 Mai 2022. Dysgwch fwy a sut i wneud cais ar wefan Gwobrau Amgueddfeydd + Treftadaeth.
Gwneud eich prosiect yn gynaliadwy
Mae angen pob prosiect rydym yn ei gefnogi i ymdrechu i wella cynaliadwyedd amgylcheddol a chreu manteision cadarnhaol i fyd natur.
Edrychwch ar yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gan ein prosiectau a chael eich ysbrydoli:
- darllenwch ein canllawiau cynaliadwyedd amgylcheddol
- darganfyddwch prosiectau mwy amgylcheddol gynaliadwy yr ydym wedi'u hariannu
- cael awgrymiadau ar sut i ystyried cynaliadwyedd amgylcheddol yn eich prosiect treftadaeth