![People viewing an exhibition at the International Slavery Museum](/sites/default/files/styles/main_image_desktop/public/media/imgs/International%20Slavery%20Museum%205%20%28c%29Pete%20Carr.jpg.webp?itok=sTAzVLZs)
Heritage Horizon Awards
Rydym wedi rhoi bron i £10miliwn i'r amgueddfa fel rhan o Grantiau Treftadaeth Gorwelion, gan gefnogi ei symudiad i adeilad hanesyddol Dr Martin Luther King Jr. Wrth wraidd adfywio dociau Lerpwl, nod y prosiect yw dod yn ganolfan genedlaethol ar gyfer addysgu hanes Pobl Dduon ac etifeddiaeth caethwasiaeth drawsatlantig.
Dod â phartneriaid at ei gilydd o bedwar ban y byd
Bydd yr amgueddfa'n gweithio gyda'r gymuned leol a'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan gaethwasiaeth yn Lerpwl, ledled y DU, ac yn rhyngwladol.
Byddant yn gwneud hyn drwy:
- rhaglenni cynnwys ac ymgysylltu amgueddfeydd
- model gweithio a arweinir gan y gymuned
- bod yn adnodd canolog i sefydliadau ledled y sector
![Event at the International Slavery Museum](/sites/default/files/inline-images/Zines%20event%20at%20the%20Museum%20%28c%29%20Pete%20Carr%20%281%29_Int%2CSlavery%20museum.jpg)
Newid byd
Bydd yr arian yn mynd ymhellach na'r Amgueddfa Gaethwasiaeth Ryngwladol i ganiatáu i Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl i ymgorffori hanes Pobl Dduon a chaethwasiaeth ym mhob un o'n lleoliadau.
Laura Pye, Cyfarwyddwr, Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl.
Bydd taith yr amgueddfa yn cefnogi pobl a sefydliadau i fod yn asiantau o'u newid eu hunain, drwy raglen o drylwyredd academaidd, trafodaethau a rhannu gwybodaeth.
Drwy helpu pobl i ddysgu ar yr un pryd am gaethwasiaeth hanesyddol a dathlu cyflawniad a threftadaeth ddu, ei nod yw dod yn esiampl symbolaidd o obaith.
Dywedodd Laura Pye, Cyfarwyddwr Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl: "Mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â'r themâu sy'n ymwneud â chaethwasiaeth hanesyddol, hawliau dynol, hiliaeth a gwahaniaethu. Bydd yr arian yn mynd ymhellach na'r Amgueddfa Gaethwasiaeth Ryngwladol wrth ganiatáu i Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl ymgorffori hanes Pobl Dduon a'r etifeddiaeth o gaethwasiaeth ym mhob un o'n lleoliadau."