Heritage Grants
Mae'r clwb wedi defnyddio'r arian i gyhoeddi llyfr – '100 mlynedd o Harriers Port Talbot 1921–2021', gan lywydd y clwb, John Davies. Maent hefyd wedi bod yn bwriadu sefydlu archif ar-lein o ddelweddau o'r 1920au hyd heddiw.
Sefydlwyd Port Talbot Harriers yn 1921, roedd ei aelodau cynnar yn cynnwys y rhedwr pellter hir Ike O'Brien. Cynrychiolodd dîm Athletau YMCA Prydain ym Mhencampwriaethau'r Byd YMCA 1930 yn Copenhagen, a Phrydain yn Olympiad Gweithwyr 1932 yn Fienna.
Ym mis Chwefror 1961, ennillodd Jim O'Brien – mab Ike O'Brien – Bencampwriaeth TrawsGwlad Cymru ym Mlaendulais.
“Rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a gawsom gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol"
Bernard Henderson, Cadeirydd Port Talbot Harriers.
Dywedodd Bernard Henderson, Cadeirydd Port Talbot Harriers: "Rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a gawsom gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Fe'n galluogodd i brynu offer priodol a derbyn cefnogaeth broffesiynol ar gyfer creu a dylunio gwefannau'r archif ar-lein.
"Rydym wedi bwriadu ei wneud yn wefan nad yw'n sefydlog ond yn un a fydd yn parhau i dyfu a chofnodi gweithgarwch i'r dyfodol."
Os cewch eich ysbrydoli gan y prosiect yma, dysgwch fwy am ein cynnig Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol rhwng £3,000 a £10,000.