Achub straeon LGBTQ+ cyn iddynt gael eu colli am byth
Roedd Deddf Troseddau Rhywiol 1967 yn garreg filltir yn y ffordd hir at gydraddoldeb i'r gymuned LGBTQ+.
Yn rhannol, gwnaeth ddad-droseddoli gweithredoedd rhywiol preifat rhwng dynion dros 21 oed (nid oedd gweithredoedd rhywiol rhwng menywod erioed wedi'u troseddoli).
Ond dim ond dechrau oedd y tirnod cyfreithiol yma – a basiwyd yng Nghymru a Lloegr yn unig. Ac i lawer o ddynion, arweiniodd at fwy o erlyniadau a gwahaniaethu, tra bod rhai'n wynebu blacmel a hyd yn oed perygl i'w bywydau.
Bydd prosiect Arts' Legacy of 67, sydd yn ddiweddar wedi cyhoeddi grant o £76,200 gan y Gronfa Treftadaeth, yn rhannu atgofion y bobl a oedd yn byw drwy'r cyfnod cythryblus hwn. Buom yn siarad â Jez Dolan a David Dolan Martin o'r prosiect am yr hyn y maent yn gobeithio ei gyflawni.
O ble y daeth y syniad?
Jez: Trafodaeth a gawsom yn ystod y cyfnod clo wrth fynd â'r ci am dro – daw'r holl syniadau gorau wrth fynd â'r ci am dro – oedd bod y 'Ddeddf 67 yn foment hanesyddol sylweddol [ond beth oedd] yr effaith wirioneddol a wnaeth, yn enwedig ar fywydau dynion hoyw?
Os oeddech chi o dan 30 oed yn 1967, rydych chi'n eithaf hen nawr. Mae llawer o'r straeon sydd gan y bobl hynny mewn perygl o ddiflannu am byth.
David
David: Roedd Jez wedi cael sgwrs gyda dyn ifanc a ddywedodd: 'Dydw i ddim deall y ffws hwn am y peth HIV ac AIDS hwn.' Arweiniodd hynny at feddwl: 'Wel, dyw pobl ddim yn deall beth ddigwyddodd yn yr '80au. Pwy ar y ddaear sy'n gallu cofio beth ddigwyddodd yn y '60au ac y '50au?' Os oeddech chi o dan 30 oed yn 1967, rydych chi'n eithaf hen nawr. Mae llawer o'r straeon sydd gan y bobl hynny mewn perygl o ddiflannu am byth.
Mae eich prosiect yn dwyn ynghyd lawer o elfennau – hanesion llafar, taith gerdded, theatr – pam wnaethoch chi ddewis y fformat hwn?
Jez: Bydd hanes llafar wrth galon y prosiect a byddwn yn hyfforddi pobl mewn technegau hanesion llafar. Y nod yw gweithio mewn modd rhwng cenedlaethau, fel bod gennym bobl iau o bosibl yn cyfweld â phobl hŷn a bydd y cyfweliadau hynny'n cael eu harchifo.
Yna mae'n cymryd y straeon hynny ac yn rhoi bywyd newydd iddyn nhw [mewn ffurfiau eraill], ac yn rhoi cynulleidfa ehangach iddyn nhw hefyd.
David: Roedd y ffordd y mae Jez yn arbennig wedi gweithio o'r blaen (gyda Polari Mission a gefnogir gan y Gronfa Treftadaeth flaenorol a Life’s a Drag) yn ymddangos yn ffordd dda iawn o gael y straeon hynny allan. Byddem fwy neu lai wedi penderfynu sut y gallai'r prosiect edrych mewn ugain munud!
Jez: Ar ben hynny, mae rhai o'r straeon hynny (LGBTQ+) yn bodoli, ond gallant fod yn ganolog iawn i Lundain. Gallant eithrio pobl dosbarth gweithiol ac yn sicr pobl o liw a menywod.
Pam mae'n bwysig adrodd y straeon diwylliannol hyn?
Jez: Pan fyddaf wedi gwneud gwaith gyda grwpiau LGBTQ+ ifanc ac yn dweud wrthynt: 'Roedd cyfunrywioldeb yn anghyfreithlon', maen nhw'n aml yn ymateb: 'Rydych chi'n dweud celwydd!'. Ond roedd yn anghyfreithlon, yn ystod fy oes i, ac nid yw pobl yn gwybod hynny am nad yw'n cael ei addysgu mewn ysgolion.
Hefyd: Mae gan Fanceinion boblogaeth hoyw enfawr, poblogaeth cwir, ac mae The Gay Village yn rhan ganolog iawn o hynny. Ond os ydych chi'n berson cwiar ifanc a'ch bod yn dod i Fanceinion o ble bynnag, ble ydych chi'n dysgu am eich hanes? Ble ydych chi'n dysgu am eich diwylliant?
A yw'r cysyniad o beth "yw" hanes neu dreftadaeth yn newid?
Jez: Yn y gwerthusiadau o'n prosiectau, mae pobl – cyfranogwyr, gwirfoddolwyr – wedi dweud: 'Mae hyn yn dod â phopeth yn agos. Mae'n ymwneud â mi. Gallaf uniaethu ag ef ac mae angen inni gael mwy o hyn.'
David: Rwy'n credu bod diddordeb cyffredinol mewn hanes, sy'n lledaenu o fod am hanes gwleidyddol i hanes pobl. Rwy'n meddwl am sioe deledu A House Through Time David Olusoga. Mae hynny'n eithaf pwerus ac mae'r prosiect hwn yn amlygiad i hynny. Ond ar yr un pryd, mae'n amlygiad sy'n dangos gormes a gwahaniaethu.
Nes y gall pobl gerdded i lawr y stryd law yn llaw â'u partner, gwraig, gŵr, pwy bynnag, yna... mae angen inni barhau i wneud hyn ac mae angen inni barhau i siarad amdano.
Jez
Jez: Nid hanes yn unig yw hyn. Mae pobl yn dal i gael eu curo neu eu lladd oherwydd pwy maen nhw'n eu caru, ac mae hynny'n droseddol ac yn anfoesol. Nes y gall pobl gerdded i lawr y stryd law yn llaw â'u partner, gwraig, gŵr, pwy bynnag, yna... mae angen inni barhau i wneud hyn ac mae angen inni barhau i siarad amdano.
Rydych wedi gweithio gyda ni ers 10 mlynedd, a yw eich syniad o gynhwysiant wedi newid yn y cyfnod hwnnw? Beth yw'r ffordd orau o gynnal prosiect cynhwysol?
Jez: O'r cychwyn cyntaf, roeddem yn meddwl bod angen i ni wneud hyn mor gynhwysol â phosibl. Ac fel dynion hŷn, gwyn, hoyw, nid ni yw'r bobl orau o reidrwydd i ddechrau cymryd rhan mewn ffordd ystyrlon gyda chymunedau duon, er enghraifft.
Ac mae pobl ciwar du yn dal i fod yn guddiedig iawn mewn llawer o amgylchiadau, hyd yn oed yn rhywle fel Manceinion, a dyna pam rydym wedi partneru â (grŵp gweithredu cymunedol sy'n dathlu pobl LGBTQI o liw) Rainbow Noir. Rydym am weithio ochr yn ochr â nhw i sicrhau bod yr hyn rydym yn ei wneud yn agored ac yn ymgysylltu ac nid yn ymwneud â symbolaeth.
Ar ein pen ein hunain, nid ydym yn mynd i fagu'r cydberthnasau hynny rydyn ni eisiau.
David
David: Ar ôl bod yn rhan o'r sector theatr ers 20, 30 mlynedd, bu llawer o fentrau lle mae pobl yn dweud: 'byddwn yn rhaglennu hyn oherwydd bydd y bobl hynny, pwy bynnag yw'r bobl hynny, yn ei hoffi'. Mae'r mentrau hynny'n methu dro ar ôl tro.
Mae'n rhaid iddo fod yn ymgysylltu ar lefel strategol er mwyn i'r bobl rydych chi'n ceisio eu denu fod yn rhannol gyfrifol am y gwaith sy'n cael ei raglennu.
Ar ein pen ein hunain, nid ydym yn mynd i fagu'r cydberthnasau hynny rydyn ni eisiau.
Oes gennych chi unrhyw gyngor ar gyfer prosiectau sy'n gwneud elfennau digidol yn effeithiol?
Jez: Mae angen i ni wneud cymaint o'r gwaith yn ddigidol ag y gallwn. Felly, er enghraifft, bydd y daith gerdded hefyd yn ap a'r symposiwm y byddwn yn ei ddarlledu drwy Zoom.
David: Rydyn ni i gyd yn llawer mwy hyddysg yn ddigidol nag oedden ni ddwy flynedd yn ôl. Rwy'n credu mai'r prif gyngor yw: os nad ydych yn gwybod sut i'w wneud, mae'n debyg eich bod yn adnabod rhywun sy'n gwybod. Un peth sydd wedi ein helpu i fod yn llwyddiannus yn ddigidol yw creu partneriaethau unwaith eto. Er enghraifft, heb gefnogaeth Archives+ yn Llyfrgell Ganolog Manceinion, byddai wedi bod yn anodd iawn cael ein gwybodaeth allan yno.
Pa awgrymiadau sydd gennych ar gyfer prosiectau LGBTQ+ eraill sy'n gwneud cais am gyllid am y tro cyntaf?
David: Y peth cyntaf y byddwn yn ei ddweud yw bod ymagwedd y Gronfa Treftadaeth at geisiadau yn hygyrch iawn, iawn. Roedd yr adborth a'r gefnogaeth a gawsom wrth wneud y cais hwn yn anhygoel ac yn cael croeso mawr iawn.
Ynglŷn â'r prosiect
Bydd Legacy of '67 yn recriwtio ac yn hyfforddi tîm o wirfoddolwyr i gasglu straeon cyn ac ar ôl Deddf Troseddau Rhywiol 1967, gan gofnodi effaith gymdeithasol a hanesyddol dad-droseddoli cyfunrywioldeb yn rhannol yng Nghymru a Lloegr.
Mae elfennau'r prosiect yn cynnwys:
- hanesion llafar wedi'u trawsgrifio a'u darparu yn Archifau Llyfrgell Ganolog Manceinion+
- arddangosfa gyhoeddus yn y llyfrgell, wedi'i churadu gan wirfoddolwyr
- symposiwm ar gyfer gweithredwyr, academyddion, artistiaid a haneswyr
- taith gerdded o amgylch y ddinas, sydd ar gael ar ffurf ddigidol a chorfforol
- comisiwn theatr newydd a berfformiwyd yn Theatr Edge Manceinion
- celf weledol newydd, a fydd yn cael ei arddangos yn y llyfrgell a Sefydliad Bishopsgate yn Llundain
Mae'r partneriaid yn cynnwys: y Sefydliad LGBT, Llyfrgell ganolog Manceinion ac Archives+, myfyrwyr MA Rhywedd a Rhywioldeb Prifysgol Manceinion, cyflenwyr tai â chymorth, Cynghrair Rainbow Noir, Edge Theatre.
Dysgwch fwy am Initiative Arts.
Ymgeisio am gyllid
Meddai Liz Ellis, Rheolwr Prosiect Polisi'r Gronfa Treftadaeth i gynhwysiant: "Fel ariannwr rydym yn gwybod bod llawer mwy o straeon am fywydau LGBTQ+ i ymchwilio a rhannu ledled y DU. Rydym yn croesawu clywed gan fwy o rwydweithiau a sefydliadau LGBTQ+ sydd â syniadau i'w harchwilio mewn prosiectau treftadaeth yn y dyfodol."
Dysgwch fwy am yr hyn rydym yn ei ariannu a dechrau arni gyda'ch prosiect heddiw.