Beth rydym yn ei olygu wrth dreftadaeth?
Rheolwr Ymgysylltu o ddwyrain Lloegr, Debbie Cooper sy'n trafod yr hyn a olygwn wrth siarad am dreftadaeth, gan ddefnyddio enghreifftiau gwych o brosiectau yn y rhanbarth honno.
Nid ydym yn diffinio treftadaeth – gofynnwn i chi ddweud wrthym beth sy'n bwysig a beth y dylid ei ddiogelu a'i gadw.
I ni, gall treftadaeth fod yn unrhyw beth o'r gorffennol yr ydych yn ei werthfawrogi ac am ei drosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol.
Debbie Cooper, Rheolwr Ymgysylltu Lloegr, Canolbarth Lloegr a Dwyrain Lloegr yng Nghronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Rydym am ysbrydoli cymaint o ymgeiswyr am y tro cyntaf â phosibl. Gwyliwch ein fideo i gael gwybod mwy – gobeithiwn y bydd yn darparu'r sbardun hwnnw i'ch helpu i ddechrau arni.
Angen mwy o ysbrydoliaeth? Archwiliwch rai o'r prosiectau anhygoel rydym wedi'u hariannu.
Mae'r fideo uchod ar gael yn Saesneg yn unig gan ei fod ei greu gan dîm canolbarth a dwyrain Lloegr Cronfa Treftadaeth sydd wedi'i leoli y tu allan i Gymru. Byddwn yn creu rhai ein hunain yng Nghymru yn y dyfodol.
Adnoddau defnyddiol
Darganfyddwch fwy am ein proses ariannu:
- archwilio'r hyn rydym yn ei ariannu a'n grantiau sydd ar gael
- deall ein canlyniadau ar gyfer prosiectau treftadaeth
- os oes angen help arnoch gyda'ch cais, o gyfieithwyr i ofynion lleoliad, dysgwch fwy am y gwahanol fathau o gymorth y gallwn eu darparu