30 prosiect dros 30 mlynedd
Ers 1994, rydym wedi buddsoddi dros £8.6 biliwn a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol mewn mwy na 47,000 o brosiectau treftadaeth ar draws y DU.
O adeiladau hanesyddol, ein hetifeddiaeth ddiwydiannol a'r amgylchedd naturiol, i gasgliadau, traddodiadau, storïau a mwy – rydym wedi ariannu prosiectau bach a mawr sy'n ymestyn o Ynysoedd Sili i Ynysoedd Erch.
Ar gyfer y flwyddyn dirnod hon dyma rai o’n ffefrynnau: prosiectau sy'n cynrychioli ehangder treftadaeth a'r amrywiaeth anferth o bethau o'r gorffennol yr ydych yn eu gwerthfawrogi ac eisiau eu trosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol.
Dros y 30 diwrnod nesaf, yn barod ar gyfer ein pen-blwydd yn 30 oed ar 19 Tachwedd, byddwn yn rhannu un prosiect y dydd ar gyfer pob un o'n 30 mlynedd, yma ac ar ein sianeli cymdeithasol.
2001
Moors for the Future, Peak District
High Peak, Lloegr
Swm y grant: £3,136,000
Fe wnaeth y prosiect partneriaeth graddfa fawr hwn wella bioamrywiaeth y rhostiroedd trwy adfer llystyfiant gorgors ddirywiedig ac adfer llwybrau troed, a fu'n helpu yn ei dro i leihau aflonyddwch i lystyfiant yn y dyfodol. Canolbwyntiodd hefyd ar ymchwil, cynnal arolygon gwaelodlin o rywogaethau gan gynnwys adar sy'n nythu yn ogystal â defnydd hamdden o'r rhostiroedd ac agweddau ymwelwyr. Roedd y prosiect hefyd yn enghraifft wych o rannu gwybodaeth, trwy gynnal cynadleddau i drafod heriau a chyfleoedd cyffredin i rostiroedd.
2000
Tower Curing Works Maritime Museum (sef Time and Tide Museum)
Great Yarmouth, Lloegr
Swm y grant: £2,594,500
Roedd Tower Fish Curing Works unwaith yn hyb prysur o ddiwydiant yn Great Yarmouth ond caeodd ei ddrysau ym 1988. Helpodd ein grant i drawsnewid y safle – un o’r ffatrïoedd halltu penwaig Fictoraidd sydd wedi’i gwarchod orau yn y DU – yn amgueddfa sy’n adrodd hanes treftadaeth forwrol a physgota gyfoethog yr ardal. Ers 2004 mae wedi'i hadwaen fel Time and Tide Museum a chyrhaeddodd rownd derfynol cystadleuaeth Amgueddfa Ewropeaidd y Flwyddyn 2006 a derbyniodd Wobr Sandford am ragoriaeth mewn addysg ar draws safleoedd treftadaeth yn 2014.
1999
Chatham Historic Dockyard Consolidated Project No 1
Chatham, Medway, Lloegr
Swm y grant: £1,315,000
Un o gyfres o wyth prosiect a fuddsoddodd dros £13miliwn rhwng 1997 a 2006 i warchod a gwella'r iard longau a sicrhau ei dyfodol fel atyniad i ymwelwyr. Datblygwyd yr iard longau yn sgil Diwygiad Protestannaidd yr 16eg ganrif a chysylltiadau dirywiol â gwledydd Catholig tir mawr Ewrop. Bu’n amddiffynfa bwysig i’r wlad am fwy na 400 mlynedd, ac yn un o gyfleusterau pwysicaf y Llynges Frenhinol, cyn iddi gau ym 1984. Mae tua 80 erw, sy'n cynnwys craidd y safle o'r 18fed ganrif, bellach yn cael ei reoli gan Chatham Historic Dockyard Trust. Mae'n cynnwys llongau hanesyddol, adeiladau rhestredig, rheilffordd ac amgueddfeydd sy'n olrhain Oes yr Hwylio a hanes llyngesol Prydain.
1998
Birkenhead Park – Restoration Plan
Penbedw, Cilgwri, Lloegr
Swm y grant: £26,800
Cydnabyddir Birkenhead Park, yr ysbrydoliaeth ar gyfer Central Park yn Efrog Newydd, yn gyffredinol fel parc cyhoeddus cyntaf y DU. Dechreuodd ein perthynas â’r parc ym 1998 pan wnaethom ariannu ei gynllun adfer cychwynnol. Ddwy flynedd wedyn roedd yn barod i wneud cais am grant mwy – a oedd yn llwyddiannus – i ariannu gwaith adfer mawr. Cafodd ei lynnoedd eu gwagio, eu glanhau a'u hadfer, adfywiwyd y pafiliynau criced a'r pontydd, adferwyd y tirlunio ac adnewyddwyd ac agorwyd porthdai'r fynedfa fawr at ddefnydd y gymuned.
1997
Caffael 'Whistlejacket' gan George Stubbs
San Steffan, Llundain, Lloegr
Swm y grant: £8,268,750
Cydnabyddir Whistlejacket fel y paentiad mwyaf uchelgeisiol a gynhyrchwyd gan yr arlunydd o’r 18fed ganrif, George Stubbs. Helpodd ein grant i’w sicrhau i’r genedl, gan roi cartref iddo yn yr Oriel Genedlaethol, Llundain. Yn dilyn y caffaeliad, teithiodd y paentiad ledled y wlad gan ysbrydoli rhaglen addysg arloesol a fabwysiadwyd wedi hynny gan orielau ac ysgolion ar draws y DU. Ers cael ei arddangos yn barhaus yn yr oriel, mae wedi cael ei gredydu am gynyddu niferoedd ymwelwyr.
1996
Whitby Abbey Headland Project
Whitby, Gogledd Swydd Efrog, Lloegr
Swm y grant: £317,000
Adfeilion Gothig dramatig eglwys Benedictaidd o'r 13eg ganrif, a adeiladwyd ar ôl y goncwest Normanaidd, sy'n dominyddu pentir yng Ngogledd Swydd Efrog. Hwn oedd safle ein cyhoeddiad a gosodiad celf treftadaeth Game Changer ddiweddar. Dros y blynyddoedd – gan ddechrau ym 1996 – rydym wedi dyfarnu mwy na £3.7miliwn i ariannu’r gwaith o adfer a diogelu harddwch naturiol a chymeriad hanesyddol Pentir Whitby, o welliannau i barcio, mynediad a dehongli, i warchod olion sy’n sefyll yr abaty.
1995
Clevedon Pier Head
Clevedon, Gogledd Gwlad yr Haf, Lloegr
Swm y grant: £1,195,313
Un o'r grantiau cynharaf a ddyfarnwyd gennym ar ôl i ni gael ein sefydlu ym 1994 oedd cefnogi camau olaf y gwaith o adfer Pier Clevedon. Fe'i hadeiladwyd yn y 1860au gan ddefnyddio hen linellau rheilffordd Barlow diangen o Reilffordd lydan De Cymru Isambard Kingdom Brunel, ac erbyn y 1970au roedd angen ei atgyweirio ar frys. Ariannodd ein grant y gwaith o adfer decin ac adeiladau y Pier Head ac atgyweiriadau i'r llwyfan glanio concrit. Bu ddathliad mawr i ailagor y pier ym 1998. Yn 2001 dyfarnwyd statws rhestredig Gradd 1 iddo – yr unig bier cyfan yn Lloegr â'r anrhydedd hwnnw.
Mynnwch gip ar y prosiectau uchod ar fap.
Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol: X/Twitter, Facebook and Instagram.
Oes gennych syniad ar gyfer eich prosiect treftadaeth eich hun? Mynnwch fwy o wybodaeth am yr hyn a ariannwn.