£30miliwn wedi'i ddyfarnu i 15 o brosiectau treftadaeth cyn ein penblwydd 30
Rydym ychydig dros fis i ffwrdd o ddathlu ein pen-blwydd ni – a’r Loteri Genedlaethol – yn 30 oed ar 19 Tachwedd. Ond yn gyntaf, rydyn ni'n dathlu swp newydd o brosiectau treftadaeth a ariannwyd gennym ar draws y DU.
Byddant o fudd nid yn unig i dreftadaeth, ond i unigolion, cymunedau a'r amgylchedd. Gyda’i gilydd, bydd y 15 o brosiectau'n:
- creu 87 o swyddi a phrentisiaethau
- cefnogi dros 620 o gyfleoedd gwirfoddoli
- plannu mwy na 100,000 o goed
- ailddatblygu dros 1,000,000m sgwâr o dir, o dirweddau afon i dir cestyll
Grantiau ar gyfer pobl a natur
Mae'r prosiectau rhyfeddol hyn yn dangos yr ehangder anhygoel o dreftadaeth y mae pobl yn ei gwerthfawrogi ac eisiau ei throsglwyddo i genedlaethau'r dyfodol.
Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
The newly funded projects are:
Y prosiectau newydd eu hariannu yw:
Parc Crystal Palace, Llundain (dyfarniad o £4,696,649) a fydd yn adfer ei gerfluniau deinosor enwog ac yn adfywio 200 erw o fannau gwyrdd y parc.
Gorsaf Tilbury Riverside, Essex (£4,478,310) a fydd yn creu hyb cymunedol, gan gynnwys stiwdios artistiaid a chaffi, mewn hen adeilad gorsaf yn y porthladd lle dociodd yr Empire Windrush ym 1948.
Project Tullie: Breaking Down Barriers, Caerliwelydd (£4,453,582) a fydd yn trawsnewid Amgueddfa Tullie House yn hyb diwylliannol arloesol a chynaliadwy sy'n cynrychioli ei gymunedau lleol.
Whose Hoo, Swydd Gaint (£2,943,041) a fydd yn plannu coed a gwrychoedd llwyfen a all wrthsefyll clefydau, gan gynyddu bioamrywiaeth a darparu cyfleoedd cymdeithasol i’r gymuned.
Ripon Museums: Inspiration for a Fairer Future, Gogledd Swydd Efrog (£2,573,493) a fydd yn gwneud gwaith atgyweirio hanfodol i adeilad y tloty Fictoraidd ac yn gwella rheolaeth ar ei gasgliadau, sy'n adrodd hanes tlodi, trosedd, tegwch a chyfiawnder.
Reimagining and Revitalising Watford’s Museum and Heritage Service, Swydd Hertford (£2,454,347) a fydd yn cefnogi adleoli'r amgueddfa i Neuadd y Dref restredig Gradd II ar ei newydd wedd i ddiwallu anghenion cymunedau lleol yn well.
Riverwoods: A Blueprint for Riparian Woodland Recovery, ar draws Yr Alban (£1,834,114) a fydd yn gwella coetiroedd ac yn rhoi hwb i fioamrywiaeth mewn afonydd a nentydd i gynnal rhywogaethau gan gynnwys cregyn gleision ac eogiaid.
Downs to the Sea: Recovery & Resilience in Wetland Habitats, Chichester (£1,693,187) a fydd yn adfer gwlypdiroedd a phyllau hanfodol, gan isafu effaith sychder a thoi hwb i fioamrywiaeth.
Exmoor Pioneers: Past, Present and Future (£1,227,803) a fydd yn cynnal y dirwedd leol, yn plannu coed, yn trefnu cloddfeydd cymunedol ac yn gwarchod treftadaeth fregus.
Menter y Plu, Llanystumdwy (£1,055,089) a fydd yn trawsnewid tafarn bentref 200 oed yn hyb cymunedol i fynd i’r afael ag unigedd cymdeithasol ac afiechyd meddwl.
Catalyst Science Discovery Centre and Museum: The Synergy Project, Swydd Gaer (£1,009,930) a fydd yn archwilio arwyddocâd treftadaeth y diwydiant cemegol lleol a'i ddylanwad ar y byd heddiw.
Ail-ddychmygu Castell Margam, Port Talbot (£900,030) a fydd yn adfer y plasty Gothig Tuduraidd, gan wella cynaladwyedd a hygyrchedd a chreu mannau cyhoeddus defnydd cymysg newydd.
Making Available the Heritage of All Saints, Swydd Stafford (£558,268) a fydd yn gwarchod nifer o asedau treftadaeth yr eglwys gan gynnwys ffenestri gwydr lliw o'r 12fed ganrif.
The Nerve Centre: Power Plants Belfast (£255,172) a fydd yn defnyddio creadigrwydd i archwilio’r broses o gynhyrchu a defnyddio pŵer, dirywiad rhywogaethau planhigion brodorol a bioamrywiaeth, a’r angen am ddiogelu ac atgyweirio ein treftadaeth naturiol.
Reading, Writing, Restoration: Bushmills' Old School Project, Gogledd Iwerddon (£29,000) a fydd yn atgyweirio ac yn ehangu adeilad yr ysgol i greu gofod cymunedol ac ymwelwyr newydd.
Ehangder y dreftadaeth
Meddai Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: “Mae'r prosiectau rhyfeddol hyn yn dangos yr ehangder anhygoel o dreftadaeth y mae pobl yn ei gwerthfawrogi ac eisiau ei throsglwyddo i genedlaethau'r dyfodol.
“Ni allaf aros am weld beth a ddaw yn y dyfodol wrth i ni weithio i gyflwyno ein gweledigaeth i werthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a’i chynnal ar gyfer pawb, nawr ac yn y dyfodol.”
Ers 1994, rydym wedi dyfarnu mwy na £8.6 biliwn a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i 47,000 o brosiectau treftadaeth ar draws y DU. Trwy ein Strategaeth Treftadaeth 2033, rydym yn disgwyl buddsoddi £3.6bn pellach dros y 10 mlynedd nesaf.