Mannau Addoli

Mannau Addoli

Plentyn ifanc mewn gwisg ysgol yn edrych i fyny ac yn gwenu y tu mewn i synagog
O eglwysi a chapeli i fandirau a mosgiau, mae addoldai ymhlith adeiladau hanesyddol hynaf a mwyaf annwyl i bobl yn y DU.

Ers 1994, rydym wedi dyfarnu dros £1bn i fwy na 8,200 o brosiectau addoldy ar draws y DU.

Waeth p’un a gânt eu defnyddio at ddibenion addoli neu ddibenion eraill, mae’r lleoedd hyn a’u treftadaeth adeiledig, eu gwrthrychau a'u diwylliant anniriaethol yn adrodd hanes bywyd yn y DU dros y canrifoedd. Mae'r adeiladau a'u hamgylchoedd yn aml hefyd yn gartrefi ac yn gynefinoedd i rywogaethau a natur sy'n mynd yn gynyddol brin megis ystlumod.

Ein hymagwedd

Gwyddom fod y sector yn newid a bod y galw ar gyfer ein hariannu'n newid hefyd. Rydym yn ymroddedig i gefnogi addoldai a’r bobl sy’n gofalu amdanynt drwy’r newid hwnnw, ym mha ffordd bynnag y mae hynny'n digwydd.

Trwy ein Strategaeth Treftadaeth 2033 mae gennym ymagwedd newydd at gefnogi addoldai hanesyddol, sydd wedi'i hymwreiddio yn ein hymchwil i'r anghenion a'r heriau mewn gwahanol ardaloedd a gwledydd yn y DU.

Rydym yn cefnogi addoldai unigol

Mae grantiau rhwng £10,000 a £10m ar gael drwy ein rhaglen Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i gefnogi cymunedau sy’n gofalu am addoldai o bob ffydd.

Byddwn yn cyflwyno ymagwedd newydd yn ddiweddarach yn 2024 o ran sut yr ydym yn estyn allan at y rhai sy'n rheoli addoldai i'w hannog i wneud cais.

Sut i ddod o hyd i ariannu

Efallai y byddwch hefyd am archwilio'r Cynllun grantiau Addoldai Rhestredig.

Pa fath o brosiect y gallem ei ariannu?

Gallwn gefnogi prosiectau sy'n ymwneud ag:

  • archwilio'r adeilad a dod ag ef yn fyw trwy ddehongliadau newydd
  • gwaith atgyweirio angenrheidiol i waith maen, systemau nwyddau dŵr glaw, neu doeon, gan alluogi’r adeilad i ddod oddi ar y Gofrestr Treftadaeth Mewn Perygl
  • cynnal gweithgareddau dysgu a digwyddiadau cymunedol treftadaeth, a chreu gofod ar eu cyfer trwy wneud mân newidiadau i'r ffabrig
  • archwilio, gwarchod a dehongli bioamrywiaeth mannau allanol gan gynnwys mynwentydd a chladdfeydd
  • darparu gwell mynediad i dreftadaeth gan ddefnyddio technoleg ddigidol
  • digwyddiadau cymunedol i gynnwys pobl yn y gwaith o gofnodi tynnu, atgyweirio ac ailosod clychau, organau, arfbeisiau, a byrddau noddwyr, yn ogystal â’r gwaith atgyweirio
  • cyfleoedd i bobl ddysgu am y gelfyddyd mewn addoldai, ochr yn ochr â rhaglen gadwraeth, fel gwydr lliw, cofebion a henebion, paentiadau wal, cerfluniau, ffitiadau hanesyddol, neu graffiti
  • darganfod, gwarchod a dysgu am y creaduriaid sy'n byw yn yr adeilad, fel ystlumod neu adar ysglyfaethus
  • gweithgareddau i helpu'ch grŵp i reoli treftadaeth yn fwy effeithiol, fel ymchwilio i gynulleidfaoedd presennol a newydd, ehangu eich cronfa wirfoddolwyr, neu roi cynnig ar ddulliau newydd o godi arian neu gynhyrchu incwm
  • gosod cyfleusterau megis toiledau y gellir dangos y byddant yn galluogi defnydd mwy cynhwysol o'r adeilad yn y dyfodol

Mynnwch gip ar newyddion ac astudiaethau achos diweddar o addoldai rydym wedi'u cefnogi isod.

Rydym yn cefnogi sefydliadau sy’n mynd i’r afael â heriau ar draws y sector

Mae addoldai'n un o ffocysau presennol ein menter strategol Treftadaeth mewn Angen.

Rydym yn gweithio gyda sefydliadau mantell a all gael effaith eang ar draws y sector addoldai i fynd i’r afael ag anghenion, heriau, a phroblemau hirsefydlog yn gyffredinol. Mae ein partneriaeth gyda'r Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol a'r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol  yn buddsoddi mewn ffyrdd creadigol a chydweithredol o achub ac ailddefnyddio adeiladau hanesyddol a chynyddu cydnerthedd sefydliadau.

Yn ddiweddar, rydym wedi cyhoeddi manylion sut y byddwn yn buddsoddi £15 miliwn ychwanegol dros dair blynedd i ariannu prosiectau strategol sy'n mynd i'r afael ag anghenion treftadaeth a all gael effaith ar raddfa genedlaethol neu ranbarthol.