Dewch i gwrdd â saith o bobl sydd wedi 'newid y gêm' ar draws treftadaeth, tir a natur

Dewch i gwrdd â saith o bobl sydd wedi 'newid y gêm' ar draws treftadaeth, tir a natur

A group of seven men and women standing in front of the Whitby Abbey ruins
O sylfaenwyr i actifyddion ac arloeswyr, rydym yn dathlu'r rhai y gwnaethoch eu henwebu am eu heffaith anhygoel dros 30 mlynedd o ariannu treftadaeth gan y Loteri Genedlaethol.

Ers gêm gyntaf y Loteri Genedlaethol ym 1994, mae biliynau o bunnoedd wedi’u codi ar gyfer achosion da, gan gynnwys treftadaeth. I nodi’r ben-blwydd yn 30, gwnaethom ofyn i chi ddweud wrthym am yr arweinwyr a’r cyfranogwyr mwyaf ysbrydoledig ac ymroddedig o brosiectau treftadaeth; pobl sydd wedi newid y gêm ym maes treftadaeth.

Mae’r saith Newidiwr Gêm a ddewiswyd wedi’u hanrhydeddu mewn gosodiad celf tir 5,400m sgwâr yn Abaty Whitby. Wedi'i greu gan yr artist o Efrog Newydd David Popa, mae'r gwaith celf 'coeden dreftadaeth' yn gorchuddio'r adfail gothig ac yn symbol o gyfraniad dwfn y Newidwyr Gêm at dreftadaeth. Mae wedi'i wneud gan ddefnyddio pigmentau organig a fydd yn pylu ac yn diflannu dros amser.

An aerial view of Whitby Abbey with a tree and hands holding the tree's roots painted on the ground around the abbey

Datgelwyd y gwaith celf a’r Newidwyr Gêm y bore 'ma (1 Hydref) gan yr actor a’r darlledwr, Syr Tony Robinson, a ddywedodd: “Ar draws sbectrwm ein treftadaeth a’n cadwraeth, mae effaith yr achosion a’r prosiectau a hyrwyddwyd gan y Newidwyr Gêm hyn yn amlwg – ac roedd rôl y Loteri Genedlaethol wrth alluogi hyn yn hollbwysig.”

Dyma nhw:


Syr Tim Smit, cyd-sylfaenydd Prosiect Eden – o ganlyniad i'w weledigaeth, trawsnewidiwyd pwll clai adferedig yng Nghernyw yn atyniad ecolegol byd-enwog sy'n ysbrydoli pobl i ailgysylltu â byd natur. 

Sir Tim Smit


Arthur Torrington CBE, cyd-sylfaenydd Sefydliad Windrush – mae ei ymdrechion i gasglu storïau pwerus y Genhedlaeth Windrush ar draws y DU yn sicrhau bod eu hetifeddiaeth yn cael ei chadw ac y gall ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.  

Arthur Torrington CBE


Teresa Anderson MBE, Cyfarwyddwr Canolfan Ymgysylltu Jodrell Bank – mae’r ffisegydd yn hyrwyddo gwyddoniaeth fel ffurf ar dreftadaeth ddiwylliannol sy’n adrodd stori pwy ydym ni, ac wedi helpu Jodrell Bank i gael ei chydnabod fel safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn 2019. 

Teresa Anderson MBE


Chantelle Lindsay, cyflwynydd, Swyddog Prosiect gydag Ymddiriedolaeth Natur Llundain ac eiriolwr dros amrywiaeth a chynhwysiad mewn bywyd gwyllt – mae hi wedi helpu chwalu rhwystrau i fyd natur ac wedi ysbrydoli pobl ifanc a'r rhai o gymunedau ethnig amrywiol trwy gymryd rhan mewn prosiectau a chyflwyno yn y cyfryngau.

Chantelle Lindsay


Sandy Bremner, cynullydd Awdurdod y Parciau Cenedlaethol - Ar hyn o bryd mae'n goruchwylio rhaglen Cairngorms 2030, prosiect gwerth £12.5 miliwn i drawsnewid y Cairngorms yn barc cenedlaethol sero net cyntaf y DU.

Sandy Bremner


Lisa Power MBE, arloeswr dros hawliau LHDTCRhA+ a gwirfoddolwr Pride Cymru – fel cydlynydd y Prosiect Eiconau a Chynghreiriaid, mae Lisa’n dadorchuddio ac yn anrhydeddu ffigurau LHDTCRhA+ arloesol a chynghreiriaid o bob cwr o Gymru, yn ogystal ag eistedd ar Fwrdd Queer Britain, yr amgueddfa LHDTCRhA+ genedlaethol. 

Lisa Power MBE


Heidi McIlvenny, arweinydd prosiect menter Sea Deep Ulster Wildlife tan fis Mehefin 2022 – lansiodd raglen tagio siarcod, y cyntaf o’i fath yng Ngogledd Iwerddon, ac mae’n cydlynu ymdrechion i gasglu data hanfodol am siarcod, garwbysgod a morgathod lleol.

Heidi McIlvenny

30 mlynedd o effaith

Meddai Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: “Mae creu’r gosodiad Coeden Treftadaeth syfrdanol yn Abaty Whitby yn anrhydeddu’r saith Newidiwr Changer anhygoel ac yn symboleiddio’n hyfryd wreiddiau dwfn ac effaith bythol gynyddol pob un, gan adlewyrchu ein huchelgais a rennir i gryfhau treftadaeth.”

Enwebwyd y Newidwyr Gêm gan aelodau o'r cyhoedd ac fe'u dewiswyd gan banel yn cynnwys aelodau o deulu'r Loteri Genedlaethol a phartneriaid.

Dewch i adnabod y Newidwyr Gêm

Cael gwybod mwy am y saith Newidiwr Gêm treftadaeth, a 21 arall sydd wedi gwneud cyfraniadau at y celfyddydau, ffilm, chwaraeon a chymuned dros 30 mlynedd y Loteri Genedlaethol.

Erbyn 1994, rydym wedi dyfarnu mwy na £8.6 biliwn a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i 47,000 o brosiectau treftadaeth ar draws y DU.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...